Datganiad Cyngor Unedig Undeb Bedyddwyr Cymru ar Gymorth i Farw

Mae Cyngor Unedig Undeb Bedyddwyr Cymru yn galw ar holl eglwysi Undeb Bedyddwyr Cymru i weddïo dros y trafodaethau sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn San Steffan mewn perthynas â’r ddadl ‘Cymorth i Farw‘. 

Cydnabyddwn bod y mater hwn yn un anodd a sensitif ac yn ennyn ymatebion gwahanol iawn gan Gristnogion ar draws y wlad. 

Erfyniwn felly ar ein Heglwysi i weddïo’n ddwys dros ein cynrychiolwyr gwleidyddol a fydd yn gorfod penderfynu yn y pen draw a ddylid rhoi yr hawl i ddarparu cymorth i farw neu beidio. 

Gweddïwn y bydd yr Aelodau Seneddol yn gwrando’n ofalus ar bob llais ac y bydd Duw yn bendithio’r ddadl â’i ddoethineb a’i arweiniad.

Mis Tachwedd, 2024

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau