Ganwyd William Rhys Watkin, yr hynaf o blant William a Barbara Watkin, ar 10 Rhagfyr 1875, yn Ynystawe, Morgannwg. Cyn ei fod yn ddyflwydd oed, symudodd y teulu i fyw i ben yr Heol-las ar fynydd Gelliwastad, ac yno ganwyd gweddill o’r teulu. Roedd y plant yn bobl alluog iawn a chofir am y brodyr Yr Athro Dr. Morgan Watkin, Caerdydd; Yr Athro Eynon Watkin, Pontypridd, Miss Jane Watkin, Aberdar a Mrs Mary Anne Powell, Radyr.
Addolai’r teulu yn Eglwys Calfaria, Clydach ac aeth W.R. Watkin i Ysgol Sul yn Ynystawe. Cafodd ei fedyddio yn 13 oed gan y Parchg T. Valentine Evans ei weinidog, ac roedd yn amlwg ei fod wrth ei fodd yn ymwneud â bywyd yr eglwys. Cafodd ei annog i bregethu gan yr eglwys pan oedd yn 16 oed, ond ni wnaeth ruthro i’r pulpud gan aros nes ei fod yn 18 oed. Y cam nesaf iddo oedd treulio amser yn yr ysgol baratoi yng Nghaerfyrddin, cyn cael ei dderbyn i goleg yr enwad ym Mangor yn 1895 gan gyd-letya gyda’r parchg David Hopkins, y Tabernacl, Llwynhendy. Cafodd yrfa lwyddiannus fel myfyriwr a bu’n ffyddlon i oedfaon Penuel, Bangor. Roedd yn gymeriad cryf ac wedi ymgysegru i’w alwad. Roedd ymhlith y myfyrwyr cyntaf o’r coleg i ennill gradd prifysgol. Ef oedd y cyntaf o goleg yr enwad i ennill ol-radd M.A. a hynny am waith ar Bedo Brwynllys.
Bu’n gweinidogaethu yn y Tabernacl , Maesteg , o 1900 tan 1910, ac roedd yn fawr ei barch ei ddylanwad a’i lwyddiant. Lluosogwyd yr eglwys yn fawr o ran nifer ei haelodau – crewyd ynddi gydwybod ddirwestol a’i newidiodd, a meithrinwyd ysbryd haelioni. Priododd yn y Tabernacl, Maesteg, 12 Medi 1905, â Jane , merch David ac Elizabeth Williams.a ganwyd iddynt un ferch sef Enid Watkin Jones, un a amlygodd ei hun mewn sawl maes ac yn athrawes Ffrangeg. Roedd ei Rhys, ei mab hithau yn un o’r arbenigwyr byd-eang ar hanes yr Aborigini. Bu farw Jane noswyl Nadolig 1936, ar ol cystudd byr, a’i chladdu ym mynwent y Bocs yn Llanelli. Roedd hithau’n berson amryddawn ac wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr yn ei eglwys ac wedi amlygu ei hun yn y Gymanfa a’r Undeb. Bu’n frwdfrydig iawn gyda gwaith y Senana gan lenwi swydd llywydd y mudiad yn ardal Llanelli ac yn Llywydd Adran y Senana yn y Gymanfa hefyd.
Sefydlwyd W.Rhys Watkins yn weinidog ym Moreia Llanelli ym mis Hydref 1910 yn olynydd i’r Parchg Dr. John Rowlands. Dywedodd ei nai, sef y Barnwr Dewi Watkin Powell mewn ysgrif yn y Bywgraffiadur Cymreig, fod W.R. Watkins yn perthyn i draddodiad uniongred hen ymneilltuaeth glasurol y 18fed ganrif. Roedd yn bregethwr arbennig, ac yn fugail gofalus. Cyfeirir ato fel gweinyddwr medrus iawn a bu’n llywydd Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion yn 1933, gan gyflwyno araith ar y testun “Ein Hetifeddiaeth fel Cymanfa a’n rhwymedigaeth ni heddiw iddi”. Hon oedd blwyddyn dathlu canmlwyddiant y Gymanfa. Yn 1939-40, pan gychwynnodd yr Ail Ryfel Byd, roedd yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru a bu’n llywydd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr (y B.M.S.) o 1944 i 1945 . Ysgrifennodd nifer o erthyglau i’r Genhinen, Seren Gomer, ac i Drafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru ynghyd â chyfrol ar hanes Bedyddwyr Clydach ac un ar hanes plwyf Llangyfelach. Ef oedd golygydd Seren Gomer o 1921 tan 1930 ac o 1933 tan 1947 (ar y cyd gyda John Gwili Jenkins am flwyddyn ac yna gyda David Hopkin ).
Dywed Dewi Watkin Powell i’w ewythr “ers dyddiau Maesteg bu’n drwm o dan ddylanwad Mudiad Cymru Fydd a chredai’n gryf ym mhwysigrwydd yr iaith Gymraeg; cynhaliai ddosbarthiadau Cymraeg yn ei eglwys ym Maesteg — peth prin ar y pryd. Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Llangollen, 1908 , a phan ddaeth yr Eisteddfod i Lanelli yn 1930 ef oedd ysgrifennydd y Pwyllgor Llên a dirprwy-ysgrifennydd yr Eisteddfod. Yr oedd yn aelod o Orsedd y Beirdd wrth yr enw ‘ Glanlliw ’. Bu’n gadeirydd Clwb Awen a Chân y dref am flynyddoedd, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu’n gadeirydd Undeb Cymru Fydd yn yr ardal. Meddai ar lyfrgell eang a gwerthfawr, ac yr oedd yn gryn awdurdod ar argraffiadau cyntaf “.
Yn ystod gweinidogaeth W.R.Watkin, bu’r Parchg Samuel Jones, Cwmogwy yn aelod ym Moreia, ac hefyd dechreuodd Mr Nicholas Lee a’i fab sef y Parchg Frank Lee, y Parchg Cliff Prosser a Mr John Bevan bregethu. Bu Frank Lee yn weinidog am amser hir yn eglwys Pantygwydr, Abertawe, a chofir am y Parchg Cliff Prosser yn cael ei ordeinio’n weinidog yn y Felinheli a Llanberis yn 1940.
Wedi marwolaeth Mrs Jane Watkin, daeth chwaer W.R. Watkin, sef Miss M. J. Watkin i ofalu amdano a bu hithau’n weithgar iawn yn eglwys Moreia. Bu farw W.R. Watkin ar Rhagfyr 16, 1947 yn 72 mlwydd oed.
Cyfrannwr : Denzil Ieuan John
Ffynonellau:
Seren Gomer. Mawrth – Ebrill 1948;
Bywgraffiadur Cymreig – Dewi Watkin Powell:
Hanes Eglwys Moriah Llanelli 1972-1972 – Mr O. Luther Nicholas