Charles – William John (1895-1986)

Codwyd Willliam John Charles yn un o dri phlentyn John a Catherine Charles   ym mhentref Porthyrhyd, gan fynychu’r ysgol gynradd leol.  Yn bymtheng mlwydd oed gadawodd yr ysgol a chael gwaith yn y lofa leol, sef Pentre Mawr/Capel Ifan, fel llawer o fechgyn ei gyfnod ond buan cafodd awydd i brofi bywyd amgenach. Ychydig fisoedd bu yno a darllenodd am Goleg Marconi yn Chelmsford yn ceisio myfyrwyr i ddysgu sgiliau cyfathrebu di-wifr a meistrolodd grefft anfon a derbyn negeseuon Morse Code.  Ar ôl cymhwyso, cafodd waith gyda’r Llynges Fasnach, a daeth ei sgiliau newydd yn ddefnyddiol yn fuan wrth i Lywodraeth Prydain ymrwymo i’r Rhyfel Byd Cyntaf.  Rhoddodd W.J. gyfweliad radio am ei brofiadau i hen gyfaill o weinidog, sef Carey Garnon, (y cyfweliad olaf cyn damwain erchyll Carey Garnon), a defnyddiodd Gareth, mab ieuengaf W.J. Charles, ddarnau o’r cyfweliad i lunio rhaglen a enwyd yn ‘Atgofion Hen Longwr’ ar Raodio Cymru).

Ni wyddus pryd daeth W.J. yn ymwybodol o’r alwad i’r weinidogaeth, ond erbyn canol dau ddegau yr ugeinfed ganrif, roedd eglwys Bethlehem, Porthyrhyd yn barod i gefnogi ei ddymuniad, ac erbyn 1926, roedd wedi cofrestri i fod yn fyfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor, tra roedd y Prifathro J.T.Evans yn brifathro, ac ymysg ei gyfoedion yno roedd Maelor Jones, Rhydwyn; R.Gwyn Thomas, Porthcawl a’i gyfaill oes, Emlyn Dulais Jones. Bu yna am dair blynedd ac yn 1929, ac yntau yn 34 oed, roedd yn agored i alwad.

Ordeiniwyd W.J. Charles yn 1929 yn eglwys Tabernacl, Cwmrhydyceirw. Ef oedd y pedwerydd gweinidog yn yr eglwys honno, eglwys a sefydlwyd yn 1886. Cynhaliwyd y cyfarfodydd hynny ar Fedi 8/9 1929 yng nghapel y Tabernacl,  a gwasanaethodd yno am bymtheng mlynedd yn uchel ei barch, wedi ennill calon ei gynulleidfa’n llwyr.  Symudodd i gymryd gofal eglwys Bethesda, Ponthenri yn !onawr 1945 ac yno y bu hyd ei ymddeoliad yn 1961.

Yn 1956, priododd W.J. gydag un o aelodau eglwys Bethesda, sef Miss Mary Morris, ac roedd hithau yn hynod weithgar ym mywyd yr eglwys gan ofalu am ei phriod ar hyd y blynyddoedd.  Roedd y gweinidog yn 61 oed bellach, ond yn ddigon ifanc ei wedd a’i weledigaeth. Ganwyd iddynt tri o fechgyn, sef Huw, Elfed a Gareth. Gwasanaethodd Huw fel meddyg teulu yng Nghaerdydd ar hyd ei yrfa, tra bu Elfed yn athro yn Rhydfelen, Pontypridd a Gareth yn un o sylwebyddion blaenaf Adran Chwaraeon y BBC.

Dyn y gymuned oedd W.J. ac wrth ei fodd yng nghwmni pobl.  Gwnai ei hun yn agored i’w cefnogi ym mhob sefyllfa, a pherchid ef gan y gymdogaeth gyfan.  Roedd yn bregethwr cyson a chydwybodol, yn gosod ei bregeth yn ei chyd-destun Beiblaidd ac addasu’r neges ohono wrth gyflwyo’r ffydd Gristnogol.

