Cenhadaeth, y Greadigaeth a Gogoniant Duw

Paul Smethurst sydd yn rhannu’r modd y mae e’n gweld Duw yn defnyddio’r greadigaeth i ddatgelu Ei ogoniant, ac fel mae’n gweld hyn yn annatod gyda chenhadaeth. Mae Paul a’i wraig Robyn yn gweinidogaethu ac yn arloesi ym maes cenhadaeth yn y Bannau Brychieiniog ar hyn o bryd, ac maent wedi gweld nifer yn cael eu denu yn agosach at ffydd trwy eu hymwneud gyda harddwch y bro.

Ysgrifennodd y Salmydd y geiriau, “Y mae’r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw.” Gan ein bod yn byw yn y Bannau Brycheiniog, gyda’i statws fel Gwarchodfa Awyr Dywyll, cawsom y fraint o gael seddi rhes gyntaf i brofi’r realiti yma! Ac wrth wasanaethu yn y gymuned, rydym yn dysgu mor greiddiol genhadol yw datganiad y Salmydd.

Rydym ni’n cael ein hannog yn aml i ‘ddarganfod yr hyn y mae Duw yn ei wneud, ac i ymuno gydag Ef yn Ei waith.’ Ers i ni gyrraedd yma ym mis Chwefror y llynedd, un o’r pethau rydym ni wedi gweld Duw yn ei wneud yw datgelu rhywbeth O’i ogoniant i bobl trwy’r amgylchfyd naturiol.

I rai, mae’n debyg eu bod ond yn clywed llais tawel. I eraill, mae Ei lais yn cael ei foddi gan leisiau eraill; ond eto i eraill, yng ngeiriau cofiadwy Francis Schaeffer, mae’n glir ‘Ei fod yno ac nad yw’n ddistaw.’ Felly, wrth weld beth mae Duw wrthi’n ei wneud, newidiodd y cwestiwn i: ‘Sut ydyn ni’n ymuno gydag Ef yn Ei waith?

Wedi’i guddio yn ochr y bryn ger Penybegwm, dwy filltir a saith cant o droedfeddi yn uwch na’r pentref agosaf, y mae Capel Penyrheol. Er mor bellennig ydyw, dyma’r
lle y daethom ar draws y cyfleoedd gorau i ymuno â Duw yn y rhan hon o’i genhadaeth.

Gyda chefnogaeth SU Cymru, rydym wedi dechrau grŵp canol wythnos misol i bob oedran o’r enw ‘Go Wild!’. Mae ethos y clwb yn syml. Gan ddefnyddio amgylchedd hyfryd tir Capel Penyrheol, rydym ni’n treulio amser gyda’n gilydd yn mwynhau ac yn archwilio’r greadigaeth tra hefyd yn darganfod am y Creawdwr.

Rhai misoedd, byddwch chi’n ein darganfod ni’n adeiladu Gwesty Chwilod, misoedd eraill byddwn ni’n darganfod defnydd i frigau a fyddai fel arall yn cael eu diosg a’u gadael, ac ym misoedd tywyll y gaeaf, byddwn ni’n dysgu sut i ddarganfod Seren y Gogledd. Mae’n ymarferol! Ac yna, wrth i ni ddod ynghyd i wneud siocled poeth, byddwn ni’n siarad am yr hyn rydym ni wedi’i weld a’i wneud.

Gyda’r greadigaeth yn gymorth gweledol, a straeon y Beibl yn gyfeillion i ni, rydym ni’n annog ein gilydd gyda chalonnau agored, i wrando ar yr hyn y mae Duw yn ei ddweud wrthyn ni.

Mae’n hyfryd dros y misoedd gweld ein cymuned yn araf yn tyfu mewn nifer, ac mewn chwilfrydedd a mewnwelediad i’r Newyddion Da.

Mewn ffordd debyg, mae Duw hyd yn oed wedi defnyddio’r fynwent ym Mhenyrheol! Mae’r ardaloedd tawel a hynafol hyn wedi eu rhifo ymhlith y cynefinoedd mwyaf bioamrywiol yn ein gwlad.

Wrth gydnabod hyn, mae A Rocha UK, sefydliad cadwraethol Cristnogol, wedi cydweithio gyda 3 sefydliad arall, gan gynnwys yr Eglwys yng Nghymru, i sefydlu wythnos ‘Eglwysi’n Cyfri Natur’. Mae’r wythnos yn rhedeg bob mis Mehefin yn flynyddol, ac yn rhoi cyfle i’r gymuned gymryd ‘awdit’ o drwch byd natur mynwentydd a thiroedd eglwysi. Ar ôl cychwyn gyda gwasanaeth i bob oed, aethon ni wedyn ar dasg i archwilio a gwneud cofnod o’r hyn y gwnaethom ni ei ddarganfod ym Mhenyrheol. Roedd hi’n gam bach, cyntaf i gyfle arall i ofalu am greadigaeth Duw ac amlygu Ei ogoniant.

Felly, beth mae Duw yn ei wneud? Dyma gyfieithiad Eugene Peterson o eiriau’r Salmydd, ‘God’s glory is on tour in the skies…’

Rydyn ni wrth ein bodd yn ymuno gydag E a bod yn ‘roadies’ iddo!

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau