Ganed y Parchg Harding Rees ar Fawrth 15ed 1889 yn un o chwech o blant mewn bwthyn o’r enw Caesadler yn yr Allt uwchlaw pentre’ Llangennech, Llanelli. Yn y llun is-law, gwelwn Harding yn blentyn ifanc yn sefyll ar yr ochr chwith.
Dyma’r hyn ddywedodd yn Seren Gomer (Gorff./ Awst 1951) am y bwthyn bach tô gwellt lle’i magwyd: “ Tair siambr oedd i’r hen dŷ, ac iddynt nenfwd isel, llawr pridd a ffenestr bob un, a’r rheiny mor fychan fel na allai braidd lygedyn o haul fentro i mewn drwyddynt. Y ffordd orau i gael golau oedd trwy agor y drws ac, wrth lwc, edrychai hwnnw yn llygad yr haul. Safai’r gegin rhwng dwy ystafell wely. Yn yr un uchaf i du’r Dwyrain cysgai mamgu. Am y pared i’r ystafell honno roedd y beudy, ac yno’r ddwy fuwch, llô neu ddau a’r merlyn broc. Rhaid oedd bodloni ar sŵn y rheiny, beth bynnag a wnaent…. Yn yr ystafell isaf y cysgai eraill o’r teulu. Gan freued y tô, gwelais y glaw lawer gwaith yn disgyn ar sil y ffenestr y tu mewn, a hwnnw’n tasgu drachefn ar y gwely. ….. Islaw’r tŷ roedd y ffynnon a ddiodai’r teulu a holl bobl yr Allt. Hen iawn oedd mamgu’r adeg honno, bron cyrraedd ei 90 oed, eithr cariai ei baich o henoed yn weddol ysgafn. Adwaenid hi y tu allan i’r teulu fel Pegi Rees, Caesadler. Magodd 13 o blant a chafodd ei rhan o drallodion bywyd.…. Ni wn ba nifer o famau yng Nghymru a gafodd yr un fraint â hi, sef gweld ei phriod (sef tadcu Harding Rees) a phedwar o’i meibion yn ddiaconiaid yn yr eglwys…….Ar yr aelwyd ar nos Suliau pan ymgasglai’r teulu o gwmpas mamgu, y clywais y termau ‘Etholedigaeth amodol a diamodol’ a’u cyffelyb, gyntaf. Gellir dychmygu’r dylanwad a adawai ymweliadau’r cenhadon hynny ar eu hôl yn yr hen gartre’. Mewn bwthyn arall gerllaw y lletyai’r pregethwyr a ddeuai i Gapel Salem (neu Salem yr Allt fel yr adwaenid ef).”
Cawn flas pellach ar ei brofiadau cynnar drwy’r hyn ddywed am y capel, Salem yr Allt a agorwyd ym 1840; man a fu’n ganolog yn ei fywyd e’ a’i deulu. Dyma ddywed amdano -“Capel bychan iawn oedd gyda’i seddau dwfn a’i bulpud cul fel mai braidd y gellid gweld pen y pregethwr oni fyddai yn weddol dal. Yr oedd ynddo oriel fechan, a grisiau cerrig o’r tu allan i ddringo iddo. Canhwyllau brwyn oedd y cyfryngau golau am flynyddoedd yn yr hen gapel, ac ni welai’r hen lowyr a âi yno ar noswaith waith ond gwyn llygaid ei gilydd. Aent yno wedi gweithio deuddeg awr y dydd (yn y pyllau glo) heb amser ond digon i gymryd eu bwyd cyn mynd…. Cyn adeiladu’r Capel yr Allt, byddai nifer o fedyddwyr y pentref yn cerdded i Felinfoel i ymuno â’r gynulleidfa yno.” (allan o ‘Canmlwyddiant Salem Llangennech 1879-1979’ gan Leonard Richards).
Cadwai tad Harding siop gig yn Llangennech a dyna lle bu’r mab yn gweithio wedi gadael ysgol. Yn ystod y cyfnod yma teimlodd Harding yr alwad i wasanaethu’i Arglwydd ac aeth am gyfnod o baratoi i Ysgol y Gwynfryn yn Rhydaman lle roedd Gwili’n brifathro. Cafodd ei dderbyn i Goleg Bangor ym 1916 ond oherwydd ei safiad ar dir cydwybod yn erbyn rhyfel fe’i rhwystrwyd am y tro rhag dilyn y cwrs.
Dyma ran o’i ddisgrifiad byw o’i brofiadau fel gwrthwynebydd cydwybodol, “Saboth nad â’n angof gennyf i oedd hwnnw pan wasanaethwn fel myfyriwr o Ysgol y Gwynfryn yng nghapel Pontbrenaraeth gerllaw Llandeilo yng Ngorffennaf 1916, canys dyna’r Sul olaf i mi cyn fy ngorfodi i’r fyddin… Yr oeddwn drwy gydol y Saboth ar ôl hynny’n golchi llestri yng ngwersyll Cinmel yn y gogledd – llestri cwbwl wahanol i’r eiddo’r Deml gynt, ond yr oeddynt oll yn fwy cyfan na’m calon i ar y pryd. Treuliaswn rhwng y ddau Sul hwnnw ddwy noson yng nghastell Caerdydd – cynullfan conscripts i’r fyddin – gyda gwŷr ieuainc gwir ddiwylliedig a oedd yno drwy orfodaeth, a chael eu hadnabod fel Gwrthwynebwyr Cydwybodol. … Wedi treulio rhai wythnosau yno fe’m hysbyswyd ein bod i fynd i Iwerddon…. I ffwrdd â ni i Gaergybi am long i Ddulyn ac wedi wythnos o saib ym mwrllwch barics yno fe’m cawsom ein hunain ar lan afon ar gwr pentref Rathdrum yn swydd Wicklow…. Rhoddwyd inni’r gorchwyl o gwympo gallt o goed…. Mewn pebyll y trigiasem ….. wyth ohonom ymhob pabell, a chyda’r nos yr oeddym megis olwyn trol â’n traed yn cwrdd â’i gilydd yn y canol…. ond fe gaem gwmni o fath arall ambell noson – llygod mawr o ddŵr yr afon oedd yr ymwelwyr hynny ! Yno gwelais enbydrwydd disgyblaeth filwrol ar fechgyn, a oedd, rai ohonynt, fodd bynnag gyda’r mwyneiddiaf o blant dynion. Roedd yno eraill hefyd na ddeallent ein safiad ni, ac ni byddent yn ôl o ddangos hynny drwy ollwng cafodau o gerrig ar ein pebyll.” Yn y gwersyll llafur yma yn Iwerddon y treuliodd Harding y tair blynedd nesaf cyn dychwelyd, ym 1919, i Goleg Bangor. Yno, derbyniai ei wersi Groeg gan un o ysgolheigion gloywaf Cymru yn y maes hwnnw sef Y Prifathro Silas Morris.
Y cam mawr nesaf yn ei flwyddyn olaf ym Mangor oedd iddo dderbyn galwad i weinidogaethu ar ddwy eglwys yn Sir Gaerfyrddin, sef Bethany, Llansteffan ac Ebeneser, Llangynog. Fe’i ordeiniwyd ar Fedi’r 13eg a’r 14eg 1922. Ar fore’r 14eg traddodwyd Pregeth Siars gan y Parch Alfred Morris, Llangennech, ac yn y cyfarfod ordeinio yn y prynhawn pregethwyd gan y Parch JT Evans. Y noson honno pregethwyd gan y Parchedigion B. James, y Tymbl a T.R. Williams, Dafen. Yr hynaf o’r ddwy eglwys yw Ebeneser, Llangynog – bu iddynt ddathlu daucanlwyddiant yr achos yno ym mis Mai 2011. Dyma’i unig ofalaeth, lle treuliodd ymron i chwarter canrif hapus iawn (tan 1946) pan orfodwyd ef, oherwydd afiechyd, i ymddeol o’r weinidogaeth. Symudodd y teulu oddi yno i’r Bryn, Llangennech ym 1948 yna i Lwynhendy ym 1951 ac i Lundain i ymgartrefu gyda’i ferch Pegi am weddill ei fywyd (tan Ionawr 1966).