Roedd Mary yn athrawes wrth ei galwedigaeth ac yn gweithio yn Ysgol Gynradd Llangenech.  Roedd yr ysgol yn awyddus i ganu’r geiriau ‘Let there be peace..’ ond nid oedd cyfieithiad Cymraeg yn bod, a derbyniodd W.J. y dasg o drosi’r geiriau.  (Ceir copi llawn ar ddiwedd yr erthygl hon). Mabwysiadodd yr ysgol y gân fel arwyddgan iddi hi ei hun. Cyfieithodd, neu drosi gweiriau caneuon eraill ac un a ganwyd yn y Cwrdd Adran oedd cyfieithiad ganddo ar alaw ‘Eye level’ a’r geiriau cyntaf oedd  “ Hoff gan bob un ydyw’r hanes am un a aned draw ym Methlem dref”. (Pe byddai eraill yn dod o hyd i gopi ohonynt, gellir eu hychwanegu yma)

Roedd yn fardd gwlad gan lunio penillion ar gyfer dathliad lleol, er nid oes tystiolaeth iddo gyhoeddu ei waith, na chystadlu mewn eisteddfodau.  Mantra bwysig iddo oedd bwyta’n iach, a byddai’r hyn a ddewisai fel bwyd a diod yn gorfod bod yn iachus.  Tristwch ei hanes oedd ei fod wedi cael strôc greulon ddiwedd y 70au a’r meddyg yn rhybuddio’r teulu na fyddai yn medru codi o’i wely.  Gyda dyfalbarhad nodweddiadol ohono gorfododd ei hun i symud cymalau cyn bod y corff yn ail-ddeffro gan lwyddo i gyrraedd y capel ac eistedd yn y sedd fawr.  Cymaint oedd dalifyndrwydd ac phenderfyniad cadarnhaol y dyn.

Roedd wrth ei fodd yn mynd lawr gyda’r teulu i lan y môr yn y Mwmbles, a hynny pan nad oedd ganddynt gar.  Byddai hefyd yn mwynhau mynd â’r bechgyn i wylio tim Morgannwg yn chwarae criced ar Sain Helen. Cawsai flas ar ddatblygu ei feistrolaeth ar bynciau academaidd yr ysgolion, a sonia’r meibion i’w tad fod yn ddigon hyddysg mewn sawl maes er mwyn cefnogi eu gwaith ysgol.    Mentorodd eraill yn y weinidogaeth gan gynnwys y Parchg Neville James, a ddaeth yn olynydd iddo am gyfnod.

Mewn ysgrif goffa iddo yn Seren Cymru Hydref 1986 dywedodd y Parchg Tom Morgan –

“Cyfrifai hi’n fraint i gael gwybod am ras Duw yn Iesu Grist a gwnaeth yr hyn a allodd i fod yn weinyddwr y gwirionedd hwnnw ‘Roedd yn rhy ddiymhongar i gydnabod fod ganddo ddoniau gwerth sôn amdanynt, ond gwŷr y rhai a’u hadnabu fod ganddo ddoniau arbennig ac fe’i gwelsom yn stiward da arnynt.  Gwelwyd hynny yn ei waith fel pregethwr a bugail, yn ei osgo fel pentrefwr a chymydog, yn ei ofal dros y claf a’r hen, ac yn natur ei fywyd drwyddo draw, ei haelfrydigrwydd, ei hiwmor iach, ei gwmni cynnes a’i ofal a’i dynerwch ar yr aelwyd”.

Dioddefodd W.J., lawer o afiechyd ond brwydrodd yn wrol ar hyd y daith.  Bu farw W.J., yn Hydref 1986 ac arweiniwyd y gwasanaeth angladd yn y tŷ ac yn amlogfa Treforus, gyda nifer o’i gyfeillion yn cymryd rhan.

Gwasanaethodd Mary, ei weddw, yr eglwys ym Methesda fel diacones ar hyd y blynyddoedd  a bu ei chyfraniad i’r ardal gyfan yn un loyw iawn.  Bu hithau farw yn 2015. Diolch am ddau a glodforodd Duw ac a garodd pobl y fro.

Addasiad W.J. Charles o ‘Let there be peace’.

O boed i heulwen hedd
Ddwyn hafddydd ar ddynolryw,
 chreu ar newydd wedd
Y ddaear gan gariad Duw.
Yn frodyr i’n gilydd
Fo’n creodd ar ei lun,
I fyw mewn hedd a llawenydd,
Ar lwybrau’r drefn gun.

Pe cawn y ddaear gron,
A golyd bydoedd fry,
Ei hedd o dan fy mron,
Fydd drysor mil gwell i mi.
Daw hedd a gwynfyd, o fyw fy mywyd,
I’r Gŵr fu ar y Groes,
Doed inni’r dedwydd ddydd
Yn rhydd o bob chwerw loes.

Cyfrannwr:

Denzil John   –  gyda chefnogaeth y teulu.