Hughes – John Williams (1888-1979)

Ganwyd John Williams Hughes yn Abertawe ar 6 Ionawr 1888, lle bu’r Parchg W. P. Williams, gweinidog eglwys Dinas Noddfa, Glandŵr, Abertawe yn ddylanwad pwysig arno. Roedd yn fab i  Mr a Mrs Jeremiah Lot Hughes, gyda’i dad yn ddiacon, trysorydd ac ysgrifennydd gohebol Dinas Noddfa, Glandwr. Roedd ei fam yn un o bedair merch yr enwog John Williams (‘Ioan ap Dafydd’), gweinidog Aberduar, Llanybydder, 1800-1871.  Yn dilyn ei addysg gynradd ym Mrynhyfryd, Abertawe ac addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg y dref, ymgyflwynodd i’r weinidogaeth, a derbyniwyd ef yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Bangor. Graddiodd yn B.A., B.D, cyn mynd i Goleg Mansfield yn Rhydychen i wneud gradd uwch.

Ordeiniwyd ef yn Eglwys y Bedyddwyr, Dagnall St., St Alban’s, yn 1914.  Flwyddyn yn ddiweddarach priododd Margaret, merch y Parchg Edward Evans, gweinidog Penuel, Bangor.  Ganwyd iddynt dri mab, Ieuan, Edward a’r actor Hugh David.  Erbyn 1918, roedd wedi cael salwch enbyd a bu’n rhaid iddo ffarwelio â St Alban’s, a dychwelyd i Gymru ac ymsefydlu yn y Bermo. Erbyn 1920, roedd wedi ymgryfhau digon i gymryd gofal yr eglwys yn y dref honno.  O fewn pedair blynedd, derbyniodd alwad Eglwys y Bedyddwyr Saesneg yn Alfred Place, Aberystwyth, a threulio amser dedwydd yno. Serch hynny, o fewn dwy flynedd yn 1926, roedd wedi derbyn gwahoddiad eglwys y Tabernacl, Caerdydd i rannu gofalaeth ar y cyd gyda’r hynafgwr Charles Davies.  Er iddo edrych ymlaen at dreulio amser yng nghwmni ei gyd-weinidog, bu farw Charles Davies ar drothwy’r Nadolig, a’r ddau ond wedi treulio ychydig fisoedd gyda’i gilydd.

Gofid Charles Davies oedd y byddai colli’r aelodau a symudodd allan i’r maestrefi yn chwilio am eglwys arall, (Saesneg o bosibl), yn gwanhau aelodaeth Tabernacl. Ni ddigwyddodd hynny fel y cyfryw, gan fod diaconiaid profiadol wrth y llyw, ac roedd hynawsedd naturiol Williams Hughes yn effeithiol.  Yn dilyn angladd Charles Davies, bu farw cewri eraill megis Arglwydd Pontypridd, Evan Nicholas a’r Prifathro William Edwards. Roedd y cyfnod hwn yn hanes yr eglwys yn dal i werthfawrogi cynhaliaeâth gwaddol y gorffennol, ac arhosodd y  gynulleidfa yn un sylweddol. Roedd eraill fel  Jocelyn Davies, mab y cyn-weinidog, Morgan Davies a fu’n drysorydd gofalus am amser maith, a’r ysgrifennydd ffyddlon W. T. Phillips  yn pontio’r ddau gyfnod, ac yn gefn i’r gweinidog newydd. Ymfalchïai J. Williams Hughes yn y modd y coffawyd ei ragflaenydd, ac yn arbennig wrth osod y ffenestri lliw ym mlaen y capel. Ef ei hun fu’n gyfrifol am y gyfrol goffa a gosod cofeb ar fur y capel. Mae’r ddwy brif ffenestr liw yn portreadu ‘Bedydd Iesu’ gan Goodwin Lewis a’r llall o’r ‘ Swper Olaf’ gan Leonardo Da Vinci.  Gosodwyd geiriau yn cyfeirio at y grasusau yn y ffenestri ochr hefyd sef Ffydd, Gobaith, Cariad, Cyfiawnder, Trugaredd Sancteiddrwydd, Gwirionedd, Daioni a Prydferthwch.  Y gweinidog ei hun ddewisodd y geiriau hyn.  Maent yno hyd.

Daeth i Gaerdydd mewn cyfnod economaidd anodd.  Roedd gwrthdaro enbyd yng nghyfnod y streic fawr, ac roedd gofyn llais clir a chytbwys ym mhob maes.  Roedd y Tabernacl wedi cyrraedd ei phinacl mewn sawl gwedd, ac ym marwolaeth Charles Davies, gellir yn hawdd ddychmygu’r cyfan yn mynd ar chwâl.  Roedd Caerdydd yn tyfu, a’r ddinas, fel gweddill de Cymru yn troi at y Saesneg fel iaith bob dydd.  Bu i’r Tabernacl fel nifer o eglwysi eraill, dderbyn yr arfer o Seisnigeiddio ac i’r pulpud hefyd fod yn ddigon parod i fod yn ystwyth ar fater iaith.  Onid oedd y gennad wedi bod yn weinidog mewn gofalaethau Saesneg, ac yn barod i arbrofi gyda dulliau gwahanol o gyfathrebu?  Nid oedd yn llinach areithio clasurol y gorffennol, ac roedd John Williams Hughes a’i gynulleidfa yn gyfaddas a’i gilydd.  Bu’n weinidog am ddeng mlyneddddiddorol a dedwydd, a pherchir ei goffawdwriaeth fel un a ‘safodd yn y bwlch’ mewn cyfnod anodd.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, derbyniodd John Williams Hughes wahoddiad coleg yr enwad ym Mangor i fod yn ddarlithydd yno, ac yn 1943 yn brifathro, cyn ymddeol yn 1959, ac yntau yn 71 mlwydd oed. Enillodd ei le fel gŵr o sylwedd a dylanwad o  fewn ei enwad ac ar draws Cymru. Bu’n ysbrydoliaeth i nifer o fyfyrwyr diwinyddol yno, a’i air tawel a phwrpasol yn ddigon i beri i gyfeirio’r mwyaf anwadal o efrydwyr i ymdrechu’n galetach yn ei waith.

