Taith Hannah i’r Weinidogaeth

Menna Machreth sydd yn adrodd hanes ordeinio a sefydlu Hannah Smethurst yng Nghaersalem Caernarfon ar y 12fed o Hydref. Llongyfarchiadau mawr iddi hi, a phob bendith i deulu Caersalem Caernarfon wrth ddechrau pennod newydd…

Mae Hannah Smethurst yn wyneb cyfarwydd i bawb yng Nghaersalem ac eglwysi Cymanfa Bedyddwyr Arfon erbyn hyn, ond y tro cyntaf i mi ei chyfarfod oedd dros swper yng nghartref teulu’r Smethursts yn Llanelli pan roeddwn wedi mynd i siarad yn Llanelli am y BMS a chenhadaeth byd-eang. Roedd Paul, tâd Hannah, wedi arwain uno dwy eglwys i greu Eglwys Hope Gobaith, ac roedd gan Paul ddiddordeb arbennig mewn cenhadaeth newydd ymhlith y Cymry Cymraeg. Ychydig a wyddem ar y pryd bod gan Dduw gynllun arbennig ar gyfer ei ferch yn y cyd-destun hwn.

Magwyd Hannah yn Sir Benfro ac yna yn Llanelli, mewn aelwyd oedd yn ymroddedig i wasanaethu Duw a dangos cariad yr Arglwydd Iesu mewn gair a gweithred, ac yn sicr mae magwraeth Hannah wedi dylwanwadu’n fawr arni a phwy yw hi heddiw. Aeth ymlaen i Brifysgol y Drindod Dewi Sant a graddio mewn addysg, ond aeth hi ddim i ddysgu’n syth.

Y tro nesaf i fi weld Hannah oedd mewn cyfweliad ar gyfer blwyddyn gap Tîm i Gymru, cynllun blwyddyn er mwyn i bobl ifanc gael profiad o waith cenhadol mewn eglwysi lleol a dramor, ynghyd â hyfforddiant gan y BMS. Y flwyddyn honno, roedd Simeon a finnau wedi cynllunio i’r tîm weithio gydag eglwysi Cymanfa Arfon, felly roedd siarad Cymraeg yn hanfodol. Er i Hannah ddisgleirio yn y cyfweliad, doedd hi ddim yn ddigon hyderus ar y pryd i ddweud gair o Gymraeg. Fe benderfynon ni mewn ffydd, i benodi Hannah i’r tîm gan ofyn iddi ymarfer, ac fe fuon ni’n gweddio’n ddi-baid drwy’r haf! Bydd yn ddifyr i chi wybod mae ei thiwtor Cymraeg dros yr haf hwnnw oedd neb llai na Helen Treharne, gwraig un o gyn-weinidogion Caersalem.

Dyma mis Hydref yn cyrraedd, a’r tri aelod o’r tîm – Hannah, Gruffydd ac Eleri – yn glanio yn y Coleg Gwyn ym Mangor – dyna’r lle’r oedden nhw’n mynd i fyw diolch i garedigrwydd y Coleg Gwyn a threfniadau’r Parchedig Ieuan Elfryn Jones. Er mawr ryddhad i fi, roedd gan Hannah lond pen o Gymraeg, a tyfodd ei hyder yn ystod y flwyddyn. Nid dim ond ei hyder i siarad Cymraeg a ddatblygodd y flwyddyn honno, ond ei doniau i wasanaethu, y ffordd roedd hi’n gofalu am pobl, ei dawn dysgu, ynghyd â dyfalbarhad, pwyso ar Dduw mewn gweddi, a chreadigrwydd wrth ymateb i wahanol sefyllfaoedd.

Roedd hi’n amlwg o’r adeg hynny, bod Hannah wir wedi dod o hyd i gartref a chymuned yng Nghaersalem, a bod yr eglwys hon yn le lle y byddai hi’n gallu tyfu a gwreiddio ei hun yn ddyfnach yn Nuw. Ar ddiwedd y flwyddyn, teimlai Hannah ei bod hi angen mynd adref am ychydig ac aros am arweiniad. Cafodd swydd fel cynorthwydd dosbarth mewn ysgol Gymraeg yn Abertawe. Ac yna, yn fuan wedyn, daeth y cyfnod clo. Amser anodd i bawb, ond roedd hefyd yn amser i Hannah fyfyrio a cheisio arweiniad Duw. Ymunodd â chynllun Derwen, a gofynnodd Hannah i fi fod yn fentor iddi, felly fe fuon ni’n cyfarfod ar-lein am gyfnod.

