Dydd Gweddi Chwiorydd Bedyddwyr y Byd

Rydym ni’n etifeddion traddodiad o dros 70 o flynyddoedd o Ddydd Gweddi Chwiorydd Bedyddwyr y Byd. Y fath etifeddiaeth! Y fath hanes inni ddod yn rhan ohoni wrth inni ymuno eto eleni i weddïo, boed gartref, boed yn ein heglwysi neu yn ein cymunedau ar draws y byd.  

Ein thema eleni ar y 7fed o Dachwedd 2022 yw ‘Bywyd buddugoliaethus’, yn seiliedig ar yr ail lythyr at y Corinthiaid yn y Testament Newydd, pennod 2, adnodau 14 hyd at hanner cyntaf 16: ‘I Dduw y bo’r diolch, sydd bob amser yn ein harwain ni yng Nghrist yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth ef, ac sydd ymhob man, trwom ni, yn taenu ar led bersawr yr adnabyddiaeth ohono.’ Wrth inni weddïo eleni, dychmygwn bersawr ein gweddïau ar y cyd yn cael eu codi mewn mwy na chant o wledydd! Rydym yn hyderus y cewch eich bendithio a’ch calonogi wrth inni ddod ynghyd er mwyn darllen Gair Duw, clywed hanesion buddugoliaeth, a cheisio’r Arglwydd mewn gweddi.  

Yn ogystal, mae’r Dydd Gweddi yn rhoi cyfle i wragedd Bedyddwyr roi yn hael i gefnogi mentrau byd-eang gweinidogaethau gwragedd Cynghrair Bedyddwyr y Byd a’r saith Undeb Cyfandirol. Mae’r rhoddion ariannol hyn yn parhau i wneud gwahaniaeth tragwyddol, gan ddarparu cymorth ymarferol i wragedd mewn angen, a rhoi modd i wragedd Bedyddwyr newid y byd i Grist. Diolch am fod yn rhan hanfodol o’r digwyddiad yma heddiw sy’n hyrwyddo gweinidogaeth bwysig ar hyd y flwyddyn gron. 

Mae adnoddau pellach a rhai Saesneg i’w cael ar wefan Bedyddwyr y Byd: Day of Prayer – BWA Women

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Bedyddiadau’r Pasg

Fel Bedyddwyr rydym wrth ein bodd yn dathlu’r ymrwymiad cyhoeddus o ffydd yn yr Arglwydd Iesu sy’n digwydd mewn bedydd crediniwr! Cynhaliwyd llu o Fedyddiadau ledled Cymru dros benwythnos y Pasg…

Darllen mwy »

Undeb 2025 – Llundain

Ar gael bellach mae ffurflen gofrestru i fynychu cyfarfodydd blynyddol Adran Gymraeg UBC yn Llundain, ar wahoddiad Eglwys Gymraeg Canol Llundain, gan gynnwys Eglwys Fedyddiedig Castle Street…

Darllen mwy »