Cofir am J. Williams Hughes fel cyfathrebwr medrus, ac yn bregethwr arbennig. Roedd ei ffordd ef o bregethu yn wahanol iawn i arddull ei gyfoedion, fel petai’n sgwrsio gyda’r gynulleidfa yn hytrach nag annerch yn ffurfiol. Dywedodd Gwilym B. Owen, yn yr oedfa goffa yn y Tabernacl Caerdydd, fod J. Williams Hughes yn ŵr ffraeth ac yn defnyddio ei hiwmor ym mhob math o sefyllfa.  Roedd yn mwynhau gwmni pobl, ac roedd yn gyfforddus mewn llawer cylch cymdeithasol. Serch hynny nododd Gwilym Owen nad oedd J. Williams Hughes yn un i ‘newid lliw ei bluen yn ôl lliw y dŵr’.  Dywed hefyd yn ei deyrnged ei fod yn ‘ŵr o argyhoeddiadau dyfnion. Safai am yr hyn a gredai, ac roedd ei bresenoldeb tawel, boneddigaidd, yn ddigon o dystiolaeth i’w safonau uchel.’

Cafodd ei wahodd i bregethu mewn amryw o gyfarfodydd pwysig megis oedfa ffarwelio â chenhadon y Bedyddwyr yn Bloomsbury yn 1938; oedfa genhadol cyrddau blynyddol Undeb Bedyddwyr Lloegr yn Westminster Chapel yn 1946; a chyfarfod y Baptist World Alliance yn yr Albert Hall yn Llundain. Yn ystod ei oes faith daeth llu o anrhydeddau eraill i’w ran. Bu’n Ddeon y Gyfadran Ddiwinyddol ym Mangor ac yn Ddeon Cyfadran Ddiwinyddol Prifysgol Cymru, ac yn eu tro yn Llywydd Cymanfa Arfon, Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Gwasanaethodd ar amryw o bwyllgorau, gan gynnwys prif bwyllgor y Baptist Missionary Society a Central Religious Advisory Committee y B.B.C. yng Nghymru. Cyhoeddodd lu o ysgrifau mewn amryw o gylchgronau crefyddol a seciwlar (megis Llafar) a chyfrannodd erthyglau i’r Geiriadur Beiblaidd a gyhoeddwyd yn 1926 a’r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (1953). Golygodd Cofiant Charles Davies (1933). Cafodd ieuenctid ysgolion Sul Cymru ddwy gyfrol fechan ganddo: Hanes y Proffwydi (1923) a Hanesion Llyfr yr Actau (1925). Yn 1949 paratôdd esboniad gwahanol i’r arfer i oedolion. Yn ei Rhagair i Esboniad ar yr Epistolau at yr Effesiaid a’r Philipiaid dadleua mai fel llythyrau i’w darllen a’u deall ar un eisteddiad y bwriadwyd y ddau epistol, ac nid rhywbeth i’w darllen a’u dadansoddi linell wrth linell gan graffu ar bob gair a brawddeg. Rhaid darllen y llythyr drwyddo i ganfod beth y mae Paul yn ceisio’i ddweud, meddai. Aralleiriad o’r ddau lythyr, felly, a gyhoeddwyd ganddo gan gynnwys o fewn i’r aralleiriad unrhyw eglurhad y teimla sy’n angenrheidiol. Ar ddiwedd pob aralleiriad cynhwyswyd nodiadau ar ddetholiad cymharol fach o eiriau ac ymadroddion trawiadol. Ysgrifennodd hefyd gofiant byr yn 1946 i Timothy Richard, cyfaill ysgol i’w fam, ac yn 1962 cyhoeddodd ei unig gyfrol Saesneg, sef cofiant i genhadwr arall, Christy Davies – a Brief Memoir.

Ystyrid J. Williams Hughes fel ysgolhaig sylweddol, yn ŵr o ffydd gadarn a defosiwn didwyll a chyson.  Cyfeiriodd Hugh Matthews mewn anerchiad yn yr un cwrdd coffa at wreiddioldeb, dynoliaeth a duwioldeb yr un a fu’n brifathro iddo pan roedd yntau yn fyfyriwr ym Mangor.  Ar ddiwedd gyrfa’r cyn-brifathro, roedd J. Williams Hughes yn aelod yn eglwys Castle Street, Llundain, lle’r oedd Hugh Matthews yn weinidog iddo.  Lluniodd y Parchg J. Williams Hughes gyfres o erthyglau ar gyfer Seren Cymru yn olrhain ei brofiadau, a gasglwyd ynghyd a’u cyhoeddi fel cyfrol yn dwyn y teitl ‘Troeon yr Yrfa’ .  Bu farw ar 2 Hydref 1978 tra ar ymweliad â’i fab yng Nghernyw a chynhaliwyd ei angladd yn Truro.  Hedd i’w lwch.

 

Cyfrannwyr :

Denzil Ieuan John
D. Hugh Matthews