Bevan – D Haydn (1901-1973)

Un o blant Carmel Pontlliw oedd Haydn Bevan ac yn unig fab Dafydd ac Elizabeth Bevan.  Ganwyd ef yn 1901, ac roedd ganddo dair chwaer.  Ar ôl cyfnod yn yr ysgol leol, aeth i weithio am ddeng mlynedd gyda’i dad yng nglofa Cory, Pontlliw yn 13 oed. Hannai Elisabeth o bentref Felindre, ac fel ei brawd John James, roeddent yn drwm o dan ddylanwad y Mudiad Efengylaidd ac yn ddilynwyr brwd i’r Parchg Evan Roberts yn ystod cyfnod diwygiad 1904-5. Roedd Dafydd Bevan yn ddiacon yng Ngharmel, pan roedd Parchg D. H. Davies  yn weinidog yno, a bu dylanwad y gweinidog ar Haydn Bevan yn sylweddol. Olynydd y Parchg D.H.Davies oedd y Parchg  Emlyn Caradog Roberts ac ef a arweiniodd Haydn i ymgysegru ei hun i’r weinidogaeth a cheisio arweiniad  yn Ysgol Baratol Rhydaman. 

Derbyniwyd Haydn Bevan i Goleg y Presbyteriaid yng Nghaerfyrddin, yn 1927, ac ymhen tair blynedd, cymeradwywyd ef gan yr Athro Oliver Stephens i gynulleidfa Eglwys Penparc, Cafodd ei ordeinio a’i sefydlu i ofalaeth Pen- y- parc, ger Aberteifi ym mis Awst 1930.  Hon fu ei unig ofalaeth a gwasanaethodd yr ardal yn gwbl ymroddedig am 38 o flynyddoedd.  Symudodd un o’i chwiorydd ato i’w gynorthwyo i gadw tŷ ac arhosodd y trefniant felly am bedair blynedd nes yn 1934, i Haydn briodi Gwenfron Davies, nith y Parchg a Mrs John Price, gweinidog dwy eglwys Fedyddiedig gyfagos, sef Siloam, Y Ferwig ac Eglwys Blaenwenen.  Ganwyd iddynt fab, John, un a roddodd gyfrif da ohono’i hun yn ei yrfa ar y cyfryngau.  

Pan gyrhaeddodd Haydn Bevan, Penparc, roedd yr eglwys yn gaeth gymunol, a llwyddodd yntau i arwain y gynulleidfa i fod yn eglwys rydd gymunol.  Roedd nifer o deuluoedd yr eglwys gydag un cymar o dras Bedyddiedig ac i’r cymar arall berthyn i enwad arall.  Roedd yr eglwyddor hon yn sylfaenol iddo ar hyd ei weinidogaeth, a bu’n fugail gofalus o’r ardal gyfan, heb or-feddwl am ymlyniad enwadol unrhyw deulu.  Dyma oedd ei gryfder amlwg, ac roedd hyn yn gynnar ym momentwn eciwmenaidd Cymru.  Roedd yn fugail effeithiol, blaengar ac eang ei weledigaeth gymunedol a chyd-enwadol. 

Elfen bwysig arall yn ei fywyd oedd y Cwrdd Gweddi  a gynhelid bob nos Fawrth.  Roedd defosiwn yn bwysig iddo a hyfforddodd sawl cenhedlaeth i  gyfrannu yn yr oedfa weddi.  Gwedd arall ar ei weinidogaeth oedd darparu ar gyfer y bobl ifanc.  Cynhelid y gweithgareddau hyn yn llofft y stabl, ac yn yr ystafell anghyfforddus hon y bu addysgu a datblygu doniau’r ifanc.  Cafwyd cyfarfodydd diwylliannol gyda cherdd a drama yn amlwg yn eu rhaglen waith.  Arferid cynnal cyfarfod ‘Urdd y Seren Fore’ yn yr eglwys, ac fel yng nghyfarfod yr ifanc, byddai plant a phobl ifanc y fro yn ymgasglu a mwynhau’r feithrinfa o dan arweiniad Haydn Bevan.  Cynhaliai gyfarfod Gobeithlu (Band of Hope) ac eto, roedd plant y fro gyfan yn mynychu.  Gwelai Haydn hyn fel rhan sylfaenol o genhadaeth yr eglwys. 

Cytunwyd yn ystod y 30au bod angen dymchwel yr adeilad ac ail-godi festri fodern yn ei le.  Oherwydd yr Ail Ryfel Byd, gohiriwyd y prosiect hwn tan ar ôl y rhyfel.  Yn ystod y rhyfel gwasanaethodd Haydn Bevan fel caplan yng Ngwersyll Milwrol Aberporth. Cynhaliai oedfa am 8.00am ar y Sul, ac yna arwain Seiat Drafod am 8.00pm.  Roedd hyn yn ychwanegol at Oedfa Foreol am 10.30am, Ysgol Sul am 2.00pm ac Oedfa Hwyrol am 6.00pm yn y capel.  Cyfrannai i gyfarfod ar brynhawn Iau i drafod problemau personol y milwyr gyda chaplaniaid eraill a phennaeth y gwersyll ac ymwelai hefyd â ysbyty’r gwersyll fel bo angen.      

Elwodd y Cwrdd Dosbarth ar ei wasanaeth a bu’n ysgrifennydd am 23 mlynedd (1947-1970). Bu’n llywydd iddi yn ystod 1973/4. Eisteddodd  ar nifer o bwyllgorau Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion ac yn 1959 cafodd y fraint o fod yn llywydd gan anerch ar y testun ‘Y Weinidogaeth Feunyddiol’. Ymddeolodd o’r ofalaeth yn 1968 a symud ei aelodaeth i Fethania, Aberteifi. Yno, roedd yn ddiacon anrhydeddus.  Bu farw Haydn Bevan yn Ysbyty Caerfyrddin ym mis Ebrill 1973 yn uchel ei barch led-led y fro a’r Gymanfa.  Roedd yn fonheddwr tawel a gwylaidd, – yn un a roddodd o orau ei allu i wasanaethu ei Arglwydd a phobl ei fyd.

Ysgrifennodd Mr Islwyn (Gus) Jones englyn i’w gofio

Bugail a di-drist Gristion – i’w geidwad

      fe fu’n gadarn ffyddlon,

A’i oes yn gyfan gyson

Ef a’i roes  i’r henfro hon.

Cyfrannwr:

Milton G. Jenkins. 

John Bevan.  (mab)

Denzil John.