Hanes y Parchedig Thomas Bassett (1872 – 1943)
Ganed Thomas Bassett yng Nglan-yr-afon, Llangennech yn fab i Ruth (1849-1896) a David Bassett (1846-1925). Ef oedd yr hynaf o chwech o blant: David John (1874 – 1925), Morgan ( 1879 – 1959), Rachel Ann (1882- 1947), Mary Esther (1886 – 1964) ac Elizabeth Jane (1890 – ? ). Symudodd y teulu i fyw i Lwynhendy a mynychai’r teulu Eglwys y Tabernacl yn y pentref hwnnw.
Cafodd ei fedyddio gan y Parchg J.Young Jones a oedd yn weinidog yr adeg honno yn y Tabernacl, Pontarddulais. Yn y Tabernacl, Llwynhendy, y cafodd ei drwytho yn hanes ac egwyddorion y Bedyddwyr, a datblygodd i fod yn hanesydd wrth reddf. Pa ryfedd i’w fab, ymhen y rhawg, ddangos yr un diddordeb yn hanes yr enwad.
Ar ôl derbyn ei addysg gynnar yn yr ysgol leol, prentisiwyd ef yn saer coed a bu’n ymarfer ei grefft yn Llwynhendy, Pontycymer a Maesteg. Yn ôl y Parchg J.M.Lewis, Treorci, yn ei angladd, ‘Edmygid ef fel saer celfydd ac fel Cristion gloyw’. Roedd wedi ymuno â changen Penybont-ar-Ogwr o’r ‘Amalgamated Society of Carpenters and Joiners’. Ym Maesteg, ar lannau yr afon Llyfni, bu’n gweithio ar adeiladu dau gapel yn eu tro, a mynychai Eglwys y Tabernacl, Maesteg, tra’n byw yno. Bu o dan weinidogaeth y Parchg J.W. Williams, ac yr oedd wedi ei neilltuo i fod yn bregethwr cynorthwyol pan ddaeth y Parchg W.R.Watkin, M.A. yno yn ddiweddarach. Gwelodd ei weinidog newydd ddefnydd gweinidog yn Thomas Bassett, ond nid oedd y saer ifanc yn gwbl hyderus i ddilyn arweiniad Mr.Watkin.
Ar ei ffordd i’w waith yn y Caerau un bore Llun tystiodd Mr. Bassett iddo gael profiad ysbrydol rhyfeddol, a daeth i benderfyniad sydyn a phendant ei fod am gynnig ei hun i’r weinidogaeth. Trefnwyd iddo dderbyn addysg yn Ysgol Howat (neu’r ‘Collegiate) ym Mhontypridd, ac ar ôl blwyddyn yno derbyniwyd ef i Goleg y Bedyddwyr ym Mangor gan ddechrau ar ei hyfforddiant o dair blynedd ym 1903. Mae sôn amdano yn cynorthwyo Evan Roberts, Y Diwygiwr, ar Ynys Môn yn ystod ei gyfnod yn y coleg.
Ar ddiwedd ei hyfforddiant derbyniodd wahoddiad i weinidogaethu yn Seion, Ynys Galch, Eglwys y Bedyddwyr ym Mhorthmadog. Cafodd ei ordeinio yno ym Mehefin 1906 a bu yno am chwe blynedd. Yn ei lyfr, ‘Hanes Porthmadog, Ei Chrefydd a’i Henwogion’ gan Edward Davies, Penmorfa, dywed yr awdur, ‘Ni bu ar Seion weinidog ffyddlonach a mwy ymroddedig na Mr. Bassett. Pan ymgymerodd efe â’r eglwys yr oedd y ddyled yn £272.10, ond ar 26ain o Ragfyr, 1911, gwelodd yr eglwys dalu’r ugain punt diweddaf ohoni, yn bennaf drwy lafur di-ildio ei gweinidog’. Ysgrifennodd y Parchedig Thomas Bassett hanes Eglwys Seion ac fe’i cyhoeddwyd ar achlysur dathlu canmlwyddiant y capel ym 1938. Cafwyd crynodeb o’r hanes o’r dechrau hyd 1912 ganddo yng nghyfarfodydd dathlu’r canmlwyddiant ym Mhorthmadog ar Awst 26, 27 a 28 ym 1938.