Dau bentref cwbwl wahanol oedd, ac yw, Llangynog a Llansteffan; Llangynog yn bentre’ prydferth, Cymraeg ym mherfedd gwlad, a Llansteffan yn bentre’ glan môr, Seisnigaidd ac yn gyrchfan i bobol o bell ac agos i fwynhau llonyddwch a chyfaredd y pentre’, y castell a’r traeth. Fedrwch chi ddim peidio â chael rhyw ymdeimlad o dangnefedd yno – does dim brys na phrysurdeb yn agos iddo. Rhedai hen ffordd y pererinion o’r cyfandir ar eu ffordd i Dyddewi drwy Lansteffan. Fe fu Llansteffan unwaith yn rhan o Sir Benfro ac, mewn ffordd, mae’n perthyn yn agosach, yn ieithyddol, i waelod y sir honno nag i weddill Sir Gâr. Ond er Seisnigrwydd yr ardal, Cymraeg graenus oedd iaith aelwyd Harding Rees – yn wir, dim ond yn ei gartre’, ar aelwydydd pobol y wlad oedd yn aelodau yn Bethany ac Ebeneser y clywid y Gymraeg ! Roedd y ddau bentre’ hudolus yma yn siwtio’i anian greadigol a’i gariad at natur i’r dim – dyma oedd y lle delfrydol i’w ysbrydoli i farddoni ac i lunio pregethau.
Pobol fwyn a di-ymffrost yw pobol y ddwy ardal lle bugeiliai. Roedd un teulu arbennig yn aelodau yn Bethany, gyda 12 o blant, a rheiny i gyd yn gantorion da. Mae hanes am un ohonyn nhw yno yn troi at un o’r gynulleidfa pan oedd y pregethwr gwadd braidd yn hirfaith, gan sibrwd, “Wel, o leia’ mae e’n byrhau’r gaea’ !” Cai Harding a’i deulu cyfan fendith fawr yn y cyrddau gweddi wythnosol, gydag ambell i gymeriad hoffus yn plygu ar ei liniau gan offrymu ymron i’r un weddi ar ei gof o wythnos i wythnos – byddai un diacon ffyddlon bob amser yn dechrau gyda’r geiriau, “Diolch i ti o Dduw ‘i bod arnon ni a chyda ni fel ag y mae !”
Uchafbwynt y flwyddyn yn Llansteffan ac yn Bethany yn arbennig oedd mis Awst pryd y deuai glowyr o’r cymoedd ar y trên hyd at Lan y Fferi a chroesi’r Afon Tywi ar y bad i Lansteffan. Yn 20au a 30au’r ganrif ddiwethaf roedd y capeli’n llawn drwy fis Awst oherwydd ffyddloniaid eglwysi Sir Forgannwg. Roedd fel awyr iach i glywed acenion dieithr a’u lleisiau’n chwyddo’r canu yn yr oedfaon ar y Sul ac yng nghyfarfodydd yr wythnos. Deuai’r un bobol nôl flwyddyn ar ôl blwyddyn, a gallasem fod yn siwr mai Myfyr Hefin (Urdd y Seren Fore) fyddai’n llanw un o Suliau Awst – un frawddeg Saesneg gofiadwy o eiddo’r gŵr hoffus yma oedd “All the birds likes an ‘oliday !”
