Cyfarchion y Pasg… oddi wrth UBC

Wrth i ni agosáu at un o’r penwythnosau mwyaf pwysig i Gristnogion ac eglwysi ar draws y byd, cofiwn ryfeddod croeshoeliad, claddu ac atgyfodiad gogoneddus yr Arglwydd Iesu – er ein mwyn ni!

Gweddïwn fendith drosom ni i gyd, a’n holl eglwysi a chymunedau dros gyfnod y Pasg wrth i ni gyfarfod mewn amrywiol leoliadau ar draws Cymru – y byddai pob un yn adnabod rhyfeddod yr hyn a wnaeth ein Harglwydd drosom ni!

“Ef ei hun a ddygodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren, er mwyn i ni ddarfod â’n pechodau a byw i gyfiawnder. Trwy ei archoll ef y cawsoch iachâd…” 1 Pedr 2:24

Hoffem hefyd rannu y myfyrdod byr hwn oddi wrth Ysgrifennydd Cyffredinol EBF (Ffederasiwn Bedyddwyr Ewrop) Alan Donaldson, wrth iddo fyfyrio ar brofiad Crist yng nghardd Gethsemane. Mae Alan yn ein hannog ni y Pasg hwn i gofio hefyd am ein chwiorydd a brodyr yng Nghrist sydd yn profi dioddefaint ar draws y byd, tra dal yn aros yn ffyddlon i dystiolaeth Crist.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau