Ganed Ifor Lloyd Williams yn nhref Rhymni yn 1925, a magwyd ef yn eglwys Jerwsalem Rhymni, eglwys lle roedd ei dad yn ddiacon a thrysorydd. Yma, genhedlaeth yn ddiweddarach y gwasanaethodd ei chwaer Mrs Morfydd Prytherch fel diacon ac ysgrifennydd, ac roedd hithau’n graig addfwyn o berson wrth arwain yr eglwys.
Ar ôl ei addysg ffurfiannol, aeth Ifor yn bymtheg oed i weithio gyda’i dad yn y lofa leol, ond yna ymdeimlodd â’r alwad i’r weinidogaeth a’i arweiniodd i Goleg y Bedyddwyr a Phrifysgol Cymru, Bangor. Graddiodd yno gyda B.A. yn 1951. Blwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei ordeinoi a’i sefydlu yn eglwysi Sardis, Dinorwig a Libanus, Clwt-y- Bont, rhwng pentrefi Bethesda a Llanberis, mewn ardal a ddibynnai’n llwyr ar y chwareli lleol. Roedd cymhariaeth debyg rhwng y cwm hwn a’i bentref genedigol yng ngogledd Cwm Rhymni. Treuliodd pedair blynedd ymhlith y gweithwyr gonest a chaled hyn, a mireinio ei ddawn fel pregethwr, ac yn datblygu ei reddf fel un a garai ei gynulleidfa. Bellach roedd wedi priodi yn 1952, un o’i gyd-efrydwyr ym Mhrifysgol Bangor, sef Mary Jones, a oedd yn enedigol o Ddyffryn Conwy. Ymhen y rhawg, ganwyd iddynt ddau fab, sef Dewi Llwyd, a ddaeth i’r amlwg fel un o brif cyflwynwyr newyddion a sylwebydd gwleidyddol gyda’r B.B.C. yng Nghymru, a Meurig Llwyd, athro Ffrangeg a ymdeimlodd â’r alwad i’r offeiriadaeth Anglicanaidd. Gwasanaethodd ef mewn nifer o esgobaethau, ac mewn gwahanol swyddi ar draws Ewrop.
Treuliodd Ifor Williams, bedair blynedd yn ardal y llechi a derbyn galwad i fod yn weinidog yng Nghalfaria, Treforus. Yma eto bu am bedair blynedd yn gwasanaethu’r aelodau fel arweinydd doeth a chytbwys, ac yn cael ei ystyried yn bregethwr cyfoes ac adeiladol, cyn symud yn ôl i Fangor yn 1960. Bellach roedd yn weinidog ar eglwys Penuel ac Ainon, Glanadda, a gwasanaethu eglwysi mewn tref prifysgol, tref a oedd yn gyfarwydd iddo. Roedd yn her addas iddo ac enillodd ei le yn llwyr yn eu plith. Ysgrifennodd G.B.Owen amdano –

“Roedd gan y gweinidog ddiddordeb mawr yn y gwaith gyda’r plant a’r bobl ifanc. Dechreuodd yr arfer o gynnal gwasanaeth y plant ar fore Sul unwaith y mis a fu’n llwyddiant mawr. Roedd yn weithgar, hefyd, gydag eraill, yn y clwb ieuenctid a gyfarfu yn wythnosol ym Mhenuel, bu’r clwb o fudd i do ar ôl to o bobl ifanc eglwysi’r ddinas”.
Yn 1970, estynnwyd cylch yr ofalaeth i gynnwys eglwysi Sardis, Dinorwig a Libanus, Clwt-y-Bont ac yn 1980, ychwanegwyd Caerllwyngrudd yn 1980. Yn y flwyddyn honno, caewyd Ainon, ac ymunodd yr aelodau gyda cyfeillion Penuel. Yn ystod y tri deg mlynedd y bu yn weinidog yn Penuel, gwelwyd sawl datblygiad arwahan i estyn maint yr ofalaeth. Dyma’r cyfnod y gwelwyd sawl datblygiad cymdeithasol, ac roedd Penuel a’i gweinidog yn addasu eu cenhadaeth ac yn addasu i gwrdd a gofynion y cyfnod. Prynodd y gweinidog dŷ iddo’i hun, a dechreuwyd defnyddio cyfarpar argraffu ar gyfer yr eglwys. Roedd mwy o gyfleoedd i leygwyr gyfrannu i addoliad yr eglwys, a datblygwyd y cydweithio ar draws yr enwadau. Cytunwyd i dderbyn aelodau o enwadau eraill heb bwyso arnynt i gael eu bedyddio trwy drochiad, a hyn yn eu dro yn fodd i dderbyn aelodau Eglwys Bresbyteraidd y Tabernacl, a oedd yn eu hymyl, i fod yn gyflawn aelodau ym Mhenuel pan gaeoddd Yabernacl um 1968. Gweledigaeth Ifor Williams oedd hyrwyddo Clwb yr Ifanc yn festri Penuel i groesawu ieuenctid eglwysi eraill Roedd cyfnod gweinidogaeth Ifor Llwyd Williams wedi braenaru’r ffordd i addasu cenhadaeth a chymdeithas yr eglwys cyn dyfod yr oes dechnolegol a oedd ar wawrio. Ymddeolodd y gweinidog yn 1989, cyn paratoi ei hun i gefnogi ei olynydd, sef y Parchg Olaf Davies, a pharhau i gefnogi gwaith eglwysi’r ofalaeth.
Rhoddai Ifor Williams bwys mawr ar bregethu a byddai wedi paratoi’n ofalus o flaen pob oedfa. Cawsai flas ar bregethu, a byddai ei gynulleidfaoedd yn gwerthfawrogi ei neges. Roedd hefyd yn mwynhau yr oedfa weddi, a bu’r sawl a fynychai’r oedfaon hynny yn tystio’n gyson i’r fendith a gawsant ynddynt. Felly wrth ymweld â’r cleifion a’r aelodau yn gyffredinol.
Meddai ar ddoniau cerddorol gwerthfawr, ac roedd wrth ei fodd yn canu’r organ a’r piano. Gwahoddwyd ef o olygu’r wedd gerddorol i gyhoeddiad Undeb Bedyddwyr Cymru, Mawl yr Ifanc. Cyfrannodd hefyd ar Bwyllgor Cymanfa Ganu Gogledd Cymru. Gwasanaethodd lu o bwyllgorau Cymanfa Arfon ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Cyflawnodd sawl swydd ar bwyllgorau Coleg y Bedyddwyr ym Mangor, gan dderbyn sawl myfyriwr o’r colegau yn cyd-addoli gyda’r gynulleidfa ym Mhenuel.
Gweledigaeth Mudiad y Chwiorydd oedd mateisio ar argaeledd hen ganolfan y BBC ym Mryn Meirion, nid nepell o Penuel, i fod yn gartref gofal i bobl a fyddai am ddarpariaeth Gristnogol Gymreig yn y Gogledd. Bu Mrs Mary Williams yn un o arweinwyr y fenter fawr honno, ac roedd ei phriod yn gefn cadarn i’r fenter honno. Roedd Ifor Williams yn fonheddwr tyner ei wedd a llawen ei natur. Bu ei gyfraniad yn y weinidogaeth yn werthfawr, nid yn unig oddi fewn i’r eglwysi lle bu’n weinidog, ond i’r gymdeithas letach. Coffa da ohono ef a’i briod annwyl.
Cyfrannwyr:
Gwilym B. Owen Llawlyfr UBC 2008, ac yn llyfryn dathlu hanner canrif Penuel ‘Cofiad Haul’.
Denzil John