Uchafwyntiau eraill yng ngweinidogaeth Harding oedd y troeon y galwai ei gyd-weinidogion heibio i’r tŷ gan gynnal cyfeillach fywiog ar destunau crefyddol a llenyddol. Byddai’r stôr o straeon digri’ a adroddid bryd hynny yn sicr o deilyngu’r wobr gynta’ mewn unrhyw gystadleuaeth ! Hoffai’r Parch Tudno Jones ddynwared y gweinidog hwnnw a chanddo go’s gorc ac yntau’n ceisio bedyddio aelod newydd, ond mynnai ei go’s gorc godi i wyneb y dŵr ! Profai lawer o ddyddiau trist hefyd, fel yn hanes pob gweinidog, bid siwr. Ond un digwyddiad tra heriol iddo a’i gyd-weinidogion yn y Sir Gâr oedd adeg yr ymgyrch i foddi pentre’ Llangyndeyrn – bu Harding yn gefn ffyddlon i arweinydd y gwrthsefyll llwyddiannus, Parch W M Rees, Llangyndeyrn, yn ystod y cyfnod anodd yma. Cyfarfodydd y byddai byth yn eu colli oedd Ysgol Haf y Gweinidogion a gynhelid yn flynyddol, yn amal yn Llanwrtyd.
Yn ystod ei amser yn Llangynog a Llansteffan cyfarfu â’i briod, Cathrin Weeks o Lanybri gerllaw – hithau’n athrawes oedd yn meddu ar wybodaeth anghyffredin o eang ar draws sawl pwnc ac a fagwyd yn eglwysreg selog. Bron na ellid ei chymharu â gwyddoniadur mewn meysydd megis Lladin, hanes, daearyddiaeth, Cymraeg, byd natur (caed gwers Gymraeg, Saesneg a Lladin wrth droedio drwy’r caeau a heibio’r cloddiau), ac fe’i trwythwyd yn y Beibl o ddyddiau ysgol a thrwy’r eglwys anglicanaidd a fynychai tan iddi briodi. Priododd Harding a Cathrin ym 1926 a chawsant dri o blant, Pegi, Nest a Gwenallt. Bu’n wraig gweinidog ffyddlon a doeth ac yn gefn gref iddo trwy bob storm a hindda.
Ond beth am Harding y dyn a’i ddiddordebau ? O ran ei anian, y geiriau fyddai’n ei ddisgrifio orau yw, heddychlon, tra sensitif, addfwyn, graslon, gwylaidd, tawel a serchus. O ran ei ddiddordebau, byddai wrth ei fodd yn mynd mas i’r wlad i ganol prydferthwch y greadigaeth. Ond as na fyddai’n bugeilio, ar yr aelwyd y treuliai’r rhan helaeth o’i amser – doedd ganddo ddim stydi – yn llunio pregeth a barddoniaeth, gan fynnu cael barn Cathrin ar yr hyn a grewyd ganddo. Roedd y cyfnodau hyn yn amrywio o fod yn ddosbarth Beiblaidd i wers ar y cynganeddion ! Cai fwynhad mawr hefyd bob bore pan alwai’r cigydd heibio – daeth y cigydd i wybod mewn byr amser bod ganddo gwsmer oedd yn ‘gw’bod i bethe’ lle’r oedd cig yn y cwestiwn !
