Leeke – Samuel James ( 1888 – 1966 )

Ganed Samuel James Leeke ar 28 Mawrth 1, 1888. Roedd yn fab i Samuel ac Anne Leeke, Talybont, Ceredigion, a hwythau wedi priodi ym Mryste 20 Tach. 1884.  Saer coed oedd y tad wrth ei alwedigaeth, a bu wrth ei waith  am ugain mlynedd. Cyn hynny bu yn ymarfer ei grefft ar y môr ac roedd wedi hwylio droeon ‘ rownd yr Horn ’.

Dechreuodd Samuel ei yrfa yng ngwasanaeth y Swyddfa Bost, ond yn sgîl Diwygiad 1904-05 fe’i cymhellwyd gan ei fam-eglwys yn y Tabernacl, Tal-y-bont, Ceredigion, yn 1907 i ddechrau pregethu. Wedi cwrs o baratoai yn Ysgol yr Hen Goleg yng Nghaerfyrddin, derbyniwyd ef yn 1909 i Goleg y Brifysgol a Choleg y Bedyddwyr, Caerdydd, ac er gwaethaf ei anfanteision cynnar, llwyddodd i gyflawni’r gamp o ennill graddau B.A. yn 1912 a B.D. yn 1915.

Ordeiniwyd ef ar 14 Chwefror, 1916 fel gweinidog yn Seion, Eglwys y Bedyddwyr yng Nghwmaman, Aberdâr, ac arhosodd yno am gyfnod o naw mlynedd.  Gadawodd argraff arbennig ar yr eglwys gyda’i bregethu dramatig a’i bersonoliaeth ddengar. Cofir amdano yn cynhyrchu cantata i’r plant ar thema ‘Moses’, profiad a arhosodd ar gof y plant hynny am flynyddoedd lawer.  Cyfeiriwyd ato gan aelodau’r eglwys fel ‘tywysog y pulpud’, ac roedd cyfeillgarwch arbennig rhyngddo â John Evan Harris, ysgrifennydd yr eglwys yn y cyfnod hwnnw.  Pan wnaed John Evan Harris yn ddi-waith, o’r pwll glo, roedd y gweinidog ifanc wedi symud i ardal y glo called, a threfnodd S.J.Leeke iddo gael swydd mewn pwll glo ym Mrynaman.

Ail gyfnod yng ngyrfa S. J. Leeke oedd Siloam, Brynaman, a oedd yn ardal Gymreig yn ochr orllewinol Sir Forgannwg.  Nid oedd yn gyfforddus i dderbyn gwahoddiad i Siloam ar y tro cyntaf iddynt wneud, ond pan ddaeth yr eglwys i bwyso arno yr ail dro, sylweddolodd bod taerineb yr alwad yn un o Dduw, a derbyniodd y gwahoddiad yn wylaidd.  Sefydlwyd ef yno ym mis Chwefror 1925 ac arhosodd yno hyd ddechrau Hydref 1931. Disgrifiodd Marion Henry Jones ef yn Llyfr Hanes Siloam, (Gwasg Gomer 1972), fel “gŵr golygus, tywyll ei wallt, a byw iawn ei lygaid, cyflym ei barabl mewn llais hynod o felodaidd a godai i huodledd tanbaid mwy nag unwaith ym mhob pregeth.  Meddai ar bersonoliaeth atyniadol a swynol iawn.”

Dywedir ei fod yn hapus iawn ym Mrynaman, a’r eglwys wedi llwyr ymserchu ynddo, ond am nad oedd ei ddyweddi yn medru llawer o Gymraeg, roedd yn aeddfed i symud i ardal lle byddai mwy o gyfathrebu trwy gyfrwng y Saesneg. Er mai chwe blynedd a hanner y bu’n weinidog yn y Gwter Fawr, roedd ei ddylanwad yno yn sylweddol iawn.

Priododd S. J. Leeke gyda’i ddyweddi, Amy Gertrude Bryant, aelod yn eglwys Seion, Cwmaman, ym Methesda, Abertawe ar 22 Medi 1931, bythefnos cyn dydd ei sefydlu yn yr eglwys honno.  Roedd Amy yn ferch i William ac Emily Bryant, y tad yn löwr a laddwyd yn y pwll glo yn 1911, a’r fam wedi cadw’r swyddfa bost yng Nghwmaman am hanner canrif.   Yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd bu’n amlwg iawn ei gefnogaeth i’r gymdogaeth eang, ac fel llawer un arall, gwelodd fomiau yn chwalu ei gartref ei hun yn 12 Brooklands Terrace, ar 17 Chwefror 1941.

Cofir amdano fel pregethwr efengylaidd hwyliog, ac yn gwmnïwr rhadlon.  Roedd yn gasglwr helaeth o lyfrau o bob math, ac yn eu plith roedd llawer o lyfrau argraffiad cyntaf.  Roedd yn medru sawl iaith, ac yn arbennig yr iaith Hebraeg.  Cyfrannai yn gyson i lenyddiaeth ei enwad, mor gynnar a 1917 i’r Heuwr, ac yn arbennig yn y 30au i’r Arweinydd Newydd ar faes llafur yr Ysgolion Sul.  Dywedir mai ei gyfraniad pwysicaf oedd ei esboniad ar Lyfr y Proffwyd Eseia: detholion, a gyhoeddwyd yn 1929 dan nawdd Undeb Ysgolion Sul Bedyddwyr Cymru.  Bu’n amlwg gydag eraill yn sefydlu Urdd y Seren Fore a gwasanaethodd y mudiad hwnnw mewn sawl modd, gan gynnwys bod yn llywydd yn 1939-40.

Cyfraniad pwysig arall o’i eiddo oedd helpu i sefydlu Ysgol Ilston, sef ysgol i baratoi myfyrwyr ar gyfer y weinidogaeth.  Agorwyd yr ysgol hon yn Abertawe ar 8 Medi 1934.  Bu’n llywydd Cwrdd Dosbarth Ystalyfera a’r cylch pan symudodd i Abertawe, a bu’n llywydd Cymanfa Gorllewin Morgannwg 1949-50.  Testun ei anerchiad oedd ‘Trem yn ôl’. Bu’n llywydd adran Gymraeg Undeb Bedyddwyr Cymru 1961-62 a thraddododd ei anerchiad ar y testun ‘Galw am hyder a gobaith newydd yn yr Efengyl’, yng Nghaergybi.  Bu hefyd am bymtheng mlynedd yn gaplan anghydffurfwyr yn Ysbyty Cyffredinol Ffordd Sain Helen a nodir mai ei hoff emyn oedd   “Cofir mwy am Bethlehem Juda”

Bu farw S. J. Leeke ar ddiwrnod olaf 1966 a’i gladdu ym mynwent gyhoeddus Ystumllwynarth.

Cyfrannwyr:

Ben G Owen – Bywgraffiadur Cymreig

Denzil Ieuan John