Croesi Moroedd: Stori Jonathan a Nela

Hanes ryfeddol un eglwys ac un cwpl yn dilyn galwad Duw ar draws y cefnforoedd, o’r Pilipinas a’r UDA, i Gymru…

”Roedden ni’n gwybod nad oedden ni’n gallu fforddio gweinidog, ond fe benderfynon ni wyth mlynedd yn ôl i weddïo am un beth bynnag – i weddïo ar i Dduw wneud yr amhosibl! Ac ry’n ni wedi bod ar daith ers hynny,’’ meddai Dave gyda gwên.

Mae Davd yn ddiacon yn Eglwys Deer Park, Dinbych-y-Pysgod, Mae Deer Park wedi bod yn weddol unigryw erioed, gyda gweinidogaeth yn ystod yr haf i bobl ar eu gwyliau ac adeilad Gothig trawiadol swmpus. Ond er gwaethaf gweinidogaeth ffrwythlon, yn y blynyddoedd diwethaf roedd yr aelodaeth wedi gostwng i ffigyrau sengl am y tro cyntaf a doedd dim gweithgareddau canol wythnos ar ôl.

Roedd pethau wedi mynd mor heriol fel bod sgyrsiau yn dechrau am ddyfodol yr eglwys.

Ein hymateb cyntaf oedd: “Na’n wir – ydy Cymru yn faes cenhadol erbyn hyn?!”

Tua’r un pryd, roedd cwpl Ffilipino-Seisnig filoedd o filltiroedd i ffwrdd yn yr Unol Daleithiau yn ymweld â chynhadledd Gristnogol wrth iddynt archwilio i’r hyn roedden nhw’n credu oedd yn alwad i genhadaeth yn Ne neu Ganol America.

“Cawson ni sgwrs gyda Foursquare Missions am ein hawydd i fynd i’r faes genhadol,” eglurodd Jonathan. “Fe ofynnon nhw, ‘Ydych chi erioed wedi ystyried gweinidogaethu mewn eglwys yng Nghymru?’ Ein hymateb cyntaf oedd ‘Na’n wir – ydy Cymru yn faes cenhadol erbyn hyn?!’ Ond po fwyaf roedden nhw’n ystyried, yn gweddïo ac yn ymchwilio iddo, po fwyaf yr oedd hi’n ymddangos bod Duw wedi eu paratoi ar gyfer hynny’n union.

A phan ddaethon nhw i Gymru yn 2019, roedden nhw’n teimlo’n gartrefol yn syth.

Ym mis Rhagfyr 2020, comisiynwyd Jonathan a Nela fel cenhadon i Gymru gan eu heglwys yng Nghaliffornia, ond doedden nhw ddim yn gwybod i ble yn union yr ân nhw.

Yn ystod y gwasanaeth, cafodd Nela weledigaeth annisgwyl o’r môr. Ym mis Mawrth 2021, cafodd hi weledigaeth arall o’r môr wrth iddi hi weddïo, a dyna pryd y teimlai fod Duw yn dweud ei fod yn eu galw nhw at Ddinbych-y-Pysgod.

Cafodd hi hefyd Salm 29 adnod 3 sy’n sôn am y môr – ac arwyddair Dinbych-y-pysgod fel tref yw’r môr Cadarnhawyd hyn ymhellach gan amgylchiadau a geiriau proffwydol gan eraill.

Cyrhaeddon nhw Gymru yn haf 2021.

Ar yr un pryd, roedd Dave – un o ddiaconiaid Deer Park – wedi clywed am ddyfodiad Jonathan a Nela yn Sir Benfro a’u gwahodd i ddod i gwrdd â’r eglwys. Blodeuodd y berthynas, gyda Jonathan yn sefydlu sesiwn wythnosol i bobl hŷn i gael cymorth gyda’u hanghenion TG, gan ddechrau meithrin perthynas â’r gymuned.

“Felly gwelsom ni Dduw yn gwneud yr amhosib!’ cadarnha Dave, “Ac fe ddaeth yr aelodaeth i bleidleisio’n unfrydol o blaid bod Jonathan a Nela yn dod yma fel bugeiliaid, a hynny yn gadarnhad pellach. Mae Duw wedi troi’r sefyllfa ar ei phen – mae gennym ni weithgareddau cenhadol yn wythnosol erbyn hyn, a gweinidogion yn dod i weithio yma’n llawn amser gyda ni. Mae’r cyfan wedi ei adeiladu ar weddi.”

“Felly gwelsom ni Dduw yn gwneud yr amhosib!’

Cafodd Jonathan a Nela eu sefydlu fel gweinidogion mewn gwasanaeth llawn ffydd yn Deer Park ar ddydd Sadwrn 25ain Chwefror 2023. Ers eu sefydlu, maen nhw wedi gweld niferoedd yn codi, gyda 20-25 o bobl yn dod i wasanaethau Sul dros yr haf. Cawsant hefyd lawenydd yn croesawu aelod newydd i’r eglwys, a dechreuwyd nifer o weinidogaethau a mentrau cenhadol newydd lleol fewn yr eglwys. Mae’r eglwys yn teimlo’n llawn bywyd! Maen nhw hefyd yn gweddïo am ffyrdd i gyrraedd cenedlaethau iau, ac maen nhw eisiau cadw gweddi yn sylfaen yn yr eglwys.

Rydyn ni’n gyffrous am yr hyn sydd gan Dduw ar gyfer Dinbych-y-Pysgod! Beth am i ni weddïo dros Deer Park, Nela a Jonathan wrth iddyn nhw fentro ar yr antur ffydd hon yn Ninbych-y-PYsgod!

I weld yr erthygl hon, ac i ddarllen nifer o hanesion eraill hyfryd o Dduw ar waith yn y Gymru fodern ac ar draws y byd heddiw, ewch draw i Negesydd Hydref 2023, a rhifynnau blaenorol.

I ddarganfod mwy am Eglwys Deer Park, ewch at eu wefan:Deer Park Baptist Church – A gospel-centered community following Jesus in Tenby.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2024 Sir Benfro

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhaglen Cynhadledd Flynyddol 2024 yr Adran Gymraeg, yn Sir Benfro eleni! Thema ein cynhadledd eleni yw ‘Adeiladaf fy Eglwys’, a

Darllen mwy »