Roedd gan Harding farn gref ar rai pethe hefyd. Byddai sôn am ryfel, dialedd, anghydfod neu greulondeb dyn at gyd-ddyn yn peri loes anhygoel iddo. Ni allai ddioddef gweld neb yn cael niwed o unrhyw fath. Gresynai’n fawr o weld pobol yn amharchu’r Saboth. Pan aeth trwy gyfnod o sâlwch ac yn methu mynd i’r capel, byddai’n mynnu gwisgo mewn dillad parch yn union fel petai am fynd yno. Byddai’r Sul cyfan yn y cartre yn troi o gwmpas pethe’r Tŷ – ni wnaed unrhyw waith a arferid ei wneud yn yr wythnos. (Cyhoeddodd erthygl ym 1938 ar y testun “Come to Church Sunday – a plea from Llanstephan” i hybu gwaith Cymdeithas Cadwraeth y Sabnoth.) Fel tad, byddai byth yn ceryddu na chodi ei lais i ddisgyblu’i blant – Cathrin byddai’n cael y gwaith hwnnw ! Ni ddioddefai rhegfeydd o unrhyw fath, nac unrhyw air oedd yn ymdebygu i reg, er enghraifft, ‘jiw’ neu ‘jiawch’ – iddo fe, roedden nhw ‘run fath â dweud ‘Duw’ a ‘Diawl’ ! Galwai’r ‘rhegfeydd’ yma yn ‘eiriau cryf’. Mater arall a ddenodd ynddo deimladau pendant oedd gamblo – roedd ganddo wrthwynebiad cryf iawn yn erbyn prynu tocyn raffl. Ceir cofnod ganddo yn Seren Cymru, Rhagfyr 1919, o gyfarfod Cwrdd Chwarter rhan uchaf Sir Gaerfyrddin, pan ddywedodd, “Datganwyd llawenydd i’r Senedd wrthod cynllun y Premium Bonds. Da gweld ambell un fel cynlluniwr yr uchod yn cael siom ambell dro.”
Fel y dywedwyd, ei brif ddiddordeb heblaw pregethu, oedd barddoni, ac englyna yn arbennig. Bu’n olygydd Colofn yr Awen yn Seren Cymru am sawl blwyddyn. Byddai’n hoffi cystadlu mewn eisteddfodau capel a phentre’ – cyfansoddodd ddarnau ar gyfer 57 ohonynt – 48 englyn, 6 pryddest a 3 thraethawd, a bu’n llwyddiannus mewn dros 35 ohonynt, gan gynnwys cipio saith cadair farddol hardd. Yn gynwysiedig yn ei gasgliad helaeth o farddoniaeth y mae llawer i goffau anwyliaid neu i ddathlu achlysur arbennig. Dyma rai engreifftiau:
Englyn er cof am Mrs MJ Evans, mam Y Parchg D.Hubert Davies, Ystradgynlais.Ei heinioes a roes i’r Iesu, – i’w weisionBu’n rasol ei llety;A’i dawn ar liniau’n denuGras ei Duw a gwres i’w dŷ.
Englyn i ddathlu Jiwbili y Parch WP John, Castle St. Abl iawn ar ei Iwbili – eitha gawr Ymhlith gwir broffwydi, Rhoddwn glod haeddfawr heddi I hwyliau pêr W.P. |
Priodas AurRhoes Iesu ei rasusau -a’i gariadFel gwawr ar eich llwybrau;Ef yn hir a fynnai hauEi lun ar eich calonnau.
Ni bu’r daith heb ei chreithiau – na’ch aelwyd Yn ei chôl heb saethau; Ond gwnaeth y llwythau esmwythàu A’r awel ar ei rhiwiau.
Cysgod palm a’r pren almon – a roddo Hir heddwch i’ch dwyfron; A’r aur sy’n y fodrwy gron Yn gyfoeth o atgofion. |
Yr Angor I rwymo llong yng ngrym lli – hoelia’i fachYng nghilfeydd y dyfnliNes i’r awr ddod i’w godiO’i afael ef, ni syfl hi. | CraithEr rhoi’n hael o rin eli – a’i hiroGan dynerwch drosti;Ni all hiroes oroesiRhych a lliw ei harcholl hi. |
Convalescence (ar ddull englyn !)On the mend and commended – to be outO’ bed unattended;After being so upliftedHow well I feel fully fed. | Haf 1955Y mwynaf o hir hafau – a thorethEi aur ar ei lwybrau;I’w rawn ef ni bydd prinhauEleni i’r melinau. |
O’i holl englynion coffa, yr un mwyaf dirdynnolyw’r un i’w fam. Er Cof am ein Mam annwyl Hi grewyd yn gariaidd – a’i hanesSydd fel ennaint peraidd;Ni chudd bedd un fwy gweddaiddI’w gro aeth yn bur i’r gwraidd.
 llaw gras bu’n teyrnasu – a’i haberth O’n mebyd o’n deutu; Lle i’r gerdd ac allor gu Wnaeth o’i haelwyd i’w theulu.
Trwy’i henoed bu’n tirioni – yn hael iawn Ei oleuni trosti; Addurnwaith Iôr oedd arni; A’i rin Ef ei choron hi.
Yn nyddiau loes bu’n ddiddan – yn ei phoen Gwybu ffydd anniflan; Er ei chur, ffrwd bêr ei chân A lonnai’i duwiol anian.
Unigrwydd ac ing dagrau – sy’n aros Yn hir dan ein bronnau; Niwl a gwyll sy’n dal i gau Ar aelwyd fu’n wawr olau.
Yn Salem mae’n noswylio – lle huna Llu annwyl o’r henfro; Hyd ei erw oer oedwn dro Mae annedd i’n Mam yno.
Y gwir yw, nid y graean – yw ei lle Yn y llaith oer drigfan; Ond lili mewn gwlad loywlan Yn ir ei gwedd ym mro’r gân.
Cyfansoddai o bryd i’w gilydd ddarnau digri’ megis –
Pôs i Saeson Iach y b’och chwi a’ch bychain Yn wychach eich iechyd na’ch ychain, Heb och na chur y b’och, a chain, Ewch â’ch achau uwch ochain. |
Cafodd y fraint o weld un o’i emynau – un pennill –yn ymddangos yn Llawlyfr Moliant y Bedyddwyr Mae’r durtur yn pyncio’n y llwyn,A blodau y nef dan y glas;Daw’r awel â balmau mor fwynO erddi tangnefedd a gras;
O ! deued y wawrddydd ar daen A’i golau yn obaith i gyd Fod tlysach boreau ymlaen I wawrio ar fywyd y byd.
Pregeth i seddi gwag (Darn adrodd)
Ar fore Saboth gerwin A’r eira’n llanw’r llawr, Pregethwr braf bregethai Yng nghanol Merthyr Mawr; Ni ddaethai’r bore hwnnw Ond tair hen ffyddlon chwaer, Ond mentrodd y pregethwr Ar ddweud ei neges daer.
Ar ôl y gân a’r weddi, A dechrau’r bregeth fawr, Fe glywyd cwymp arswydol Yn taro ar y llawr; Beth oedd, ond un o’r gwragedd Mewn llewyg dros y lle, A’r llall mewn brys i’w chario Bron marw tua thre’.
Ond mlaen yr âi’r pregethwr Â’i bregeth newydd sbon, Ni fynnai dim i’w atal Pe syrthiai’r ddaear gron; Nid oedd yn awr i’w wrando Ond un ar sedd y llawr, Ond mynnai’r cennad cynnes Barhau ei bregeth fawr.
Ar ôl yr oedfa ryfedd O floeddio wrth ddim ond un, Ac wedi gwario’i egni Yn drwm a llesg ei lun. Gofynnodd air y wreigan I’r bregeth fawr ei grym, “Rwy’n flin, Syr,” meddai hithau “Dwi’n clywed fawr o ddim.” |
Lluniwyd sawl teyrnged iddo, dyma ran o un a ymddangosodd yn Seren Cymru gan GTH o Castle Street, Llundain, “Bu’n weinidog da i Iesu Grist ar hyd ei yrfa, a rhoes wasanaeth gwiw i’w enwad. Yr oedd yn fardd ac emynydd amlwg iawn a chyfrannodd yn hael ei awen i’r Seren a chylchronau eraill ar hyd y blynyddoedd. Bydd colled drom mewn llawer cylch ar ôl y gŵr dawnus, radlon ac annwyl hwn.”
Ond hwyrach bod y cwpled isod o’i eiddo, a gerfiwyd ar ei garreg fedd yng Nghapel Salem Llangennech, ym 1966, ac yntau’n 76 oed, yn dweud y cyfan amdano:
“Glaniaf yn nhir goleuni
Os coeliaf ras Calfari.”