Gofod Cynnes

Yn anffodus, mae’r anghenion yn ein cymdeithas wedi tyfu i’r fath raddau fel bod mannau cynnes wedi dod yn anghenraid i lawer ledled y wlad, gyda mannau cynnes yn ymddangos mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol ac hyd yn oed amgueddfeydd. Ond mae cyfran fawr o’r gofodau hyn yn cael eu rhedeg gan eglwysi, ac mae llawer o’n heglwysi Bedyddiedig wedi teimlo’r alwad i weld sut y gallant ddefnyddio eu cyfleusterau i gyfrannu at gyrraedd yr angen mawr yma  – gan gyfuno’r angen am gynhesrwydd sylfaenol gyda bwyd a chwmnïaeth. 

‘Fel llawer o eglwysi, rydym wedi ei chael yn her i weld sut allwn ni helpu pobl yn ein cymuned yn ystod y gaeaf hwn,’ meddai Phil Hibbert, gweinidog Eglwys Bethel yn Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg. Ers mis Gorffennaf mae’r eglwys wedi bod yn siarad â sefydliadau ac eglwysi yn y dref ynghylch sut y gallent gydlynu eu darpariaeth mewn ffordd sy’n cynnig gofodau drwy gydol yr wythnos ond sy’n caniatáu i bob un fod â’i flas unigryw ei hun. Y canlyniad yw ymgyrch ar y cyd â brandio cyson iddo. Fel hyn mae Bethel yn gwybod bod o leiaf pum lle cynnes ar gael ar draws yr wythnos maent yn gallu cyfeirio pobl atyn nhw.  
Mae’r eglwys ei hun wedi sefydlu’r hyn y mae’n ei alw’n “Warm Wednesdays”, sy’n rhedeg yn uniongyrchol ar ôl ysgol a hefyd pan fydd y banc bwyd (sy’n cael ei gynnal ym Methel) yn gorffen.  ‘Mae’r gofod cynnes yn cynnig yn union hynny,’ eglura Phil. ‘Amgylchedd hamddenol a chynnes.’  Gan redeg o 3:15pm – 5pm mae yno ddiodydd poeth, byrbrydau, teganau ac ardal lle gellir gwneud gwaith cartref. Dywed Phil eu bod wedi ceisio ei gadw mor agored â phosib o ran yr hyn maent yn ei gynnig ‘oherwydd ein bod am i’r rhai sy’n mynychu ddweud wrthym beth sydd ei angen arnynt, yn hytrach nag i ni gymryd yn ganiataol.’   

Mae rhai eglwysi wedi penderfynu manteisio ar y cyfle i ganolbwyntio eu harlwy ar rannu prydau bwyd, fel Capel Pentref ym mhentref y Bontnewydd-ar-Wy yng nghanolbarth Cymru. Maen nhw am gynnig “lle croesawgar cynnes i unrhyw un fyddai’n mwynhau ychydig o gwmni dros bryd o fwyd bob mis – does dim angen cysylltiad capel. Mae rhai ohonom sy’n aml yn bwyta ar ein pennau ein hunain yn gwerthfawrogi sgwrs bob nawr ac yn y man!” Y tro diwethaf, fe gasglodd tua 25 o bobl yn neuadd y capel ac “roedd y bwrlwm yn yr ystafell yn hyfryd wrth i’r slow cookers wagio’n raddol a chafwyd hyd i ambell frathiad o bwdin hefyd.” 

 Yn yr un modd yn Aberteifi, mae Eglwys Fedyddiedig Mount Zion wedi agor eu hadeilad bob dydd Mawrth o 3:30 tan 9pm, gyda phryd o fwyd dau gwrs yn ffurfio canolbwynt i’r cyfnod hwn – boed yn cawl a chrymbl neu daten bôb gyda brownie i bwdin. Ac yng Nghaernarfon,  mae Eglwys Caersalem bellach yn rhedeg sesiwn ‘Cawl a Chwmni’ dros amser cinio estynedig bob dydd Iau. Fel mae Rhys Llwyd, bugail yr eglwys, yn ei esbonio ‘os ydan ni fel cymuned eglwysig yn mynd i wario arian ar redeg adeilad, yna mae angen i ni ei ddefnyddio i wasanaethu pobl. Beth ydy hi’n ei olygu i ddangos cariad Cristnogol yn y tymor hwn os nad gwneud rhywbeth fel hyn?’  

Mewn sawl un o’r cyd-destunau hyn, un thema gyffredin sy’n dod i’r amlwg sef bod y cyfle i bobl gael cwmni eraill yr un mor bwysig fel ffactor â’r cynhesrwydd ei hun. Ym Mount Zion ar nos Fawrth oerllyd mae ‘na fwrlwm wrth i fwyd gael ei baratoi a’i weini i grŵp o ryw 20 o bobl. Mae Eirian, un o’r nifer o wirfoddolwyr tu ôl i’r fenter, yn esbonio ffordd mor dda mae hyn wedi bod iddynt ddod i adnabod pobl. ‘Ryn ni’n disgwyl cario hwn ymlaen yn dda i’r flwyddyn newydd. Mae’n fater o garu ein cymydog on’d yw e – yn union fel mae Iesu’n ei orchymyn’. 

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau