Un o gymeriadau lliwgar a llawen y weinidogaeth oedd Edward Morgan Thomas, er iddo gael ei adnabod fel E.M. gan y mwyafrif a’i hadnabu. Roedd yn un o bump a bu farw ei dad pan roedd E.M. yn blentyn bach. Magwyd ef yn eglwys Nasareth, Blaenllechau o dan weinidogaeth y Parchg T.E.Thomas, a chafodd ei fedyddio yn 1928. Am ddeng mlynedd wedi gadael yr ysgol bu’n gweithio fel glöwr. Cafodd gyfle i fynd i Tŷ Ilston Abertawe yn 1936, cyn symud i Goleg Bangor yn 1937 er mwyn derbyn hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth.
Ordeiniwyd ef ym Methania Resolfen ym Mehefin 1940 ond ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach derbyniodd wahoddiad i fod yn weinidog yn Salem, Llangenech. Mwynhaodd ddegawd hapus yno gan aeddfedu fel pregethwr a dangos doniau fel cyfathrebwr medrus gyda’r ifanc. Ffarweliodd gyda’r fro ym mis Mawrth 1952, ar ôl derbyn galwad i Donyfelin Caerffili. Bu’n weinidog poblogaidd yn y dref honno am dros ddeunaw mlynedd, gan ychwanegu cyfrifoldeb dros eglwysi eraill yng Nghwrdd Chwarter Caerdydd, sef Eglwys Bedyddwyr Llysfaen, ac Eglwys Bedyddwyr Penuel, Pentyrch. Ym mis Mai, 1970, derbyniodd alwad eglwysi Bedyddwyr De Penfro yn Camrose, Sutton a Roch. Aeth o brysurdeb tref Caerffili ‘lawr i’r wlad’ chwedl yntau, gan feddwl y byddai’n lled ymddeol mewn ardal hyfryd a hardd, ond buan y penderfynnodd ddychwelyd i Forgannwg a derbyn cyfrifoldeb gofalu am eglwys Bethel Glynnedd, a mwynhau cwmniaeth nifer o bobl ifanc yno. Gwelent hwythau E.M. fel ffigwr tadol, a bu ei ddylanwad arnynt yn sylweddol. Bu un symudiad arall yn ei hanes, sef symud i ardal enedigol ei briod Elizabeth (Bet) yn Wrecsam. Arferai egluro fod Bet wedi ei ddilyn bobman, a’i fod am iddi hi ddewis ardal y gwir ymddeoliad. Roedd eu merch Gwawrddydd yn byw yn y gogledd, ac roedd hynny yn gymhelliad da iddo yntau hefyd fyw yn ardal Wrecsam. Bu’n gyfaill parod i eglwysi yn y gogledd-ddwyrain a derbyniodd cynulleidfa Penybryn, Wrecsam, weinidogaeth hyfryd ganddo yn ystod ei gyfnod yno. Cynhaliwyd angladd E.M. yn amlosgfa Wrecsam o dan arweiniad y Parchg Dyfan Thomas ym mis Awst 1987. Arwahan i’w ferch Gwawrddydd, roedd gan E.M. a’i briod fab o’r enw Keri. Bu yntau’n byw mewn sawl man ar draws y byd.
Yn ystod ei gyfnod yng Nghaerffili, roedd wrth ei fodd mewn ardal lled gyfarwydd iddo, gan ei fod yn un o blant ardal lofaol Blaenllechau. Yng Nghaerffili roedd llawer o’r aelodau wedi gweithio yn y pyllau glo cyfagos neu yn y siediau trin cerbydau rheilffyrdd. Roedd nifer o’r aelodau yn athrawon, neu’n gysylltiedig gyda byd addysg. Cyfrannodd yn sylweddol i hyrwyddo addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gludo plant i Ysgol Gymraeg ar fore Sadwrn, a defnyddid festri Tonyfelin i gynnal gweithgareddau’r Urdd. Tra yng Nghaerffili gwasanaethodd am dymor fel Arolygwr Cymanfa Dwyrain Morgannwg, ac roedd yn selog nid yn unig i’r Gymanfa ond hefyd i Gwrdd Dosbarth Caerdydd.
Roedd yn bregethwr hwyliog yn y ddwy iaith, ac roedd wrth ei fodd yn annerch cynulleidfa. Meddai ar ddawn i ddweud stori a chreu sefyllfa ddramatig, ond ni fyddai yn rhoi ei hun yn fwy na sylwedd ei bregeth. Llwyddai yn ddi-feth i gynnal diddordeb y gwrandawr, gan greu argraff arno. Gŵr y cymoedd oedd E.M., ac yn gartrefol mewn sgwrs pen ffordd, gan dynnu coes, a herio’r cwmni i feddwl mewn ffordd wahanol. Cofir amdano ymhob maes y bu’n gwasanaethu fel gŵr ffraeth oedd yn gartrefol gyda phobl o bob cefndir.
Cyfrannwyr:
Denzil Ieuan John Caerffili.
Megan Morgan, Llangenech.