Ym 1908 priododd Jane Williams, merch Mr. a Mrs. William Williams o Neuadd Newydd, Caellwyngrudd, ger Bethesda. Roedd y teulu yn adnabyddus yn yr ardal ac wedi cyfrannu llawer at fywyd a ffyniant y gymdogaeth. Roeddynt hefyd yn weithgar ym mywyd Eglwys Bethel, Caellwyngrudd. Ar ddiwedd y gwasanaeth priodas ym Methel cyflwynwyd set o lestri te a hambwrdd i Jane fel gwerthfawrogiad o’i gwaith arbennig i’r Ysgol Sul. Disgrifiwyd Mrs. Bassett fel ‘un o’r chwiorydd mwyaf boneddigaidd a charedig a welir byth’.
Ym 1909 ganwyd iddynt eu plentyn cyntaf yn Nhŷ Capel Seion, Porthmadog, sef Thomas Myrfyn Bassett. Ym 1912 symudodd y Parchedig Thomas Bassett i ddod yn weinidog ar Eglwys Calfaria, Blaenrhondda, a phregethodd ei bregeth gyntaf yno ar Ddydd Sul, 1af o Fawrth, 1912. Dangosodd yr un mesur o arddeliad yn y Rhondda ac a welwyd ym Mhorthmadog. Cymerodd ddiddordeb mawr yn ieuenctid y capel ac yn yr Ysgol Sul. Cynhaliai Ddosbarthiadau Beiblaidd ac yr oedd ei ddisgyblion yn sefyll arholiadau Undeb Bedyddwyr Cymru gyda chanlyniadau canmoladwy. Yn ogystal fe drefnai ddosbarthiadau diwylliannol i fechgyn a merched ifanc y capel yn wythnosol yn ystod misoedd y gaeaf.
Yr oedd Thomas Bassett yn llenor cydnabyddedig, ac ymddangosodd ysgrifau ganddo o bryd i’w gilydd yn y ‘Cymru’ a chylchgronau’r enwad. Un o’i ddiddordebau oedd casglu hen lyfrau, ac yn ôl ‘Yr Heuwr’, cyhoeddiad misol Undeb Ysgolion Sul Bedyddwyr Cymru, roedd ganddo ‘bob Holwyddoreg a gyhoeddwyd yn y Gymraeg’. Ychwanegodd cyfranwr arall ‘y dylai ddarlithio ar ‘Neges y Bedyddwyr I’r Byd’ drwy Gymru benbaladr.’ Diddordeb arall oedd cerdded mynyddoedd y Rhondda, ac yr oedd yn gwybod am bob llwybr ac adfail oedd yn britho’r mynydd-dir.
Yn amlwg roedd ganddo ddiddordeb mewn hanes, a bu’n cofnodi hanes cynnar Cwm Rhondda ac yn darlithio yn y mwyafrif o’r capeli lleol a’r ysgolion uwchradd ar hanes y cwm. Roedd yna alw amdano gan Gymdeithas y Cymrodorion fel darlithydd. Cafodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanelli ym 1930 am draethawd ar ‘Hanes Llwynhendy a’r Cylch yn Haniaethol, Gweithfaol, Cymdeithasol a Chrefyddol’. Ef ddechreuodd Eisteddfod y Plant a gynhaliwyd yn flynyddol yn y capel ar y Llun cyntaf ym mis Mawrth. Bu’n llywyddu’r achlysur bob blwyddyn am 28 o flynyddoedd. Yn ôl y Cynghorydd William Llewelyn a siaradai yn ei angladd, ‘Yr oedd Eisteddfod y Plant pob Gŵyl Ddewi yn dystiolaeth i’w gariad ef at blant, ac at Gymru ac yn bennaf at Grist’. Disgrifir ef fel dyn cymuned ac yn meddu ar ddiddordeb naturiol mewn pobl ac yn troi at ei grefft fel saer i drwsio nodweddion yn y capel pan fyddai galw,ac yn gofyn i’w griw o fechgyn ifanc i’w gynorthwyo.
