Cwestiwn ac Ateb
Beth yw SCE (CIO)?
Mae SCE yn golygu “Sefydliad Corfforedig Elusennol” (Charitable Incorporated Organisation) ac mae wedi’i fwriadu ar gyfer elusennau lle nad oes gan Ymddiriedolwyr gyfrifoldeb, neu sydd â chyfrifoldeb cyfyngedig yn unig, am ddyledion neu ymrwymiadau. Rhaid cofrestru’r SCE gyda’r Comisiwn Elusennau a sicrhau dogfen lywodraethol briodol i’r corff.
Pam fod arnom angen Sefydliadau Corfforedig Elusennol rhanbarthol?
Mewn ymateb i adroddiad 2041 daeth hunaniaeth gyfreithiol ac atebolrwydd y Cymanfaoedd yn fater o bryder. Mae SCE rhanbarthol yn cynnig diogelwch, cyfleoedd ac atebolrwydd.
- O ran diogelwch, symudir yr atebolrwydd oddi wrth gyfrifoldeb personol swyddogion i ddiogelwch atebolrwydd cyfyngedig [sef ‘limited liability’] (ac eithrio mewn achos o esgeulustod) ar gyfer Ymddiriedolwyr.
- O ran cyfleoedd, mae endid cyfreithiol yn golygu y gall y sefydliad, er enghraifft, ddal a gweinyddu arian, ymrwymo i gontractau, dal eiddo, gwneud cais am grantiau ac ymgymryd â chyflogaeth. Wrth edrych y tu hwnt i’n strwythurau presennol, y cyngor cyfreithiol yw bod SCE yn cynnig strwythur mwy priodol i sefydliadau wrth iddynt wynebu’r her a’r cyfleoedd a gyflwynir yn adroddiad 2041.
- O ran atebolrwydd, mae SCE yn cael ei reoleiddio ac yn atebol i’r Comisiwn Elusennau o dan gyfraith elusennol.
Sawl SCE rhanbarthol y bwriadwn eu ffurfio a pham?
Yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2024 cytunwyd i greu pedwar neu bump SCE rhanbarthol, fel a ganlyn:
1. Gogledd (Orllewin) Cymru (Arfon a Môn)
2. Canolbarth Cymru (Maesyfed a Maldwyn a Brycheiniog)
3. Morgannwg (Dwyrain a Gorllewin Morgannwg)
4. De-Orllewin Cymru (Sir Benfro, Caerfyrddin a Cheredigion)
a. (Efallai y bydd hwn yn dod yn ddau SCE, Cymraeg a Saesneg eu hiaith)
Beth am Gymanfaoedd Gwent a Dinbych, Fflint a Meirion?
Mae Cymanfa Gwent eisoes wedi ffurfio SCE. Mae Cymanfa DFfM wedi bod yn gwmni corfforedig ers blynyddoedd lawer. Mae’r ddwy Gymanfa yn parhau i fod yn rhan annatod o Undeb Bedyddwyr Cymru ac maent yn agored i weithio mewn partneriaeth gyda’r rhanbarthau eraill.
A fydd y Cymanfoedd presennol yn dod i ben?
Na. Bydd y Cymanfaoedd presennol yn parhau i weithredu fel y maent ar hyn o bryd gyda Swyddogion a chyfarfodydd rheolaidd. Byddant yn parhau i gynnig cefnogaeth fugeiliol hanfodol i’r eglwysi a byddant yn parhau i fod yn gyswllt cyntaf i eglwysi sy’n aelodau ohonynt, pryd a phan fydd anghenion yn codi.
A fydd yr SCE rhanbarthol yn newid y ffordd y mae’r Undeb yn ymwneud â’r Cymanfaoedd a’r eglwysi?
Na. Bydd strwythurau’r Undeb yn parhau gyda chynrychiolwyr y Cymanfaoedd yn mynychu’r Byrddau, y Pwyllgorau, y Cyngor a’r Cyfarfodydd Blynyddol. Nid oes unrhyw newidiadau arfaethedig i ddogfen lywodraethol Undeb Bedyddwyr Cymru, sydd eisoes yn SCE cofrestredig.
