Roberts – William (Cenhadwr: 1848 – 1911)

Ganwyd William  Robert a anwyd yn 5, Heol y Bont Hydref 6ed 1848. Gof oedd ei dad a’i datcu a’i fam yn ferch y Parch Robert Roberts, Swyddfynnon. Yr oedd pum Ffair y flwyddyn yn yr ardal ers yr 16 g.  dan nawdd Mynachlog Ystrad Fflur. Cynhaliwyd hwy ar Rosgelligron, yna yn Ffair Rhos ond erbyn 1850 ym mhentre’r Bont ac ar drothwy carte Bili; ffoi a wnai ef bryd hynny i Benlan, cartref ei datcu, y gweinidog.

Yna daeth salwch dwys i Bili a bu bron marw, ond ar ei wely diddorai yn y rhyfel yn yn Punjab. Gwellhaodd Bili a bedyddiwyd ef yn 11eg oed yn y Teifi islaw’r Fynachlog. Yr oedd ei fam yn ei weld yn ifanc ond diwigiad ’59 “a’i dygodd i’r Fyddin” meddai Yr oedd rhyw fath o ysgol yn y pentre a chafodd fynd yno; dosbarth gan wraig ddigon anllythrenog oedd yr ysgol ond manteisiodd Bili ar yr addysg, ac yna aeth i Ysgol John y Pannwr yn Nhalwrnbont yn y pentre a dysgodd rifyddeg yno. Yr oedd Coleg Ystrad Meurig yn ysgol baratoi i offeiriaid, a bu yno yn  dysgu Groeg a Lladin am dri mis. Mynd oddicartef wedyn i Kington i ysgol i ddysgu Saesneg a mynychai y capel yno a chael pleser a nodded teulu Hill Farm. Dod adre i’w brentisio mewn siop ddillad yn Aberystwyth, ymdaflu i fywyd Bethel a dechrau pregethu yn y cylch –Penrhyncoch, Moreia a Thalybont a’i destun cyntaf oedd “Y mae y gwynt yn chwythu lle y mynno” Ioan iii,8. Y mae’r testun wedi apelio ataf i wrth imi chwilio am loches.

Aeth i Ysgol rhagbaratoi yn Aberystwyth a cheisiwyd ei berswadio i fynd yn offeiriad – ond yr oedd yn ormod o Fedyddiwr! Daeth nõl i Goleg Ystrad Meurig i wella ei Roeg a’i Ladin a phan ymgeisiodd am Goleg y Bedyddwyr ym Mhontypwl derbyniwyd ef yn llawen. Yr oedd yn hapus yno ond fod pyliau o iselder ysbryd yn ei boeni a bod ei iechyd yn wan. Mynnai feddwl am y Genhadaeth ond ceisiwyd ei ddarbwyllo nad oedd ei iechyd yn ddigon cryf i fentro i faes cenhadol.  Wrth i’w dymor coleg ddod i ben derbyniodd alwad i Moriah Pentre yn y Rhondda ac ordeiniwyd ef yno ar Tachwedd 2ail, 1875  a bu yno am ddwy flynedd. Cofir ef am ei ddawn i draddodi, a’i gôf eithriadol, yn adrodd darnau mawr o’r ysgrythur – dylanwad bro ei febyd.

Derbyniwyd ef ym  1877 i fynd i’r India ym mis Ionawr 1878. Yng Nghymanfa Nottingham  1891,  bu William Carey, India  yn pregethu a sefydlwyd y BMS y flwyddyn ganlynol. Llafuriodd W R James yn yr India am dair-ar-ddeg-ar-hugain o flynyddoedd. Yn fuan yr oedd wedi meistroli Bengaleg ac yn pregethu yn yr iaith. Aeth ymlaen i ddysgu Hindwstaneg ac Urdiaeg. Cymerodd at Faes i’r de o Calcutta a dywed y Greal  Gorffennaf 1879  fod pum mil wedi eu bedyddio mewn tair wythnos yno. Ym 1892 priododd â chenhades a fu’n gweithio gyda’r Zennana ar y Maes am dros ugain mlynedd, Miss Hayward, ac wedi iddi hi ddod adre i weld ei theulu a theulu ei darpar ŵr, priodwyd hwy yn Serampore 1892.

Anrhydeddwyd ef â Llywyddiaeth Undeb Bedyddwyr Cymru, ond bu farw yn ystod blwyddyn ei lywyddiaeth. Dygwyd ef mewn ambulance  o Calcutta Chwefror 8fed 1909 a chyrraedd yn ôl i Lundain i gartref ei chwaer. Adfywiodd yno ac edrychai ymlaen at ddod nôl i Gymru, a thraddodi ei anerchiad fel Llywydd yr enwad. Gwaethygodd ei iechyd yn y gaeaf, a bu farw ar Chwefror 20fed.1911 Claddwyd ef ym mynwent Ystrad Fflur, ymhell o India, ond yng nghanol ei deulu a’i dylwyth, ddydd Gwener, Chwefror 24, 1911. Yr oedd yn llenor a bardd, a gallwn ddarllen ei waith yn Seren Gomer, Seren Cymru, yr Efengylydd a’r Herald Cenhadol.

Un o’i argyhoeddiadau cryfion oedd Ail Ddyfodiad Crist. Dywedir ei fod yn blentyn yn agor llenni ei ystafell yn Terrace Road, Pontrhydfendigaid, bob bore a syllu i gyfeiriad Ystrad Fflur gan ddisgwyl gweld yr Iesu yn dyfod ar gymylau’r nef dros y bryniau tywyll niwlog uwch blaenau Tywi.

Cyfrannwr:  Dafydd Henri Edwards