Bonheddwr tawel ei wedd fu Mathias Davies erioed, yn urddasol a chymwynasgar. Ganwyd ef yn Solfach. a magwyd ef fel unig blentyn oherwydd i’w chwaer fach farw yn ifanc iawn. Derbyniodd ei addysg gynnar yn yr ardal honno ac ar ôl gadael yr ysgol, aeth i weithio mewn fferyllfa. Cafodd gyfle i gael addysg bellach mewn ysgol breifat yng Nghastell Newydd Emlyn cyn mynd i goleg yr enwad ym Mangor. Bu dylanwad yr eglwys leol yn drwm arno, a’i weinidog oedd yr enwog y Parchg. Jubilee Young.
Priododd â Cathrine Thomas o Ffynhonnau Gleision ym Moncath, a ganwyd iddynt dau blentyn sef Dafydd a Menna. Gwasanaethodd Dafydd fel heddwas a byw am amser yn Gorseinon, tra bod Menna wedi priodi capten llong o’r enw Ken Yeoman o Gaerdydd a byw cyfnod sylweddol o’u hamser yn Singapore. Athrawes oedd Menna o ran ei hyfforddiant.
Ordeiniwyd Mathias Davies ar 7-8 o Fedi 1926 yn eglwysi y Bedyddwyr yn y Gelli a Horeb, Maencolchog, yn Sir Benfro, gan dreulio gweinidogaeth gyfan o hanner can mlynedd yn y fro honno. Ardal amaethyddol oedd hon ac roedd ffordd hamddenol Mathias yn gydnaws a gofynion yr eglwysi. Meddai ar ffordd annwyl o drin ei braidd, ac roedd ei wên yn dangos pa mor gyfforddus roedd yng nghwmni ei gynulleidfa. Dyn pobl oedd yntau, ac yn gwmnïwr llawen. Hoffai ddarllen a thrafod pynciau’r dydd, ac ymhlith ei gyfeillion agosaf oedd Wilfred Evans a Myrddin Davies. Ymhlith y cyfeillion lleol oedd y Parchedigion Joseff James ym Mhigsa, Llandisilio ac Eglwys Annibynwyr ym Methesda; D. J. Michael, ym Mlaenconin, a R. Parri Roberts, Mynachlogddu. Bu’r pedwar ohonynt yn cydweinidogaethu am flynyddoedd lawer gan ac er mor wahanol oedd y pedwar, roeddent yn cyd-dynnu’n dda.
Tu hwnt i waith y weinidogaeth bu Mathias Davies yn gynghorydd sir am gyfnod sylweddol. Bu’n gadeirydd y cyngor a derbyniodd yr anrhydedd o fod yn henadur yn y sir. Mwynheai wylio ceffylau yn rasio, er na fu’n gosod arian ar y canlyniad chwaith. Ar ddiwedd oes, ac wedi claddu ei briod Catherine ym mynwent Blaenffos yn 1975, derbyniodd ofal mewn cartref yn Llandysul. Daeth ei daith daearol i ben yn Ysbyty Glangwili, yn Nhachwedd 1977, yn 80 mlwydd oed, ond blwyddyn ar ôl ei ymddeoliad, a daearwyd ei weddillion ym medd ei briod ym mynwent Blaenffos.
Cyfrannwr : Denzil Ieuan John