Beth mae’r SCE yn ei wneud?
Corff cyfreithiol yw’r SCE a’i unig bwrpas yw hyrwyddo ei amcanion elusennol. Bydd yr amcanion elusennol hyn yn cael eu rhannu’n gyffredin ar draws pob SCE rhanbarthol a chydag amcanion Undeb Bedyddwyr Cymru, sef “hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn unol ag egwyddorion enwad Bedyddwyr Cymru”. Yn ei hanfod, gwaith yr SCE fydd hyrwyddo cenhadaeth Duw drwy enwad y Bedyddwyr yng Nghymru.
Sut fydd yr SCE yn llunio cynllun cenhadol a fydd yn adlewyrchu gweledigaeth yr eglwysi a’r Cymanfaoedd?
Gan mai cenhadaeth yw gwaith yr SCE, bydd cynllun cenhadol strategol yn sicrhau bod y weledigaeth ar gyfer cenhadaeth yn adlewyrchu gweledigaeth y Gymanfa a’r Eglwysi. Yr SCE fydd yn symbylu cenhadaeth y Gymanfa a’r Eglwysi. Mae’n bwysig felly bod y cynllun cenhadol yn cael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â’r Eglwysi a’r Gymanfa ac yn ymateb i’r cyfleoedd a ganfyddir yn y rhanbarth.
Sut gall yr SCE rhanbarthol weithio ar y cyd ar draws y rhanbarthau a chydag eraill?
Mae egwyddor hanesyddol y Bedyddwyr o ‘Gymdeithasu’ yn deillio o’r gydnabyddiaeth ein bod yn gryfach pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Rydym yn gwerthfawrogi annibyniaeth yr eglwys leol, ond rydym hefyd yn cydnabod ein cyd-ddibyniaeth ar Dduw ac a’n gilydd. I’r perwyl hwn, bydd pob SCE rhanbarthol yn gwahodd cynrychiolwyr o’r rhanbarthau cyfagos i rannu syniadau, arfer da ac i weithio ar y cyd. Bydd y gallu i glywed gan bartneriaid eraill o amgylch y bwrdd yn cyfoethogi’n gwaith o fod gyda’n gilydd wrth i ni rannu ein hadnoddau.
Sut fydd hyn i gyd yn gweithio’n ymarferol?
Onid haen arall o fiwrocratiaeth yn unig yw hyn?
Prif ysgogydd y broses yw’r angen i sefydlu strwythur cyfreithiol cadarn wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, nid yw’n fwriad i greu baich trwm ychwanegol ar yr eglwysi a’r Cymanfoedd.
Dyma’r hyn a ddywed ein cyfreithwyr:
“Mae angen i’r strwythur newydd hwn fod yn ystwyth ac yn effeithlon, yn abl i addasu i’r heriau sy’n wynebu enwad y Bedyddwyr yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod, yn ogystal â chynnal tryloywder ac atebolrwydd i deulu’r Bedyddwyr yng Nghymru, y rheoleiddiwr elusennau a’r cyhoedd yn ehangach.”
Pwy fydd yn rheoli ac yn rhedeg yr SCE rhanbarthol?
· Bydd pob Cymanfa yn ethol ac yn penodi dau Ymddiriedolwr i’r SCE rhanbarthol.
· Bydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn penodi un cynrychiolydd i bob SCE rhanbarthol.
Pa fath o bobl y dylem fod yn chwilio amdanynt i fod yn Ymddiriedolwyr?
