Lloyd – Griffith Richard Maethlu (1902-1995)

Hawdd dweud bod Griffith Richard Maethlu Lloyd yn un o blant Ynys Môn, o ran ei anian a’i acen.  Ganed ef yng Nghaergybi ar 25 Ionawr 1902, yr hynaf o ddau fab David Lloyd, gweinidog gyda’r Bedyddwyr, a’i briod, Elizabeth, merch Griffith Williams, Hensiop, Llanfaethlu. Fe’i codwyd yng nghwmni ei frawd David, yng nghartref ei daid ac yno ddysgodd grefft saer coed yng ngweithdu’r teulu yn Hensiop. Addysgwyd Griffith Lloyd yn ysgol gynradd Ffrwd Win, Llanfaethlu, cyn symud i ysgol breswyl enwog Taunton. Ar 3 Awst 1913, yn 11 oed, fe’i bedyddiwyd gan ei dad yn Hebron, Caergybi, a’i ollwng yn aelod i Soar, Llanfaethlu ar 7 Hydref 1913. Yno codwyd ef i bregethu dan weinidogaeth John Lewis. Aeth i Goleg y Brifysgol Bangor yn 1919, yn nyddiau arloesol yr adran Amaethyddiaeth ac ennill Diploma mewn Amaethyddiaeth ar ddiwedd dwy flynedd.

Derbyniwyd ef i Goleg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol, Bangor, yn 1925. Enillodd radd anrhydedd mewn Hebraeg yn 1929 a bu’n cynorthwyo yn Adran Hebraeg Coleg y Brifysgol, gan astudio am dymor yn Leipzig. Dilynodd gwrs B.D. ym Mangor rhwng 1930 a 1933 a graddio gyda rhagoriaeth yn Hebraeg. Ei brif bwnc arall oedd Groeg y Testament Newydd. Aeth i Rydychen am ddwy flynedd a derbyn gradd B.Litt. am draethawd ar agweddau ar Lyfr Sechareia. Bu’n un o’r cynrychiolwyr o Gymru yng nghynadleddau Cynghrair Bedyddwyr y Byd yn Toronto yn 1928 a Berlin yn 1934.

Yn 1932, priododd â Fay (Tryphena) Jones, Rhianfa, Amlwch, o gyff Bedyddwyr cyntaf Môn, cyd-fyfyriwr iddo ym Mangor, a chawsant ddau fab, Dafydd ac Iwan.  Roedd aelwyd y ddau o hyd yn groesawgar ac roeddent yn deulu gwylaidd a  charedig tuag at bawb.

Ordeiniwyd G. R. M. Lloyd ym Mhenuel, Rhymni, yn 1935, a gweinidogaethodd yno am ugain mlynedd. Cynhaliai ddosbarth allanol y Brifysgol yno am flynyddoedd. Bu’n ffyddlon ei waith bugeiliol ac o hyd yn sylweddol yn ei bregethu.  Bu hefyd yn hael ei amser a’i gefnogaeth i waith Cymanfa Bedyddwyr dwyrain Morgannwg gan eistedd ar nifer o’i phwyllgorau.  Cynrychiolai’r  Gymanfa ar bwyllgorau’r Undeb, yn dderbyniol gan bawb.

Ar ôl dwy ddegawd yn y De, ymatebodd yn gadarnhaol i wahoddiad  Eglwys Penuel, Bangor, yn 1955 a dychwelodd y teulu i dref eu haddysg Prifysgol. Ymgartrefodd yn naturiol i fywyd yr eglwys a’r ardal a’r gynulleidfa wedi sefydlu yn y capel newydd yn ystod gweinidogaeth y Parchg J Elfed Davies. O fewn pedair blynedd daeth swydd tiwtor Groeg a Llenyddiaeth y Testament Newydd yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, yn wâg,  ac yn 1959, fe’i dewiswyd i lenwi’r swydd.  Yn ychwanegol at hyn, byddai’n dysgu Hanes ac Egwyddorion y Bedyddwyr i’r myfyrwyr. Y Parchg Tom Ellis Jones oedd y prifathro a felly bu’r drefn hyd at 1967, sef blwyddyn ymddeoliad y prifathro, pan ddyrchafwyd y Parchg G.RM. Lloyd yn brifathro a gwahoddwyd y Parchg Eirwyn Morgan i lenwi swydd yr Athro. Bu’n Brifathro’r coleg rhwng 1967 a 1971 ac yn gadeirydd Pwyllgor Gwaith y coleg am ddeng mlynedd wedi ymddeol. Roedd ganddo berthynas hynaws gyda’r myfyrwyr, ac roedd pawb a fu yn y coleg yn ystod ei gyfnod fel darlithydd yno, a pharch mawr tuag ato.

Cyflawnai ei waith mewn eglwys a choleg gyda graen ac enillodd ymddiriedaeth ei enwad yn ddiymdrech. Bu’n llywydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon yn 1962-63, a chael gwahoddiad arbennig i fod yn gadeirydd Cymanfa Môn (1985-86), y Gymanfa a’i cododd, er nad oedd mwyach yn aelod ohoni. Bu’n Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1973-74, cynhadledd a gynhaliwyd yn Siloam, Brynaman. Bu’n llais cryf a di-ildio i egwyddorion traddodiadol Bedyddwyr Cymru ar hyd ei oes. Roedd ganddo wybodaeth helaeth am fywyd a hanes y Bedyddwyr Cymreig, ac yn y trafodaethau ynghylch undeb eglwysig yn chwedegau’r ugeinfed ganrif, dadleuodd yn gryf o blaid cadw egwyddorion a chyfundrefn ei enwad. Ni chyhoeddodd llawer ar brint, ar wahân i ambell anerchiad ac ysgrif yn Seren Gomer, ond maent yn dystiolaeth i braffter ei feddwl a’i wybodaeth helaeth. Goroesodd ei wraig o ddwy flynedd, a bu yntau farw ar 6 Mawrth 1995. Claddwyd ef ym mynwent capel Pencarneddi ym Môn.

Cyfrannwyr

D Hugh Matthews

Denzil Ieuan John

Ffynonellau

Bywgrafffiadur Cymreig.

Dyddiadur a Llawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru, 1996;

Adroddiad Cymanfa Arfon, (1963), tt. 3-10;

Adroddiad Cymanfa Môn (1986), tt. 3-4, 5-10;

Seren Cymru 7 Ebrill 1995;

John Rice Rowlands, Y Coleg Gwyn (1992) tt. 39-40, 44.