Valentine – Lewis (1893-1986)

Pe byddai’r enwad Bedyddiedig yn gorfod ystyried rhestr o weinidogion amlycaf eu  cyfraniad yn ystod yr ugeinfed ganrif, byddai’r mwyafrif yn siŵr o gyfeirio at Lewis Valentine yn un ohonynt. Roedd yn sefyll yn ddwylath dalsyth ac yn ddiwinydd galluog a allai, o ddewis hynny, fod wedi dilyn gyrfa lwyddiannus fel academig prifysgol. Ond nid dyna a wnaeth. Roedd ganddo ddoniau llenyddol sylweddol fel rhyddieithwr a bardd, er dewisodd beidio â datblygu’r doniau  hynny, gan ymroi yn hytrach i hyrwyddo’r wasg enwadol fel golygydd Seren Gomer a Seren Cymru. Mae’n siŵr fod ‘Dros Gymru’n gwlad, o Dad dyrchafwn gri’, yn un o emynau mwyaf cyfarwydd y ganrif, emyn sy’n cael ei ystyried gan lawer fel gwir anthem genedlaethol Cymru. Gan fod cymaint o ysgrifau am Lewis Valentine wedi digwydd, yn arbennig y cofiant sylweddol gan Arwel Vittle, ŵyr i’w chwaer, nid oes diben gorlwytho’r ysgrif hon gyda manylion y gellir eu darllen mewn mannau eraill. Cyhoeddodd lawer o ysgrifau ei hun yn Seren Cymru a Seren Gomer a phob un ohonynt yn dangos y meddwl aeddfed a’r bersonoliaeth gadarn oedd iddo. Nodwn yn yr ysgrif hon ei brofiadau fel Cristion, yn weinidog a golygydd, heddychwr a gwleidydd.

Ganed Lewis Valentine i Samuel a Mary Valentine yn 1893, yn ail o saith plentyn. Ei frawd hynaf oedd Richard William, ac yn iau nag ef oedd Idwal, Hannah, Nel, Stan a Lilian.    Chwarelwr diwylliedig oedd y tad, a’i fam yn wraig urddasol a selog i’r ffydd Gristnogol. Gweithiai Samuel fel ‘check-weighman’ yn y chwarel galch leol, er iddo gael ei ordeinio dan nawdd ei gymanfa i bregethu ac i weinyddu’r ordinhadau yn ei eglwys leol. Cyfeiriodd droeon at yr eglwys fechan a fu’n fam eglwys iddo ac i’r teulu cyfan. Bu’r capel bach yn Llanddulas yn gartref ysbrydol iddo yn blentyn ac yn ddyn ifanc ac yn ysbrydiaeth ar hyd ei oes. Ymfalchïa Lewis yn ei fagwraeth yn Llanddulas, y pryd hynny yn bentref gwerinol Cymraeg ei iaith. Erbyn diwedd ei oes, roedd yn hiraethu am Landdulas ei blentyndod, ac yn poeni bod yr ardal wedi ei meddiannu gan fewnfudwyr di-Gymraeg. Er iddo ddewis ymddeol yno, sylweddolodd yn fuan nad dyna oedd y man gorau iddo, a chyn diwedd ei oes symudodd ef a’i briod Margaret i Hen Golwyn.

Derbyniodd ei addysg gynradd yn Ysgol y Plwyf yn Llanddulas a symud wedyn i Ysgol Uwchradd Bae Colwyn. Magodd ddiddordeb mewn ieithoedd yno, a chael blas ar Ladin a Groeg, ynghyd a Chymraeg a Saesneg. Gan iddo fod yn rhy ifanc i fynd i’r Brifysgol ym Mangor, er mwyn magu profiad aeth yn ôl i’w ysgol gynradd yn Llanddulas fel disgybl athro, a mwynhau cael gwneud. Gwnaeth ei orau glas i gyflwyno mwy o Gymraeg i’r disgyblion dan ei ofal nac oedd yn arferol pan oedd ef yn ddisgybl yno. Yn ystod y cyfnod hwn daeth i adnabod y cenedlaetholwr a’r llenor Emrys ap Iwan, sef Robert Ambrose Jones (1848-1906), a rhyfeddu at ei weledigaeth. Meddai Emrys ar weledigaeth eang ac Ewropeaidd mewn materion gwleidyddol a diwylliannol.

Wedi cychwyn ar ei gwrs gradd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor, dechreuodd y Rhyfel Mawr. Ymunodd â’r fyddin a cheir portreadau byw o’r hyn a brofodd ar faes y gad yn ei gyfres ysgrifau ‘Dyddiadur Milwr’. Ynddo, gallwn ddarllen am ei atgofion o’r gyflafan erchyll honno. Bu’n brofiad dirdynnol iddo, gan ei droi yn heddychwr o argyhoeddiad. Ceir pennod bwysig am y cyfnod yn llyfr Arwel Vittle. Fel llawer un arall o’i gyfoedion a fu yn Ffrainc, gadawodd y profiad ei ôl yn annileadwy arno.

Pan ddychwelodd o’r Rhyfel Mawr, aeth yn ôl i’r coleg ac ail-gydio yn ei waith academaidd, sef cwblhau ei radd mewn Ieithoedd Semitig. Llwyddodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf, ac aeth ymlaen i gwblhau gradd uwch mewn Hebraeg. Yn ystod ei flwyddyn olaf ac yntau ar y pryd yn llywydd y myfyrwyr, cafodd wahoddiad gan y Tabernacl, Eglwys Fedyddeidig Llandudno, i fod yn weinidog iddynt. Derbyniodd yr alwad ar y ddealltwriaeth ei fod am gwblhau ei gwrs ymchwil cyn cael ei ordeinio. Yn y cyfamser cafodd gynnig bod yn ddarlithydd cynorthwyol yn ei adran yng Ngholeg y Brifysgol, ond ei wrthod a wnaeth. Yn 1921, ordeiniwyd ef fel gweinidog eglwys y Tabernacl, a threuliodd 26 mlynedd yno. Rhif yr aelodaeth yr eglwys pan gafodd ei ordeinio oedd 338. Yn Hydref 1923, priododd â Margaret Jones, merch 25 oed o Landudno. Ganwyd iddynt ddau blentyn sef Hedd yn 1924 a Gweirrul yn 1932.

Roedd yn bregethwr egnïol a’i neges yn Feiblaidd a chyfoes. Cyflwynodd gylchgrawn misol Y Deyrnas i’r eglwys, ac ar wahân i drafod newyddion am yr aelodau, bu’n llwyfan trafod pynciau moesol a chymdeithasol y dydd. Pur anaml y byddai’n rhoi arlliw pleidiol i’r erthyglau hyn, ond roedd o hyd yn awyddus i ddangos y cyswllt rhwng y diwinyddol a’r cymdeithasol. Bu’n gefnogwr brwd i COPEC sef y ‘Christian Conference on Politics, Economics and Citizenship’, symudiad oedd yn gydnaws â’i agweddau cymdeithasol. Credai bod hawl gan bob gweinidog gael un diddordeb oddi allan i’w waith, a’i ddiddordeb ef oedd gwleidyddiaeth. Yn 1925 daeth yn un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol Cymru, a safodd yn ei henw yn etholaeth Caernarfon yn ystod etholiad cyffredinol 1929, ond nid oedd Cymru yn aeddfed i ethol cenedlaetholwyr i’w chynrychioli yn y cyfnod hwnnw.

Rhan o’r frwydr dros Gymru Rydd oedd y weithred o losgi’r Ysgol Fomio yn  Penyberth, Pen Llŷn yn 1936. Roedd arweinwyr y Blaid Genedlaethol wedi penderfynu bod angen gweithred symbolaidd a fyddai’n herio’r sefydliad Prydeinig a deffro cydwybod a hunaniaeth y Cymry.  Dewiswyd tri o’u plith i weithredu, sef yr academydd Saunders Lewis, Lewis Valentine y gweinidog a’r heddychwr, a D. J. Williams, Abergwaun, yntau yn athro ysgol gwylaidd a diymhongar. Mae’r hanes, sydd wedi ei groniclo yn fanwl mewn sawl cyfrol, bellach yn rhan bwysig o hanes Cymru’r ugeinfed ganrif. Arweiniodd y weithred at ddedfryd o garchar am naw mis yn Wormwood Scrubs ond dychwelodd y tri yn arwyr ymhlith llu o’u cydwladwyr.

