Cawn glywed wrth yr Athro Iwan Davies, Cyfreithiwr Mygedol UBC, am gynlluniau cyffrous sy’ ar y gweill i sefydlu CIOs (sef Sefydliad Corfforedig Elusennol neu ‘Charitable Incorporated Organisation’) rhanbarthol newydd i ganolbwyntio ar genhadaeth…
Mae Undeb Bedyddwyr Cymru wrthi’n gweithio i greu Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIOs) rhanbarthol newydd ledled Cymru. Bydd y pedwar neu bum CIO hyn yn darparu fframwaith cyfreithiol cadarn i fynd i’r afael â’r heriau a amlygwyd yn Adroddiad 2041, yn enwedig o ran cyflogaeth, cyllid ac eiddo ar lefel Cymanfa. Nod y fenter hon yw ein harfogi’n well fel Bedyddwyr yng Nghymru ar gyfer cenhadaeth Gristnogol gyfoes. Wrth wneud hynny cawn ein calonogi gan eiriau Paul yn ei lythyr at yr Effesiaid 4:12, “Gwnaeth hyn i baratoi ei bobl ar gyfer gweithredoedd da, fel y gellir adeiladu corff Crist.”
Bydd cyfansoddiad pob CIO yn adlewyrchu hunaniaeth ac argyhoeddiadau teulu’r Bedyddwyr Cymreig, wedi’i hadeiladu ar y ffydd Gristnogol fel y’i mynegir yn egwyddorion hanesyddol y Bedyddwyr. Bydd y cyfansoddiadau hyn yn cynnwys cynlluniau ar gyfer gweinidogaeth a chenhadaeth, gan annog eglwysi i gydweithio, cefnogi gweithgareddau eglwysig lleol, trefnu addoliad, darparu addysg grefyddol a gofal bugeiliol, estyn allan, gwasanaethu’n gymunedol, ac ymroi i ymdrechion elusennol eraill sy’n adlewyrchu cenhadaeth yn ein cyd-destun cyfoes.
Bydd cynllun cenhadol yn elfen hanfodol yng ngwaith y CIOs newydd, rhanbarthol hyn. Byddant yn fodd i hwyluso cydweithio rhwng Cymanfaoedd, eglwysi a chymuned ehangach y Bedyddwyr ac i feithrin twf ac undod yng ngwaith yr Efengyl. Bydd angen i ni ffurfio timau, gosod amcanion a gweithio gyda’n gilydd ar gyfer “budd clir” sef yn hanesyddol yr egwyddor a fabwysiadwyd gan Gymanfaoedd Bedyddwyr Cymru ym mhob menter newydd.
Dros y misoedd nesaf, o dan arweiniad yr Ysbryd Glân, bydd CIOs rhanbarthol yn cychwyn ar broses eang o gynllunio cenhadol. Bydd hyn yn cynnwys gwaith bwriadol ar lefel ranbarthol i nodi’r hyn yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd; ein cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd nesaf; yr adnoddau sydd eu hangen i’n helpu a’r math o ffrwyth rydym yn gweithio tuag ato. Yn ystod y broses gynllunio hon gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd a rhannu syniadau ar gyfer ein cynlluniau cenhadol. Wrth i ni ddatblygu hyn ar lefel ranbarthol, byddwn yn edrych i:
· Ymgynnull timau o unigolion ymroddedig ac amrywiol a all ddod â safbwyntiau amrywiol i’r fei.
· Adnabod cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau ar lefel rhanbarthol
· Wneud gwaith uniongyrchol i gefnogi’r CIO a gweithredu strategaeth genhadol sy’n canolbwyntio ar y rhanbarth.
Wrth ymroi i’r gwaith hwn rydym yn edrych mewn ffydd y tu hwnt i’r rhagamcanion data sydd yn Adroddiad 2041. Ein hymateb i’r data sy’n siartio dirywiad rhifiadol yw adeiladu undod pwrpasol yn ein tasg o ddathlu ein rôl fel disgyblion a llysgenhadon Crist a’i Eglwys. Fe’n gelwir i adrodd ein stori yn hyderus ac i arfogi ein hunain ymhellach ar gyfer gwaith estyn allan, cenhadaeth a gwasanaeth Cristnogol. Gall strwythurau newydd sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif ein cynorthwyo fel eglwysi a chredinwyr yn yr alwad uchel hon.
Yn anad dim, fe’n gelwir i weddi, fel unigolion, eglwysi a Chymanfaoedd, ym mhopeth a wnawn i adeiladu’r Deyrnas wrth i ni barhau i rannu’r llawenydd o adnabod Iesu Grist a’i Efengyl.