Rydym yn ymwybodol o’r gofynion trwm a ysgwyddir gan Swyddogion y Cymanfaoedd presennol a byddem yn gobeithio y bydd rhai o fewn ein heglwysi yn ymdeimlo’r â’r alwad i’r rôl hon. Bydd disgrifiad ar gyfer swyddogaeth Ymddiriedolwr yn cael ei baratoi fel y gall darpar ymgeiswyr ddeall beth yw’r ymrwymiadau a’u haddasrwydd ar gyfer y swyddogaeth. Yn amlwg, bydd Ymddiriedolwr SCE yn meddu ar ffydd weithredol, yn aelod yn un o’n heglwysi ac yn deall rhywfaint o’r cyd-destun cenhadol. Y tu hwnt i hyn, mae rhai gofynion cyfreithiol a allai wahardd rhai pobl rhag dal y swydd hon.
Sut fydd yr SCE yn atebol i’r Gymanfa, yr Eglwysi a’r Undeb?
Bydd yr SCE rhanbarthol yn rhoi adroddiad i’r Gymanfa a’r Undeb drwy ei Ymddiriedolwyr cynrychioliadol. Trwy ethol Ymddiriedolwr, mae’r Gymanfa’n dewis pwy fydd yn ei chynrychioli ar yr SCE rhanbarthol.
Beth am gyllid?
Sut fydd yr SCE yn cael ei ariannu?
Ar hyn o bryd gofalir am gronfeydd y Cymanfaoedd gan Undeb Bedyddwyr Cymru. Bydd y swyddogaeth hon yn parhau gydag incwm a gwariant wedi’i gyllidebu yn unol â’r strategaeth genhadol y cytunwyd arni gan yr SCE gan weithio gyda’r Cymanfoedd a’r Eglwysi. Pan fydd gweithredoedd Ymddiriedolaeth yn caniatáu, gellir defnyddio’r elw o werthiant capeli, grantiau, rhoddion, incwm buddsoddi a chymynroddion at ddibenion cenhadaeth.
Sut fydd yr SCE yn delio â gwaith gweinyddol elusen fechan?
Yn hytrach na dyblygu gwaith ar draws y pedwar neu bum sefydliad SCE, y gobaith yw y bydd yna fath o wasanaeth cymorth canolog yn cael ei ddarparu gan yr Undeb. Gallai hyn gynnwys cymorth gyda thasgau gweinyddol fel creu polisïau, darparu gwasanaeth cyflogaeth, cadw llyfrau, paratoi adroddiadau, diogelu, yswiriant ac ati er mwyn osgoi gosod unrhyw faich ychwanegol ar yr SCE.
A fydd creu SCE rhanbarthol yn golygu mwy o danysgrifiadau a chostau i eglwysi?
Na fydd.
Amserlen
Ionawr – Mawrth 2024
Cyflwyniad am Adroddiad 2041 gerbron y Byrddau, Pwyllgorau, Cyngor a’r Cymanfaoedd a’r ‘ffordd ymlaen’.
Mawrth – Awst 2024
Derbyn cyngor cyfreithiol gan gyfreithwyr UBC ar gyfer dogfen lywodraethol ddrafft yr SCE rhanbarthol a fydd yn cynnwys gwahanol opsiynau.
Medi – Rhagfyr 2024
Ymgynghori pellach gyda’r Cymanfaoedd ynghylch y ddogfen lywodraethol ar gyfer yr SCE.
Cyflwyno diweddariad a thrafodaeth yng nghyfarfod y Cyngor (ar-lein).
Cyfreithwyr yn paratoi dogfen lywodraethol ddrafft.
Ionawr – Mawrth 2025
Dogfen lywodraethol ddrafft yr SCE ar gyfer ymgynghori â swyddogion y Cymanfaoedd.
Argymhelliad a chymeradwyaeth y Cyngor mewn perthynas â’r ddogfen ddrafft SCE.
Argymhelliad a chymeradwyaeth y Cyngor mewn perthynas â’r ddogfen ddrafft SCE.
Ebrill – Gorffennaf 2025
Argymhelliad y Gymanfa i’r Cyfarfodydd Blynyddol.
Cyfarfod Blynyddol UBC.
Cyflwynir yr argymhellion ar gyfer creu yr SCE rhanbarthol i’r Comisiwn Elusennau i’w cofrestru’n ffurfiol yn 2025.