Harry – William (1914-2001)

William Harry oedd yr ieuengaf o chwech o blant a anwyd i David a Rachel Anne Harry ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin. Yn nhrefn ei geni roedd David, Mary, Thomas John, a’r efeilliaid Aneurin ac Emlyn. Aeth y plant gyda’i mam i’r Tabernacl, ym Morth Tywyn, tra bod y tad yn aelod yn Carmel, eglwys yr Annibynwyr, lle roedd yn ddiacon. Gweinidog y Tabernacl yn y cyfnod hwnnw oedd y Parchedig Ellis Williams yn weinidog. Yn diweddarach daeth y Parchedig George Davies yn weinidog yno, a fu’n ffrind agos i William ar hyd y blynyddoedd. Symudodd George Davies i fod yn weinidog yn yr Hen-Dŷ-Gwyn, pan oedd William yn weinidog, nid nepell i ffwrdd, yn Llanddewi Efelffre. Cafodd William ei addysg yn yr ysgolion lleol, cyn ymdeimlo â’r alwad i’r weinidogaeth a chofrestru fel myfyriwr yng Ngholeg y Presbyteriaid yng Nghaerfyrddin.

Ordeiniwyd ef i’r weinidogaeth yn Ebenezer, Eglwys y Bedyddwyr, Cold Inn ger Dinbych y Pysgod yng Nghymanfa Penfro, fel olynydd i’r Parchg Erasmus Gravell, un arall o blant Eglwys y Tabernacl, Porth Tywyn. Wedi ei fagi mewn ardal lle ‘roedd gwaith glo ac amaethyddiaeth yn bwysig, cylch yn debyg oedd Cold Inn lle oedd rhai o brif glofeydd Sir Benfro wedi eu lleoli. Yn ystod y cyfnod hwn priododd gyda Ruth Rees yn Seion, Capel y Bedyddwyr, Llanelli, gyda’r Parchg Jubilee Young yn gwasanaethu. Tra yn Cold Inn, ganwyd John, eu hunig fab, a ddaeth, yn llawnder amser, yn brif-athro ysgol gynradd ac yn swyddog addysg proffesiynol gydag Awdurdod Penfro. Bu’r cyfnod yn Cold Inn yn amser dedwydd gan fwynhau gweinidogaeth ffrwythlon. Yr hyn a wnaeth bywyd yn anodd yno oedd diffyg cartref parhaol, gan arwain ym mhen pum mlynedd iddo symud i Forgannwg. Treuliodd y teulu bach dair blynedd dedwydd yn Hope, Eglwys y Bedyddwyr yng Nghaerau ger Maesteg, rhwng 1945 a 1948. Dyma ardal lofäol oedd yn debynnol ar glo yn yr adeg cyn i’r glofeudd cael eu cenedlaetholi.

Yn 1948 derbyniodd alwad i fod yn weinidog yn Eglwys Bwlchnewydd ac Eglwys Bethel, Plashed yn ardaloedd Talacharn. Roedd Bwlchnewydd yn eglwys Gymraeg, tra bod Bethel yn eglwys a addolai drwy gyfrwng y Saesneg. Mwynhaodd y cyfnod hwn er bod y gyflog yn fychan. Bu’n rhaid i’w briod Ruth weithio fel ysgrifenyddes swyddfa ac roedd ei waith yntau yn ymledu tu hwnt i waith arferol gweinidog. Derbyniodd swydd ran amser yn y sefydliad Prawf ac Arbrofi ym Mhentywyn. Teimlai ei fod wedi cael cyfle i weinidogaethu i’w gydweithwyr yno a datblygodd hynny drwy wasanaethu fel ysgrifennydd Cyngor y Plwyf yn Llanddowror. Wedi hyn, cafodd ei ethol i fod yn gynghorydd ar Gyngor Dosbarth Gwledig Caerfyrddin. Treuliodd un-ar-ddeg mlynedd yn y fro honno a gellir dyfynnu Mr Garnet Chapman, un o aelodau Eglwys Plashed, y byddent yn cofio’n ddiolchgar am weinidogaeth bendithiol Mr Harry yn y fro.

Yn 1951, symudodd y teulu i’r gorllewin gan gymryd gofal dwy eglwys, Eglwys y Ffynnon yn Llanddewi Efelffre, a Glanrhyd yn Tavernspite, y naill yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg eu cyfrwng. Ymroddodd yn llwyr i fywyd y gymuned ac yn 1961 cafodd ei ethol fel Cynghorydd Sir ym Mhenfro, gan wasanaethu yr ardal yn ddiwyd. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda phwyslais arbennig ar ofal dros yr Henoed ac hefyd gyda maes Addysg yn y Cyngor Sir. Yn 1963, derbyniodd wahoddiad Eglwys Carmel, Clarbeston Road, i ymestyn ei faes, golygai hyn y byddai’n pregethu deirgwaith y Sul a theithio 60 milltir i’w cyrraedd.

