Undeb 2026: Caerdydd

Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â chyfarfodydd blynyddol yr Undeb o’r 18fed i’r 21ain o fis Mehefin eleni, yn y Tabernacl, Caerdydd!

Mae pedwar diwrnod o gyfarfodydd, gweithgareddau a chyfleoedd i gymdeithasu a mwynhau’r ddinas wedi eu trefnu eleni – byddwn wrth ein bodd petaech yn gallu ymuno â ni am beth ohono, neu’r cyfan!

Byddwn yn dilyn thema ‘Rhodiwch mewn Cariad’ yn seiliedig ar Effesiaid 5:2, o dan arweiniad ein llywydd newydd eleni: y Barch. Ddr. Rosa Hunt.

Isod y mae rhaglen lawn, a ffurflen i archebu lle. 

Nodyn bod croeso i unrhyw un ymuno â ni ar gyfer unrhyw un o’r oedfaon yn ystod yr wythnos heb roi gwybod i ni ymlaen llaw, ond os hoffech ymuno â ni ar gyfer unrhyw ran arall o’r rhaglen, bydd rhaid i chi gofrestru trwy lenwi’r ffurflen isod. Plîs dynodwch yn y ffurflen os ydych yn dod fel cynrychiolydd Eglwys / Cymanfa neu fel Ymwelydd. Croeso mawr i bawb.

A fyddech mor garedig â llenwi’r ffurflen gofrestru uchod a’i dychwelyd erbyn Dydd Mercher, Mai 20fed, 2026 at Mr Marc Jon Williams 14 Heol Pant Y Celyn, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 7BX, neu marc_j_williams@yahoo.co.uk.

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Undeb 2026: Caerdydd

Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â chyfarfodydd blynyddol yr Undeb o’r 18fed i’r 21ain o fis Mehefin eleni, yn y Tabernacl, Caerdydd! Mae pedwar diwrnod o gyfarfodydd,

Darllen mwy »

Diolch i Judith!

Mae Cyngor Unedig Undeb Bedyddwyr Cymru yn croesawu’r cyfle i ddiolch yn ffurfiol i’r Parchedig Judith Morris am ei gwasanaeth rhagorol fel Ysgrifennydd Cyffredinol UBC…

Darllen mwy »