Roberts – Owen Ellis (1909- 1983)

Pwy bynnag oedd y gwreiddiol o blith Gwŷr Mawr Môn, mae’n sicr y byddai Bedyddwyr Cymru yn ail hanner yr 20g. yn ystyried Owen Ellis Roberts yn un o’r rheini.  Roedd yn ŵr tal a chyderth, a’i gyfraniad i waith y Deyrnas yn sylweddol. Gŵr gwylaidd a gostyngedig oedd, gyda chalon fawr ac yn enaid mawrfrydig.  Mae’n debyg ei fod gyda’r olaf o’i genhedlaeth a fyddai’n llafar ganu wrth draddodi pregeth.  Byddai ei lais tenoraidd yn rhannu’r gwirionedd yn unol ag arfer amryw, a hynny yn effeithiol iawn.  Deuai’r ddawn honno yn hawdd a naturiol iddo o dan eneiniad yr Ysbryd, a pha ryfedd y byddai cynulleidfaoedd led-led Cymru yn ei groesawu i’w huchel wyliau.

Gŵr o Fodafon oedd Owen Ellis Roberts, yn un o blant Owen ac Elizabeth Jane Roberts, Fedw Uchaf, Penrhosllugwy, ar lethrau Mynydd Parys.  Roedd ganddo dair chwaer sef Margaret, Anne ac Ellen. Bu ei deulu a rhan yn sefydlu’r achos yn Sardis, Dulas, a bu’r Parchg Christmas Evans yn pregethu yn yr hen gartref yn Fedw Uchaf. Derbyniodd ei addysg gynnar yn yr ysgol leol, cyn dechrau ac yntau yn bedair ar ddeg oed, i fod yn brentis i’w gefnder R.O Mathews, fel crydd. Dysgodd grefft o gyweirio esgidiau ym Mro Goronowy, ond bu’n derbyn hyfforddiant arall gan ei weinidog sef y Parchg R.E.Davies sef bod yn weinidog, Medd y Parchg Gerson Davies amdano yn Adroddiad Cymanfa Môn 1965 wrth gyflwyno ei gyfaill i lywyddiaeth y Gymanfa, “Mewn rhyw ystyr deil o hyd i fod yn y ‘boot-trade’, ond fe’i perswadiwyd i newid ei  ‘firm’ a gyda’r cwmni newydd yr erys i gymeradwyo ‘esgidiau paratoad yr Efengyl’ yn rhydd a rhad i bawb yn ddiwahan”

Yn 1933, wedi ei gymeradwyo gan yr eglwys leol a chan y Gymanfa aeth am flwyddyn i ysgol bartoad enwog y Parchg Powell Griffiths yn Rhosllanerchrugog.  Flwyddyn yn ddiweddarach cofrestrwyd ef fel myfyriwr yng ngholeg yr enwad ym Mangor gan dreulio tair blynedd yn derbyn hyfforddiant yno.

Gweinidogaeth gyntaf Owen Ellis Roberts oedd bugeilio’r saint yn eglwysi Tabernacl, Bethesda a’r eglwys yng Nghaerllwyngrudd. Cafodd ei ordeinio a’i sefydlu yno yn 1937.  Bu yno am ddwy flynedd cyn symud i ogledd Penfro ym Mehefin 1939 a gwasanaethu eglwysi ym mhentrefi Hermon a Star, nid nepell o Grymych.  Bu yno am bymtheng mlynedd ac yn agos at un arall o gewri Môn ym mherson y Parchg Parri Roberts, Mynachlogddu.

Yn 1954 dychwelodd adref i Sir Fôn fel gweinidog eglwys Hebron, Caergybi, a byw yn Caer Arba, hyd ei ymddeoliad yn 1974. Cyfrannodd yn sylweddol i weithgareddau’r Gymanfa, ac yn arbennig drwy fod yn Arolygwr y Drysorfa Gynhaliol, fel ei gelwid yn y cyfnod hwnnw.  Bu’n llywydd y Gymanfa yn 1965.  Cafodd ei dad yr un anrhydedd yn 1922, a thraddododd yntau ei anerchiad o bulpud Hebron ar y testun ‘Maddeuant’.   Gwahoddwyd Owen Ellis i gadair yr Undeb, ond yn anffodus, gwaelodd ei iechyd a gofynnwyd i’w fab Irfon gyflwyno’r anerchiad o’r pulpud a garai Owen Ellis mor fawr.  Bu Owen Ellis Roberts farw ychydig ddiwrnodau ar ôl Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb a hynny yn 1983.