Bu Thomas Bassett yn weithgar iawn yng Nghymanfa Bedyddwyr Dwyrain Morgannwg ac yr oedd yn bwyllgorwr ymarferol. Bu’n is- ysgrifennydd y Gymanfa , yn Ysgrifennydd Cwrdd Dosbarth Cwm Rhondda am ddeuddeng mlynedd, ac yn ysgrifennydd Pwyllgor Ysgolion Sul y Gymanfa. Yn y man cafodd yr anrhydedd o fod yn Llywydd y Gymanfa, a dyma ddywedodd y Parchedig D. Pryce Williams amdano yn ‘Llawlyfr Cymanfa Dwyrain Morgannwg’ ym 1941 pan ddaeth i’r llywyddiaeth: ‘Mae Mr.Bassett yn un o’r pregethwyr gorau. Medd ar feddwl craff a chyflym. Ni aeth erioed i’r pulpud heb neges ac fe’i dywed gyda gwres ac argyhoeddiad. Y mae’n bregethwr sylweddol ac yn un diddorol i’w wrando. Byrlyma o hiwmor – adeiladydd yw o hyd. Cred mewn addysgu ac egwyddori, ac nid yw yn disgwyl llwyddiant heb weithio. Gŵyr fod adeiladu eglwys yn fwy o dasg nac adeiladu capel; ac y cymer lawer iawn fwy o amser. Rhydd sylw mawr i’r plant, a chred yn angerddol yn yr Ysgol Sul. Hefyd, cynhalia Eisteddfod Blant bob Gŵyl Ddewi ers blynyddoedd a deil ei phoblogrwydd o hyd. Saif yn gadarn dros y Gymraeg, ac mae ei ddylanwad yn gryf ar ieuenctid Blaenrhondda. Y maent yn Gymry pybyr, crefyddol eu hysbryd ac o chwaeth lenyddol.’ Yn ei angladd, dywedodd Mr. William John, A.S. y gellid dynodi bywyd Thomas Bassett mewn gair, sef ‘ gwasanaeth’. ‘Gwasanaethodd ei eglwys â thrylwyredd mawr iawn; gwasanaethodd ei ardal, ac roedd ei gyfraniad i waith yr enwad yn un tra helaeth. Yr oedd nid yn unig yn Gristion capel ond yr oedd yn ddinesydd cyflawn’.
Bu Thomas Bassett yn weinidog yng Nghalfaria am 31 o flynyddoedd a phedwar mis. Bedyddiodd 150 yn ystod y cyfnod hwn. Bu farw ar 18 Awst, 1943, rhyw bythefnos cyn yr oedd yn bwriadu ymddeol. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yng Nghalfaria, Blaenrhondda un pnawn Sul ac fe’i claddwyd ym Mynwent Coetmor, Bethesda. ‘Dywedwyd amdano fod ei ofal o Galfaria yn ofal tad dros ei deulu, ac yr oedd ei ddidwylledd yn amlwg ym mhopeth a ddywedai ac a wnâi’. Yn ôl tystiolaeth ei fab, roedd ei dad ‘ yn credu ac yn byw ei grefydd’.