Yn fuan wedyn, daeth cyfle i Gaersalem gydweithio a’r Undeb Bedyddwyr i gynnig Cynllun Interniaeth i Hannah i ddod nôl i Gymanfa Arfon ac i dreulio amser yn gwasanaethu yn yr eglwys.

Yn dilyn y Cynllun interniaeth, daeth Hannah yn fyfyriwr Gweinidogaethol ar leoliad yng Nghaersalem a bu cyfle hefyd iddi gynorthwyo gyda gwaith ieuenctid ym Mangor ar y cyd ag Eglwys Emaus a Berea Newydd. Diolch i Cymanfa Bedyddwyr Arfon ac Undeb y Bedyddwyr am gymorth ariannol i gynnal Hannah trwy y Cynllun Interniaeth a Hyfforddiant y Coleg. Diolch hefyd i’r Coleg am baratoi Hannah ar gyfer y weinidogaeth sy’n berthnasol ac yn cyfarch heriau heddiw, ac am bob cefnogaeth ac arweiniad iddi.

Diolch i Undeb Bedydyddwyr Cymru – Judith, Simeon, Marc- a’r tîm i gyd – eich gweledigaeth chi mewn amser anodd iawn i’r eglwys Gristnogol yng Nghymru, rhwng yr hen strwythurau ond gyda’n llygad ar y pethau newydd mae Duw eisiau gwneud yng Nghymru, a bod yn barod i ailddychmygu cenhadaeth gyda nerth yr Ysbryd Glân.

Gair byr am weinidogaeth Hannah dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – Sêr Bach yn bendithio rhieni a phlant bach yr ardal, gwaith ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc i ddod i adnabod a chael perthynas â’r Arglwydd Iesu, Caru Caersalem ar y cyd â Lowri a Jan oedd yn amser mor arbennig o adeiladu cymuned pob oed a dangos cariad Duw mewn ffordd real ac ystyrlon i bobl o bbo cefndir. Braint gweld Hannah’n tyfu yn ei doniau ysbrydol ac yn ei pherthynas â Duw.

Yn Ionawr 2024, dechreuodd Tim Arwain Caersalem ystyried a oedd posibilrwydd o alw Hannah yn weinidog i weithio ochr yn ochr gyda Rhys Llwyd ar ôl i’r cyfnod hyfforddiant ddod i ben. Mae Duw wedi bod yn dda, ac wedi’n bendithio’n helaeth dros y blynyddoedd diweddar yng Nghaersalem ac roedd hi’n amser i alw am gymorth pellach i wasanaethu’ eglwys, gwneud disgyblion a gyrru ein cenhadaeth yn dref hon.

Yn ystod Gwanwyn 2024, pleidlieisodd Caersalem fel eglwys i alw Hannah yn weinidog cyswllt a derbyniodd Hannah yr alwad. Byddwn yn hoffi diolch i bawb yng Nghaersalem am y ffordd y gwnaethon nhw annog a gofalu am Hannah dros y blynyddoedd diwethaf, a rhoi gofod diogel iddi feithrin ei doniau fel arweinydd. Diolch yn arbennig i Arwel Jones, ysgrifennydd yr eglwys, am yr trefniadau o ran galw Hannah yn ffurfiol ac am ei ofal dros y trefniadau ariannol, ac am ei arweiniad i fuddsoddi mewn ffydd mewn cenhadaeth. Mae’n bwysig fod ysgrifennyddion a thrysoryddion egwysi yn deall cenhadaeth llawn gymaint a spreadsheets!

Cafwyd oedfa Ordeinio a Sefydlu llawn hwyl ac ysbryd ar ddydd Sadwrn y 12fed o Hydref 2024 yng Nghaersalem. Roedd yr ordeino a’r sefydlu dan ofal Rosa Hunt o’r Coleg, cafwyd anerchiad gan Simeon Baker a chyfarchiad hefyd gan Lywydd Undeb Bedyddwyr Cymru, Geraint Morse. Arweiniwyd yr addoliad, y gweddiau a’r darlleniadau gan aelodau a ieuenctid yr eglwys.

Hannah, bendith yr Arglwydd arnat ti wrth i ti gael dy ordeinio yn Weinidog cyswllt pob oed. Mae’r rôl yn un newydd, mae’n arloesol ac mae’n gyfle cyffrous i helpu ni fel pobl Dduw yng Nghaersalem a Chaernarfon i gamu allan mewn ffydd  gweld newyddion da Iesu Grist yn newid bywydau.

Adroddiad gan Menna Machreth

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau