Bydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn cofio lliaws o weinidogion dylanwadol ac arwyddocaol eu cyfraniadau ar hyd ei hanes fel enwad, a bydd enw David Wyre Lewis yn un o’r enwau amlwg hynny. Ganwyd ef ar aelwyd John a Jane Lewis y ‘Felinganol’, ym mhentref Llanrhystyd yn Sir Ceredigion. Cyfrannodd ei deulu yn sylweddol i farddoniaeth a cherddoriaeth y genedl ac roedd ei dad, John Lewis sef Eos Glan Wyre (1836-1892) yn fardd a cherddor. Felly hefyd ei ewythr, David Lewis (1828-1908) a oedd yn gerddor dawnus. Addysgwyd Wyre Lewis yn ysgol yr eglwys yn Llanrhystyd a bu yno nes roedd yn 14 oed pan prentisiwyd ef i fod yn saer coed yn Nhrawscoed. Gan nad oedd digon o waith yn lleol, teithiodd i’r Maerdy yn y Rhondda Fach i ennill bywoliaeth, cyn symud eto i Benygraig, nid nepell o Donypandy. Mynychodd Soar, Ffrwdamos, Eglwys y Bedyddwyr ym Mhenygraig ac yno ymhen amser, gofynnodd am gael ei fedyddio o dan weinidogaeth y Parchg Hugh Jones. Gwelwyd dawn pregethwr ynddo a theimlodd yr alwad i fod yn weinidog. Treuliodd gyfnod byr mewn ysgol nos yn y Porth, a blwyddyn a dau fis yn derbyn hyfforddiant yn y Severn Grove Academy yn Llanidloes rhwng 1893-4. Aeth i Goleg Prifysgol Aberystwyth am flwyddyn i’w baratoi i fatriciwleiddio er mwyn cael ei dderbyn i Goleg Prifysgol Bangor a Choleg y Bedyddwyr Bangor yn 1895. Bu yn y ddinas honno am bedair blynedd a llwyddo yn arholiadau’r Brifysgol.
Maes gweinidogaethol cyntaf Wyre Lewis oedd yng ngogledd Pen Llŷn gan dreulio degawd yn arwain addoliad eglwysi Seion a Morfa Nefyn (1900-1910). Yn 1904 priododd gydag Elizabeth Ellen Roberts (1896 – 1941), merch o Gaergybi, a ganwyd dau fab i’r briodas, sef Ceredig a Seiriol. Yn ystod ei gyfnod yno bu’n gyfrifol am adeiladu capel newydd yn y naill a rhoi trefn ar gyllid y llall. Yno hefyd cafodd brofiadau yng nghyfnod y diwygiad yn 1904/5.
Yn 1910 symudodd i Galfaria, Llanelli, am dair blynedd (1910-1913). Un o brofiadau rhyfedd ei gyfnod yno oedd gweld terfysg yng nghyd-destun y streic rheilffordd ym mis Awst 1910. Denwyd ef yn ôl i’r gogledd a threuliodd yn agos i chwarter canrif yn bugeilio Eglwys Penuel, Rhosllanerchrugog. Yno roedd yn frenin uchel ei barch ac yn weinidog y gweinidogion. Dywedodd Ben Owen amdano yn ei erthygl yn y Bywgraffiadur fod Wyre Davies “wedi cymhathu ei weinidogaeth bersonol a’r efengyl gymdeithasol a oedd yn ennill tir ymhlith yr aelodau”.
Yn 1946 bu farw ei briod, a chladdwyd ei gweddillion hi yn Llanrhystyd. Yn 1946, ail-briododd gyda Mrs Eleanor Thomas, (ganwyd Dodd) o Ben-Cae, Wrecsam a bu hithau’n ofalus iawn ohono yn ei flynyddoedd olaf. Dyma hefyd oedd blwyddyn ei ymddeoliad, a symudodd y ddau i fyw i Benycae ger Wrecsam ac ymaelodi yn eglwys Salem. Bu farw ugain mlynedd yn ddiweddarach ar ôl cystudd byr. Claddwyd ef ym medd ei wraig gyntaf yn Llanrhystyd.
Yn hanner cyntaf yr 20g. roedd Wyre Davies yn un o bersonoliaethau amlwg Undeb Bedyddwyr Cymru. Disgrifir ef fel gweinyddwr profiadol a dylanwadol. Bu am bedair blynedd yn Ysgrifennydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon (1906-1910) ac am ugain mlynedd yn cyflawni yr un swydd yng Nghymanfa Dinbych, Fflint a Meirion. (1919-1939). Roedd yn un o’r arweinwyr i sefydlu a hyrwyddo’r Gronfa Gynhaliol yr Undeb, gyda gweledigaeth glir am y modd roedd cyfrifoldeb gan yr eglwysi i gefnogi a chynnal ei gilydd. Bu’n llywydd Cymanfa Dinbych, Fflint a Meirion ddwywaith (1930 a 1954) a bu’n llywydd yr Undeb yn 1938-9.
Ymysg ei gyfraniadau amlwg eraill i weithgareddau Undeb Bedyddwyr Cymru, nodwn ei fod wedi bod yn gadeirydd y Drysorfa Goffadwriaethol, Pwyllgor ‘Y Llawlyfr Moliant Newydd (1955) a Phwyllgor y Gronfa Gynhaliol ac yn drefnydd dros Gymru i’r Drysorfa Ad-drefnu (1944). Roedd ganddo’r egni, yr ymroddiad a’r weledigaeth i hyrwyddo gweithgareddau’r Undeb yn ei blaen, yn arweinydd wrth redd ac yn was llawn diwydrwydd a gallu.
Yn ei erthygl yn y Bywgraffiadur Cymreig, nododd Ben Owens holl gyfraniadau Wyre Davies drwy ddweud:
“Yr oedd yn ysgrifwr toreithiog a chyhoeddodd fyrgofiant yn J. T. Rees (gol.), Detholiad o donau, anthemau a rhanganau Dafydd Lewis, Llanrhystyd(1930), ac Yr eglwysi a’r undeb. Y weinidogaeth a’i pherygl heddiw (1939). Yr oedd ar y blaen yn atgyfodi Seren Gomer yn 1909, yn olygydd y cylchgrawn, 1910-16, gyda phwyslais neilltuol ar ei ‘Nodiadau ar lyfrau’, ac y mae ei erthyglau ymlaen i’r 1930au yn cynnwys bywgraffiadau Bedyddwyr cyfoes o Gymry, adroddiadau ar gynadleddau blynyddol, a thraethiadau sylweddol ar bynciau amrywiol. Cyfrannodd lawer i Yr Hauwr (wedyn Yr Heuwr) a’i olynydd Yr Arweinydd newydd, o 1904 hyd ganol y 1930au.
Yr oedd yn ŵr effro i anghenion cenedl yn ogystal ag enwad. Bu’n ysgrifennydd Cymanfa Ddirwest Llŷn ac Eifionydd. Yr oedd yn heddychwr i’r carn, yn aelod o’r cwmni a gychwynnodd Y Deyrnas, Hydref 1916, ac yn ysgrifennydd a chofnodydd i’r Gynhadledd Heddwch a alwyd yn Llandrindod, 3-5 Medi 1917. Ef yn 1940-41 oedd cadeirydd y Pwyllgor er Diogelu Diwylliant Cymru, a phan unwyd hwnnw ag Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg yn 1941 i greu Undeb Cymru Fydd, bu o’r cychwyn yn aelod o Gyngor ac amryw o bwyllgorau’r corff newydd ac wedyn yn gadeirydd ac yn llywydd. Dyfarnwyd iddo D.D. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1961, ac ym marn llawer ef oedd Bedyddiwr pwysicaf yr 20fed ganrif yng Nghymru”.
Dywedodd Tom Ellis Jones, un o blant Penuel, Rhosllanerchrugog, a phrifathro Coleg y Bedyddwyr, Bangor, amdano –
“Pregethodd drwy ei oes ym mhrif wyliau’r enwad, ac nid dieithr oedd ei lais ym mhrif wyliau’r enwadau eraill yng Nghymru. Am ei wasanaeth i’w enwad a’i genedl rhoddodd Prifysgol Cymru yn 1961 iddo y radd o ddoethur mewn Diwinyddiaeth. Gwyddom oll syrthio o dywysog yn Israel pan fu farw ef”.
Cyfrannwyr:
Tom Ellis Jones Llawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru 1967
Ben G. Owen Bywgraffiadur Cymreig
Denzil Ieuan John