Brodor o’r Gerlan, Bethesda Gwynedd oedd y Parch R. Coetmor Jones (‘Bob’neu ‘Robin’) fel ei gelwid gan ei gyfoedion. Fe’i ganed yn Hill Street ym mis Hydref 1913. Mab ydoedd i Richard Jones, chwarelwr a thyddynnwr a’i wraig Elizabeth Jones ac yr oedd ganddo tri brawd, John, Wil ag Arthur a pum chwaer, Catherine, Ann, Alice, Phylis a Betty. Derbyniodd ei addysg yn ysgolion y Carneddi a Cenfaes. Mewn cyfnod o argyfwng economaidd ac yntau ond yn dair ar ddeg oed bu’n rhaid iddo adael yr ysgol ag aeth i weithio i chwarel y Penrhyn. Yn ei deyrnged iddo yn ‘Llais Ogwan’ Medi 1990 dywedodd y diweddar Robin Coetmor Williams ei fod yn, ‘ ymlafniwr dygn yn ei waith…… ac ar derfyn dydd nid noswylio byddai’r drefn ond llafurio ar y tyddyn’. Yn ystod y cyfnod yma roedd y teulu wedi symud i dyddyn Nant y Tŷ nid nepell o’r Gerlan wrth draed y Carneddau ac fel teulu Nant y Tŷ y’i hadwaenid. Ar ôl cyfnod o weithio yn y chwarel ac yntau bellach yn chwarelwr trwyddedig fe wireddwyd un o’i freuddwydion pan gafodd wahoddiad i symud i Rosllannerchrugog fel myfyriwr yn ysgol baratoi ‘r Parch John Powell Griffith. Yn ei deyrnged i ‘Bob Coetmor’ Seren Cymru Mehefin 1990 dywedodd un o’i gyd myfyrwyr yn y Rhos sef y diweddar Brifardd y Parchedig Rhydwen Williams, ‘roedd ei lygaid yn gwibio fel bachgennyn o’r wlad yn gweld y ddinas fawr am y tro cyntaf’ Yn wir meddai ‘roedd Bob Coetmor wedi cael cip ar gyfandir newydd’.
Aeth ymlaen i brifysgol a choleg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd lle bu’n capten ar dîm pêl droed y brif ysgol a chynrychiolodd tîm peldroed Colegau Cymru. Tystia yn aml i gyfeillgarwch a chymorth eu gyd myfyrwyr a chefnogaeth tiwtoriaid y brifysgol. Ym Medi 1944 fe’i ordeiniwyd yn Weinidog yr Efengyl yng nghapel Calfaria Cymmer Afan a bu yno am bum mlynedd cyn derbyn galwad i weinidogaethu capeli Bedyddwyr Llanelidan a Phandy’r Capel yng nghanol godidowgrwydd Dyffryn Clwyd. Dyma ddechrau perthynas agos, ffyddlon a hynaws y Parch Coetmor Jones a thrigolion Dyffryn Clwyd a Dyffryn Edeyrnion, perthynas a barodd hyd at ei farwolaeth. Rhwng !957 a 1975 bu’n athro yn ysgolion uwchradd Halmerend ger Audley yn swydd Stafford, Brynteg ger Wrecsam, Caergybi, sir Fôn a Dinas Bran, Llangollen, sir Ddinbych. Ar ol ymddeol fel athro, ym Medi 1976 derbyniodd y Parch Coetmor Jones alwad i weinidogaethu ym Methania Llansannan, Bethabara, Llangernyw, Llanfairtalhaiarn, Soar y Codau a Bodgynwch. Mawr fu ei barch yn yr ardal ac mae cofeb iddo yn addurno un o furiaul capel Bethabara, Llangernyw. Yn dilyn cyfnod anodd o salwch fe ymddeolodd o’r weinidogaeth llawn amser ac fe ymunodd gyda’r weinidogaeth rhan amser pan dderbyniodd yr alwad i weinidogaethu yng nghapel Bedyddwyr Park Road, Rhuthun ac fe dreuliodd cyfnod hapus a llwyddiannus iawn yno hyd ei farwolaeth ym mis Ebrill 1990.
Yn ei anerchiad llywyddol i Gymanfa Dinbych ,Fflint a Meirion, talodd deyrnged i fro ei febyd, ei gartref a’i deulu. Dywedodd mai pregethwyr oedd gwroniaid yr aelwyd yn Nant y Tŷ. Llun y Parch Idwal Jones oedd uwchben ei wely. Bu dylanwad ei fam eglwys sef Bethel, Caerllwyngrydd yn arwyddocaol. Bu mynychu llu gyfarfodydd pregethu Dyffryn Ogwen a chael cyfle i wrando’r doniau mawr yn fraint ac yn anrhydedd. Does dim rhyfedd felly iddo fo a’i frodyr wynebu ar y weinidogaeth. Siaradodd yn aml am gyfeillgarwch y chwarelwyr ar ychydig gyfnodau seibiant y cawsant yn y ‘cwt’ yn trafod materion cyfloes a llosg y cyfnod. Ond mae’n debyg mae’r dylanwad mwyaf arno oedd ei wraig ‘May’. Bu’r ddau priodi ym mis Chwefror 1948 yng Nghapel Bedyddwyr Ebenezer, Aberafan. Bu’n briod hoff a ffyddlon iddo ac yn gefnogol iawn iddo yn ei weinidogaeth. Bu parch ei thriadol iddi yn yr holl ardaloedd a gwasanaethodd. Ganwyd iddynt un mab a bu’r ddau yn rieni arbennig iddo. Bu farw ‘May’ yn 1969 a hithau ond yn 45 oed a bu’r golled yn ddyrnod drom iddo.
Roedd yn gadarn ei farn a chryf ei ffydd. Roedd yn weinidog ag athro llwyddiannus iawn. Byddai bob amser yn clodfori cyfeillgarwch, caredigrwydd , cefnogaeth ag amynedd ei bobl. Roedd yn bregethwr deallus, proffwydol, medrus a heriol a chymerai balchder yng nghyflwyniad ei bregethau. Roedd ganddo wybodaeth a diddordeb byw yn hanes yr eglwys. Roedd yn ddarllenwr awchus ac yn ysgrifennwr toreithiog i bapurau lleol ac wythnosolyn y Bedyddwyr ‘Seren Cymru’. Mae ei deyrngedau i bobl ledled Cymru yn gampweithiau llenyddol sy’n nodi cyflwr cymdeithas a chyfraniad enwog yr enwad dros hanner can mlynedd a mwy. Bu’n driw i’w enwad ac i’w haelodaeth. Gweithredodd fel ysgrifennydd Cwrdd Dosbarth Aberafan a bu’n flaengar mewn sawl ymgyrch yn dilyn diweddglo’r ail ryfel byd. Gweithiodd yn galed fel aelod o bwyllgor lleol cyfarfodydd Undeb Bedyddwyr Cymru a Mynwy Corwen 1950. Yn areithiwr heb ei ail bu’n diwtor caboledig y W.E.A. mewn sawl ardal. Etholwyd yn gadeirydd eglwysi rhyddion tref Rhuthun a bu’n Llywydd Cymanfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion.
Yn rhifyn Medi 7fed 1990 Seren Cymru ymddangosodd englyn o waith Geraint Jones-Evans, Y Rhyl am y Parch R. Coetmor Jones,
Ei rinwedd, triw i’w enwad,- ac o reddf
Yn llawn gras a chariad;
Eco o’i ffydd yw’n coffâd,
Un ydoedd hoff o’i geidwad.
Cyfrannwr : Alun Coetmor Jones (mab Robert Coetmor Rones.)