Undeb 2025 – Llundain

Ar gael bellach mae ffurflen gofrestru i fynychu cyfarfodydd blynyddol Adran Gymraeg UBC yn Llundain, ar wahoddiad Eglwys Gymraeg Canol Llundain, gan gynnwys Eglwys Fedyddiedig Castle Street.

Er mwyn hwyluso trefniadau prydau bwyd, gofynnir i chwi nodi ym mha brydau y byddwch yn cymryd rhan. Ffi £60. Dylid cadw lle erbyn dydd Sadwrn, Mai 10fed, 2025 trwy gysylltu Mrs. Lynne John, 83 Durham Rd., Raynes Park, Llundain, SW20 0DF neu trwy ebostio post@ubc.cymru

Gellir lawrlwytho’r ffurflen briodol yma:

Ceir cipolwg o’r rhaglen yma:

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Rhoi Dyfodol Newydd i Adeiladau Capel

Ers rhai blynyddoedd bellach mae UBC wedi bod yn dilyn strategaeth newydd o ailddatblygu adeilad pan fydd achos yn dod i ben ac adeilad capel, yn drist, yn colli’r eglwys a fu’n addoli yno. Erbyn hyn mae’r strategaeth yn dechrau dwyn ffrwyth, gydag enghreifftiau positif yn datblygu mewn gwahanol rannau o’r wlad…

Darllen mwy »

CIOs Cenhadol Newydd

Cawn glywed wrth Iwan Davies, Cyfreithiwr Mygedol UBC, am gynlluniau cyffrous sy’ ar y gweill i sefydlu CIOs (sef Sefydliad Corfforedig Elusennol neu ‘Charitable Incorporated Organisation’) rhanbarthol newydd i ganolbwyntio ar genhadaeth… 

Darllen mwy »

Oedfa Ilston Flynyddol – ym Mro Gŵyr

Ers blynyddoedd lawer fe gynhelir oedfa goffaol flynyddol gan Undeb Bedyddwyr Cymru yn Ilston, Gŵyr. Bydd yr Oedfa eleni yng ngofal y Parchedig Rob Nicholls, gyda chefnogaeth a chyfraniad wrth eglwysi a gweinidogion lleol ac yn cychwyn…

Darllen mwy »