Yn ysgol y pentref ym Mlaenrhondda y cafodd y mab, Thomas Myrfyn Bassett, ei addysg gynnar cyn mynychu Ysgol Sir y Porth. Aeth ymlaen i Goleg Prifysgol Cymru, Caerdydd lle graddiodd ag anrhydedd mewn Cymraeg a Hanes. Wedyn aeth i wneud gwaith ymchwil ar gyfer gradd M.A. ac enillodd wobr a thlws Llywelyn ap Gruffydd gan Brifysgol Cymru am ei waith aruchel yn y maes hwn.Gadawodd y coleg ym 1932 ac aeth i ddysgu Cymraeg a Hanes yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Caerffili. Ar ôl cyfnod gyda’r lluoedd arfog o 1941 hyd 1946 yng Ngogledd Affrica a’r Eidal fe’i penodwyd yn athro Hanes yn Ysgol Sir Pwllheli. Yn 1955 dilynodd Ambrose Bebb fel pennaeth yr Adran Hanes yn y Coleg Normal ym Mangor, a threuliodd un flwyddyn ar bymtheg yn y swydd honno cyn ymddeol ym 1972. Yn dilyn ei ymddeoliad, bu’n brysur yn ysgrifennu dwy gyfrol, y naill yn y Gymraeg a’r llall yn Saesneg, yn cyflwyno ‘Hanes Bedyddwyr Cymru’ ac fe’u cyhoeddwyd gan Wasg Tŷ lston ym 1977. Bu T.M. Bassett yn ddiacon ym Mhenuel, Bangor ac yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru ym 1979 -80.
Rhan arall o’i waith ar l ymddeol oedd ‘Atlas Sir Gaernarfon’ a gyhoeddodd mewn cydweithrediad â’r Dr.B.L.Davies. Yn gynharach cyfieithodd ac addasodd T.M.Bassett i’r Gymraeg lyfr Yr Athro Glanmor Williams ar ‘Yr Eglwys yng Nghymru’. Cyfrannodd nifer o erthyglau ac ysgrifau safonol i wahanol gylchgronnau gan gynnwys ‘Trafodion Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr’, ‘Seren Gomer’ a ‘Thrafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.’
Ganed ail blentyn i Thomas a Jane Bassett, sef Gaynor ym 1915 ym Mlaenrhondda. Cafodd hi ei haddysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg y Merched, Porth, ac yna graddiodd mewn gwyddoniaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl cyfnod yn dysgu yn Llundain a chyfnod byr yn Nyfnaint yn ystod yr Ail Ryfel Byd, aeth yn athrawes Bywydeg i Ysgol Ramadeg Dyffryn Ogwen, Bethesda. Yn y man, daeth yn uwch-athrawes yn yr ysgol. Roedd yn mwynhau dysgu ei phwnc, ond ar yr un pryd dangosai gonsyrn byw am lês ei disgyblion. Roedd yn aelod gweithgar ac yn ddiacon ym Methel, Caellwyngrudd, a chafodd gyfrifoldeb am faterion ariannol y capel. Yn ôl ei gweinidog, y Parchedig Olaf Davies, ‘Ni fyddai cystal trefn ar wedd ariannol yr eglwys hon oni bai am y blynyddoedd o lafur cariad a gyfrannodd. Nid gwneud er mwyn cael ei chanmol oedd ei hanes ond canlyniad ei sêl a’i chariad at ei Gwaredwr’. Bu’n gysylltiedig â nifer o fudiadau a chymdeithasau dyngarol dros y blynyddoedd yn ei hardal. Roedd yn gymwynaswraig a wnaeth gyfraniad helaeth i’r gymdeithas yn Nyffryn Ogwen, a thystia llawer i’w charedigrwydd a’i haelioni i aelwydydd lle roedd angen.
Cyfrannodd Thomas Bassett yn ei berson, ei weinidogaeth a’i deulu yn sylweddol mewn sawl modd, a byddai’n falch o gyfraniad ei blant a’i wyresau ar daith bywyd. Bu’n gofnodydd hanes eglwysi ac yn gymwynaswr broÿdd ei weinidogaethau. Pregethodd Efengyl ei Waredwr a bugeiliodd saint yr eglwysi dan ei ofal gyda graslonrwydd a chariad. Bu byw yr Efengyl a goleddai ac a gyhoeddodd, a diolchwn am harddwch ei fyw a haelioni ei wasanaeth.
Cyfrannwyr:-
Ann Roberts, Ruth Davies, Enid Young, (wyresau)
Denzil John