Bu’n briod ddwywaith.  Ei gymar cyntaf oedd Elizabeth Williams o’r Moelfre. Priodwyd hwy ym Mhenuel, Llangefni, ar fehefin 18, 1937 gyda’i dad yn y ffydd, sef y Parchg R.E. Davies, Llanerchymedd yn gweinyddu.  a ganwyd iddynt un ferch, sef Nonette (Non).  Bu Lizzie farw yn fuan ar ôl rhoi genedigaeth i Non.     Yn 1939  priododd eto a daeth Ellen Hughes yn wraig ffyddlon a gofalus iddo, un a’i gwreiddiau’n ddwfn yn yr enwad a hynny yn y Tabernacl, Bodedern. Gweinyddwyd y briodas yn Tabernacl ar 13 o Fai gyda’r gwasanaeth o dan ofal y Parchg Alwyn Owen.  Roedd hithau hefyd yn weddw, a hoffai Owen Ellis sôn, gyda gwên ar ei wyneb, am ei phlant hi, fy mhlentyn i a’n plant ni. Plant priodas gyntaf Ellen oedd Sybil, Hugh Meirion, Eifion ac Eluned. Ganwyd tri mab i’r briodas hon sef yr efeilliaid Seth a Penri a’r cyw melyn olaf oedd Irfon. Bu Seth yn ŵr busnes lleol, tra bod cyfraniad Penri yn fwy cyhoeddus mewn sawl swydd, ac yn arbennig fel prif swyddog Mudiad Barnados yng Nghymru ac yna fel trefnydd y De ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.  Bydd Bedyddwyr Cymru yn gyfarwydd gydag Irfon, y mab ieuengaf, fel gweinidog mewn pedwar maes, sef ardal Gogledd Sir Gaerfyrddin,  eglwys y Graig, Castell Newydd Emlyn, eglwys Siloam, Brynaman, ac yna ym Methania, Aberteifi, a Penparc.  Dyrchafwyd Irfon hefyd i lywyddiaeth yr Undeb yn 2006.

Dywed Irfon am ei dad “Pobl oedd ei ddiddordeb a phregethu oedd ei fyd a’i fywyd. Am bregethu a phregethwyr y siaradai.  Perthynai iddo gof eithriadol a’r ddawn i ddynwared hen bregethwyr. Byddai Caer-Arba, bob bore dydd Llun, yn llawn dop o weinidogion.  Arferent drafod pregethau’r Sul cynt a mawr oedd y tynnu coes yn eu plith.  Yn un o bregethwyr poblogaidd ei gyfnod teithiodd lawer i bregethu gan fwynhau aros ar aelwydydd a chael cyd-bregethu a chyd-letya â gweinidogion eraill. Byddai hefyd yn darlithio ar gymeriadau a gofiai’n blentyn yn ardal Bodafon a Llanerchymedd.  Roedd yn llawn ffraethineb a diriedi. Tystiolaeth ei aelodau amdano oedd ei fod yn ddyn agos atynt – yn ddyn pobl – ac y medrent rannu gydag ef unrhyw ofid oedd ganddynt.  Roedd yn berson addfwyn a sensitif.  Credai’n angerddol yn y weinidogaeth.  “Os wyt am fynd iddi cofia dy fod i aros ynddi.” Arferai Lafar Ganu wrth bregethu. Tybed ai ef oedd yr enghraifft olaf o’r hyn a adweinid un adeg fel ‘Dawn Môn?  Cofiaf iddo ddweud wrthyf un tro, “Gen ti mae’r llais clir, ond gen i mae’r llais tlws.”

Pwysleisiodd y Parchg W.Môn Williams mewn erthygl goffa yn Seren Cymru mai pregethwr oedd Owen Ellis Roberts uchlaw pob dim arall ‘Gŵr yn bregethwr i gyd’, a dyfynna Môn Williams eiriau olaf Owen Ellis wrtho yn Ysbyty Stanley, Caergybi, “Dw’i ddim yn ofn marw w’sti; mi wn i ble rwy’n mynd”.

Cyfrannwr:  Denzil Ieuan John