Bowen – Handel (1929 – 2011)

handel bowenGanwyd Handel Bowen yn Felinfoel yn 1929 y trydydd o bedwar o blant Idwal a Gwendoline Bowen.  Ar nol cyfnod yn yr ysgol gymradd leol, ac yna ei addysg uwchradd yn Ysgol Sirol y Bechgyn, Llanelli, derbyniwyd ef fel prentis yn gwneud patrymau yn Ffowndri Glanmor ac arhosodd yno am rai blynyddoedd.

Codwyd Handel Bowen i’r weinidogaeth yn Eglwys Adulam Felinfoel  yng nghyfnod Parchg John Glyndwr Davies, lle roedd ynatu a’i briod Joan yn weithgar ymysg pobl ifanc y eglwys.  Roedd y ddau o anian genhadol, ac aeth Joan i dderbyn hyfforddiant nyrsio a Handel i Goleg y Bedyddwyr ym Mangor.  Cafodd ei ordeinio i’w faes cyntaf ym Methel, Treffynnon, yn 1953, gan gynnwys yr eglwys honno ynghyd â’r eglwys Fedyddiedig yn Ffynnon Groyw, Berea Maesglas ac Eglwys y Milwr yn Sir Fflint. Priodwyd ef â Joan ymhen ychydig fisoedd yn Chwefror 1954, a threuliodd y ddau, dair blynedd diwyd a dedwydd yno.

Daeth cyfle iddo ddychwelyd i’r de, pan wahoddodd eglwys Salem Ferndale ef i fod yn olynydd i’r Parchg John Williams.  Dyma oedd cychwyn y berthynas glos a fu rhwng ardal eang a’r  gweinidog ifanc ac egniol, a ymestynnodd dros hanner can mlynedd.   Ymhen amser ychwanegwyd Horeb Tylerstown, at ei ofalaeth, ac yn diweddarach daeth cynulleidfa Salem, Porth, o dan ei weinidogaeth.  Mewn gwirionedd roedd Handel ar gael i bawb, ac wrth i weinidogion eraill adael Cwm Rhodda, bu yntau yn fwy nag Ysgrifennydd Cwrdd Adran y Rhondda, roedd yn esgob anghydffurfiaeth ledled y ddau gwm. Bu’n ffyddlon i Gymanfa Bedyddiedig Dwyrain Morgannwg ar hyd y daith, ac fe gofiwn amdano fel cwmniwr rhadlon, a’i chwerthyniad iach yn arwydd o’r dirieidi a’i nodweddai.  Gwasanaethodd gyda didwylledd fel caplan Ysbytai Rhondda Ganol am gyfnod hir. Bu’n llywydd i’r Gymanfa ac yn gyfaill da i bob gweinidog. Ym mhob dim cymrodd ei waith fel pregethwr o ddifrif, gan ddatblygu ffordd naturiol o rannu ei neges, a dwyn gwirionedd yr efengyl mewn modd  berthnasol i fywydau pobl.  Roedd ganddo ddiddordeb byw yng anghennion ei gymuned a chydwydod effro i dlodi ar draws y byd. Bu’n drefnydd Cymorth Cristnogol yn y Rhondda ar hyd y cyfnod. Darllenai yn helaeth, a hynny o bob genre llenyddol, yn y  Gymraeg a’r Saesneg. Roedd yn denor peraidd a gai bleser anghyffredin yn gwrando ar gerddoriaeth glasurol.

Roedd Handel Bowen yn feddyliwr praff, ac yn broffwyd i’w oes, yn fonheddwr wrth reddf, ac yn frawd wrth natur. Dioddefodd gystudd rhyfedd dros ugain mlynedd olaf ei oes, ac roedd yn ddiolchgar am bob gwasanaeth meddygol a gafodd.   Gwerthfawrogai gefnogaeth pawb ac yn arbennig y gofal a gafodd gan Joan, ei gymar oes, ar hyd y daith. Bu farw Rhagfyr 30, 2010, a chynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Glyntaf, Pontypridd, yn Ionawr 2011. Cyfoethogodd Handel Bowen fywydau cenedlaethau o drigolion y Rhondda, a gellir dweud yn hyderus amdano mai ei bregeth fwyaf oedd ei fywyd.   Coffa da am Gymro brwdfrydig, cyfaill ffyddlon a Christion gloyw.

Cyfrannwrf : Denzil Ieuan John