Lloyd – Richard (1883-1961)

Ganed Richard Lloyd ym Mhontrhydfendigaid yn Chwefror 1883 y chweched plentyn allan o naw  i dyddynnwr o’r enw John Lloyd, a’i briod Catherine.  Enwau ei frodyr a’i chwiorydd oedd Margaret, David, Catherine, Mary, Eleanor, Martha, Annie a John. Nid oedd llawer o fywoliaeth ar y tyddyn, a  symudodd y tad i Dreharris, i chwilio am waith ym Morgannwg.  Pan roedd Richard yn naw oed symudodd y teulu cyfan i Dreharris, ac ymaelodi yn eglwys Brynhyfryd.  Yn Rhagfyr 1902 lladdwyd y tad yn mhwll Deep Navigation ac fe’i claddwyd ym mynwent Edwardsville pan oedd y Richard yn 19 oed ac wedi cychwyn ei yrfa ei hun fel glöwr.

Er mwyn datblygu ei gymwysterau dilynodd Richard gwrs yng Ngholeg Mwyngloddio (School of Mines) Trefforest, a chael canlyniadau disglair.  Efallai y byddai wedi dilyn gyrfa academaidd neu weithio fel swyddog yn y pyllau glo yn yn y cyfnod hwnnw, oni bai iddo ymdeimlo â galwad Duw iddo gynnig ei hun i’r weinidogaeth yn ystod diwygiad 1904-5.

Wedi dilyn cwrs Academi enwog Pontypridd, aeth yn 1908 i Goleg y Bedyddwyr ym Mangor cyn dechrau ar ei weinidogaeth yn Wallasey, Lerpwl yn 1911.  Ceir gan y teulu gopi o ohebiaeth yr eglwys a enwyd yn ‘Seacombe Church’, ac awgrymir mai cynulleidfa fechan oeddynt yn mentro ar eu gweinidogaeth gyntaf.  Ceir copi hefyd o ymateb Richard Lloyd, yn nodi iddo gael ei arwain gan Dduw i’r alwad, gan sylweddoli mai cymulleidfa fechan oedd yno, ac mai her genhadol oedd o’i flaen. Ym mis Medi 1912, priododd Elizabeth Roberts a bu Richard yn Wallasey am bum mlynedd hyd at 1916. Cafodd ei ddenu atynt gan fod poblogaeth gref o löwyr Cymraeg yn y Wirral, ac roedd yn ddigon hapus yno.  Yn 1916, dychwelodd i Gwm Taf, a chychwyn ar ei weinidogaeth yng Nghapel Rhondda, ger Pontypridd.  Rhoddodd bum mlynedd o weinidogaeth ymroddedig yno, cym symud ar ei  gam nesaf yn ei yrfa i Gaersalem, Dowlais, a hynny yn 1920 fel olynydd i’r Parchg John Bryn Jones.  Bu yno hyd at 1926 pan dderbyniodd alwad i fugeilio eglwys Saron, Llandybie.  Roedd wedi cael pymtheng mlynedd o brofiadau gweinidogaethol amrywiol cyn ymsefydlu i ofalaeth eglwys niferus gan aros yno dros dair degawd.

Cysylltir Richard Lloyd yn bennaf gyda Llandybie, gan iddo dreulio 31 mlynedd yn ei plith,.  Bu’n gwbl ymroddedig i’r weinidogaeth yno, a theyrnged i’w gymeriad glân a’i bregethu grymus ydoedd iddo weld tri o blant yr eglwys yn Salem wedi ymgyflwyno i’r weinidogaeth, sef D. Eirwyn Morgan, a fu’n weinidog yn Bancffosfelen  a Llandudno, cyn derbyn swydd fel athro a phrifathro yng ngholeg yr Enwad ym Mangor; Haydn J. Thomas, a fu’n weinidog ym Mhen Llŷn a Rhydwilym, a brawd Haydn Thomas sef y Parchg Redding Thomas, a fu farw’n gynnar. Ymddeolodd yn 1957, a’r flwyddyn ddilynol amlygodd yr eglwys ei pharch tuag ato drwy ei ethol yn Weinidog Anrhydeddus

Nodwyd iddo golli ei dad, pan roedd yn 19 oed.  Profiad trawmatig arall oedd colli ei briod cyntaf, sef Margaret Henrietta Maud Roberts (Maggie) a fu farw ym mis Medi 1916 Roeddent wedi priodi ym Medi 1912 a ganwyd iddynt dri plentyn mewn cyfnod byr sef Elizabeth (g.1913), David (g. 1914, a Margaret (g.1915).  Edrydd Richard, ei wŷr yr hanes i’w dad- cu gyfaddef na wyddai beth i wneud gyda thri plentyn mor ifanc heb fawr o gynhaliaeth.  Roedd hyn yn ystod anterth y Rhyfel Byd Cyntaf.  Drannoeth marw ei briod, gwelodd Richard sach fechan o sofrennau aur wrth y drws, ac ni wyddai ai unigolyn neu rhodd gan eglwys oedd wedi estyn yr haelioni hyn.  Gofalwyd am y plant gan berthnasau iddo, a magwyd Maud gan ei modryb gydol ei phlentyndod, er na wnaethant ei mabwysiadu yn swyddogol.  Bum mlynedd yn ddiweddarach, ail-briododd Richard gyda un o athrawesau’r ysgol gynradd leol a chawsant ddwy ferch – Kitty (g.1923) a Margaret Jean (g.1928).  Cafodd Hilda waedlif yn yr ymennydd a bu farw yn 1944, sef trydedd trasedi Richard Lloyd. Wedi ymddeol yn 1957, aeth Richard i fyw at Jean a’i phriod Derrick yn Rhydaman, a bu farw yn 77 oed yn Ysbyty Treforus ym Medi 1961, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Saron.

Cofir amdano yn Llawlyfr yr enwad gan W.G.Thomas a gyfeiriodd at Richard Lloyd fel gŵr urddasol a phendefigaidd gydag argyhoeddiad gadarn.  Bu ei ddylanwad yn fawr ar yr eglwysi y bu’n gweinidogaethu iddynt. Cyfaill oes iddo oedd John Thomas, gweinidog eglwys Blaenywaun am gyfnod helaeth, ac yn enedigol o Landisilio, yn Sir Benfro.  Cofir am hwnnw fel pregethwr llachar a dramatig, tra bod Richard Lloyd yn fwy fyfyrgar ei neges, ond yr un mor ddifyr yn ei ffordd ddihafal ei hun.  Roedd yr Ysgol Sul yn bwysig iddo, a llawer o blant yn mynychu yn ei gyfnod yn Saron.  Dywed Margaret Holmes, un o’r selogion yno ar hyd ei hoes, bod y mans, fel ail gartref iddi, a bod croeso twymgalon i bawb, yn arbennig iddi hi, a oedd yn byw yn yr un stryd.  Dywedai am Richard Lloyd ei fod yn berson golygus a oedd yn hawdd i sgwrsio gydag ef, a’i fod yn ystyried ei hun fel un o’r gymuned, ac wrth ei fodd yn cael hwyl yn yr Urdd, ar nos Lun. Cymdeithas ddiwylliadol oedd hon, a bod y gweinidog ynghanol bwrlwm ei bobl.  Nodir mewn coffâd yn un llyfr hanes yr eglwys yn Saron, ei fod yn ddarllenwr eang, a bod ôl darllen helaeth ar ei bregethau. Dywedir hefyd iddo dderbyn gwahoddiadau i ystyried eglwysi eraill i fod yn weinidog arnynt, ond iddo ymwrthod â’r cyfleoedd hynny.  Soniwd hefyd ei fod yn mwynhau myd lawr i’r Vetch yn Abertawe i wylio’r clwb yn chwarae pêl droed yng nghwmni’r Parchg Bryn Jones, Calfaria, Penygroes,  Porthyrhyd yn ddiweddarach. Yn ôl ei nai, Illtyd Lloyd,(cyn drysorydd Undeb Bedyddwyr Cymru)  roedd Richard Lloyd, yn bendefig tadol ei wedd, cadarn ei argyhoeddiad a bugail gofalus o’r praidd fyddai o dan ei ofal.

Cyfrannwr: Denzil Ieuan John.