Pan ddaeth bodolaeth Cyngor Sir Benfro i ben wrth ad-drefnu Llywodraeth leol yng Nghymru, cafodd ei berswadio i sefyll ar gyfer Cyngor Sir Dyfed yn 1974. Enillodd ei sedd a ymestynnai o Hen-Dy Gwyn i gyffiniau Hwlffordd, gan gynnwys Arberth a’r pentrefi gwledig o’i amgylch. Roedd ei brif ddiddordeb fel erioed gyda Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg. Gwasanaethodd Cyngor Dyfed drwy eu cynrychioli fel aelod o Gyngor Chwaraeon Cymru ac hefyd fel Llywodraethwr Coleg y Llyfrgellwyr yn Aberystwyth. Trysorodd yr anrhydedd a ddaeth i’w ran pan gafodd ei neilltuo yn Gymrawd Coleg y Llyfrgellwyr yn Aberystwyth. Pan ad-drefnwyd llywodraeth lleol eto yn 1996, 22 mlynedd yn ddiweddarach, penderfynnodd beidio ail-sefyll fel ymgeisydd.

Er i William Harry gael bywyd prysur mewn llywodraeth leol, roedd ei ymroddiad cyntaf i fywyd yr eglwysi a chydnabyddwyd ei gyfraniad pan gafodd ei anrhydeddu fel Llywydd Adran Saesneg Cymanfa Bedyddwyr Penfro. Yn ystod y cyfnod hwn bu ei briod yn gweithio fel ysgrifenyddes mewn Ysgol Uwchradd leol. Yn fuan ar ôl ei hymddeoliad hithau, cafodd anhwylder a bu farw’n sydyn. Bu William a Ruth yn graig o gariad, a’r naill yn gefn cadarn i’r llall. Ar ôl marwolaith Ruth daeth golau newydd i’w fywyd pan ganwyd merch fach Rhian i John a Carwen, hi oedd cannwyll ei lygad am gweddyll ei fywyd.

Dros cyfnod o amser datblygodd cyfaillgarwch agos gyda Hilda Lewis oedd yn wraig weddw; ‘roedd cysylltiad agos cyn hynnu rhwng y ddau deulu oherwydd yr oedd Jason, gŵr cyntaf Hilda, yn enedigol o Borth Towyn. Peth amser ar ôl ail briodi ymddeolodd William Harry o’r weinidogaeth ac aeth ef a Hilda i fyw yn Eglwyswrw a oedd yn gartref hefyd i Mari, merch Hilda. Ymaelododd yn Eglwys Bethabara gan gyfrannu i fwrlwm y fro. Etholwyd ef yn weinidog anrhydeddus i’r eglwys ym Methabara.

Yn 1997 cafodd anhwylder difrifol ac ymdrechodd i frwydo’n ddewr yn erbyn ei afiechyd. Er pob cefnogaeth gan ei deulu, bu’n rhaid iddo dderbyn gofal arbennig yng Nghartref Gofal Cilwendeg, ac yno y bu farw ddiwedd Mehefin 2001.

Ymysg ei ddiddordebau amrywiol, roedd yn hoff o chwaraeon, gan ddilyn hynt a helynt Clwb Rygbi Llanelli sef ‘Y Scarlets’. Bu’n chwarae tipyn ei hun yn ystod ei ieuenctid a mwynhau’r gamp yn fawr. Byddai hefyd yn dilyn criced a paffio, ymysg campau eraill. Ar hyd y blynyddoedd, roedd yn cael cryn hwyl yn yr ardd, a phan gafodd dŷ gwydr, byddai’n ychwanegu at y llysiau roedd yn hen arfer a’u tyfu. Amlach na pheidio byddai yn tyfu llawer mwy nag roedd ei angen, ac yn cael pleser mawr o roi’r llysiau hyn i eraill. Dangosodd cryn fedrusrwydd yn tyfu blodau ac yn arbennig y Ffarwel Haf, (chrysanthemums) a byddai’n cystadlu’n rheolaidd yn y sioeau lleol ac ennill yn aml. Un o’i bleserau oedd sicrhau blodau yn y cysegr pan roedd ganddo flodau yn yr ardd. Roedd gan ei fab John arbenigedd yn trafod gwaith camera, ac yn hwyrddydd ei hanes datblygodd William yr un pleser, gan gael llawer o lwyddiant gyda’i ffotograffiaeth.

Fel pregethwr, credai bod yn rhaid i’r gennad fod yn ddealladwy i’w gynulleidfa a bod y Beibl yn cynnig ffordd o fyw i’r sawl a ddilynai Iesu. Byddai o hyd yn perthnasu’r neges i amgylchiadau ei oes ac i fywyd ei gynulleidfa. Rhan sylfaenol o’i genadwri oedd heddychiaeth yr Efengyl ac roedd yn pwysleisio bod angen i bob cymdogaeth a phob cenedl ymdrechu i gyd-fyw a chydweithio gyda’i gilydd. Un o eiriau mawr William Harry oedd goddefgarwch. Credau’n gryf mewn effaith a grym gweddi, ‘roedd yn aml dyfynnu’r frawddeg yma gan y bardd Alfred Tennyson ‘More things are wrought by prayer than this world dreams of.’

Cefnder iddo oedd y Parchg Gwyn Rogers ac yntau a wnaeth grynhoi hanes William Harry drwy ddweud – “roedd dwy wedd i weinidogaeth y Parchg William Harry, y naill drwy ofal bugeiliol yr eglwys a’r llall drwy gynnig gweithredu’n uniongyrchol yn y byd seciwlar”. Bu fyw ei argyhoeddiadau Cristnogol yng nghoridorau grym ac fe’i parchwyd yn fawr gan ei gyd gynghorwyr yn y Cynghorau hynny”.

Cyfrannwyr: John Harry a Denzil John