Er yn weinidog ffyddlon ac ymroddgar yn Llandudno, daeth Lewis Valentine dan y lach gan nifer o bobl ei enwad am iddo gefnogi Saunders Lewis, ac yntau’n Babydd, fel ymgeisydd am sedd y Brifysgol yn etholiad cecrus 1943. Pan ddaeth swydd tiwtor Beiblaidd yng Ngholeg y Bedyddwyr ym Mangor yn wag tua’r un pryd, roedd yn un o ddau a gafodd eu hystyried amdani, ond synhwyrodd (efallai oherwydd ei safbwynt gwleidyddol) nad oedd ‘y gwynt o’i blaid’ a thynnodd ei enw yn ôl. Erbyn hynny roedd Llandudno wedi newid, ac nid oedd yn gartrefol bellach ynghanol y don Seisnig a ysgubodd dros y dre. Ystyriodd wahoddiad Seion Ponciau i fod yn weinidog iddynt yn 1943, ond nid oedd yn teimlo mai hynny fyddai’n iawn. Yn 1947, daeth galwad i fynd yn weinidog yn Eglwys Penuel, Rhosllannerchrugog, ac fe’i sefydlwyd yno ym mis Hydref y flwyddyn honno. Mwynhaodd 23 mlynedd yno cyn ymddeol yn 1970. Roedd y pentref yn naturiol Gymreig, ac er bod dylanwad y blaid Lafur arno yn drwm, roedd yn ddigon cartrefol yng nghwmni ei drigolion. Ceir digon o dystiolaeth iddo fod yn ddylanwad da ar ei ofalaeth, ac aeth ati i ysgrifennu tra roedd yn y Rhos. Derbyniodd gyfrifoldeb golygyddiaeth Seren Gomer a dyma oedd oes aur y cylchgrawn hwnnw. Bu’n amlwg yng ngweithgareddau Cymanfa Dinbych, Fflint a Meirion, a chael llawer o hwyl yn anghydweld â’r Parchg E. K. Jones, Wrecsam.  Mae’n siŵr bod y ddau yn deall ei gilydd yn iawn, er iddo alw E.K. Jones yn ‘Jack in the Box’ droeon!  Etholwyd ef yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1962 a thraddododd anerchiad grymus a chofiadwy yn cynnig dadansoddiad manwl ar gyflwr crefydd yng Nghymru.

Er yr holl bosibliadau gyrfaol, arhosodd Lewis Valentine yn weinidog eglwys gydol ei oes a hynny yn y gogledd ddwyrain, ardal ei fagwraeth a lle roedd mor hoff ohono. Bu’n arwr i liaws, ac yn gyfaill calon i’w gyd weinidogion. Roedd yn weinidog greddfol ac wrth ei fodd gyda phobl ifanc. Eto, faint o blith ei gyfoedion oedd yn ei adnabod yn dda, ac i ba raddau mae’r cenedlaethau iau yn gyfarwydd â’i hanes?  Yn hwyr, hwyr yn y dydd, sef yn 1986 ac yntau’n 93 oed, derbyniodd gydnabyddiaeth y genedl trwy ddyfarnu iddo radd Doethur mewn Diwinyddiaeth, ond ni fu byw yn ddigon hir i’w derbyn. Canodd Dafydd Iwan fawlgan amdano ac mae ei stori yn ysbrydoliaeth i Gristnogion, i Gymry da i garedigion yr iaith Gymraeg. Mae Cymdeithas Heddwch Undeb Bedyddwyr Cymru wedi cyfuno enw Lewis Valentine yn ei henw gan gofio ei wasanaeth fel cadeirydd ac arweinydd y gymdeithas honno am flynyddoedd maith.

Cyhoeddiadau:

  • John Emyr (gol.), Lewis Valentine: Dyddiadur Milwr a Gweithiau Eraill (Llandysul, Gwasg Gomer, 1988).
  • Arwel Vittle, Lewis Valentine  (Tal-y-bont: Gwasg y Lolfa, 2006)
  • Densil Morgan, ‘Y proffwyd ymhlith y praidd: Lewis Valentine (1893-1986)’, yn Cedyrn Canrif: Crefydd a Chymdeithas yng Nghymru’r Ugeinfed Ganrif(Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2001), 68-104.
  • Dafydd Johnston yn Y Bywgraffiadur Cymreig.

Cyfrannwr:

Denzil John