Beth yw Diogelu?
Mae diogelu yn derm sy’n disgrifio’r swyddogaeth o amddiffyn oedolion a phlant rhag cael eu cam-drin neu’u hesgeuluso ac mae hefyd yn cynnwys mesurau i rwystro pobl fregus rhag cael eu niweidio yn y lle cyntaf.
Mae diogelu yn rhan hanfodol o arferion a threfn lywodraethu pob sefydliad cyfrifol. Fel eglwysi, gan geisio adlewyrchu cymeriad a gorchmynion Iesu, yr ydym am wneud hyn hyd eithaf ein gallu ac yn gweithredu mewn modd teilwng o fewn ein cymunedau
Polisi Diogelu
Polisi Undeb Bedyddwyr Cymru yw diogelu lles plant, phobl ifanc ac oedolion bregus drwy eu hamddiffyn rhag esgeulustod a niwed corfforol, rhywiol ac emosiynol.
Fel eglwysi rydym yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu lles ein haelodau a’r rheini a roddwyd yn ein gofal. Bydd aelodau’r eglwys, staff cyflogedig a gwirfoddolwyr ymddwyn mewn modd sy’n adlewyrchu egwyddorion yr Eglwys Gristnogol. Byddant yn dangos parch i hawliau dynol a dealltwriaeth ohonynt, yn hybu ethos o wrando a sicrhau diogelwch pawb yn arbennig plant ac oedolion bregus.
Bydd yr eglwys yn gofalu am blant, pobl ifanc ac oedolion bregus ac yn eu diogelu drwy ddilyn arferion da mewn perthynas â’r canlynol:
- Ymateb yn briodol i bryderon a honiadau
- Recriwtio gweithwyr a gwirfoddolwyr yn fwy diogel
- Hybu arferion gwaith da
- Hyfforddi a chefnogi eu gweithwyr yn eu swyddogaeth ac mewn amddiffyn grwpiau bregus
Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Panel Diogelu Cydenwadol ar faterion diogelu. Mae swyddog diogelu’r panel yw ein prif swyddog diogelu a dylid cysylltu‘n uniongyrchol ynglŷn â pryderon a materion diogelu
Hyfforddiant
Mae hyfforddiant diogelu yn hanfodol i bawb sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, ieuenctid ac oedolion bregus a hefyd y rhai sy’n gyfrifol am y gwaith e.e. ymddiriedolwyr a blaenoriaid. Mae’r Panel Diogelu Cydenwadol yn hwyluso hyfforddiant diogelu ar gyfer yr Undeb Bedyddwyr Cymru. Mae’r hyfforddiant yn seiliedig ar ein polisïau diogelu a’i nod yw helpu gweithwyr a gwirfoddolwyr i fod yn gyfarwydd â’r canllawiau cyfredol a gwybod beth i’w wneud os oes ganddynt bryderon am unigolyn neu sefyllfa.
Mae’r Panel yn cynnig tri math wahanol o hyfforddiant diogelu:
- Hyfforddiant Lefel 1 ar gyfer gwirfoddolwyr (2 awr)
- Hyfforddiant Lefel 2 ar gyfer gweinidogion, arweinwyr a gweithwyr (6awr)
- Hyfforddiant Cydlynydd Diogelu Lleol ar gyfer rhai sy’n cyfrifol am faterion diogelu yn yr eglwys lleol.
Ewch i Hyfforddiant (panel.cymru) am fwy o wybodaeth. Gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa’r Panel os hoffech drefnu sesiwn.
Sut i ymateb os oes gennych bryderon diogelu
Os ydych chi’n poeni am unigolyn neu sefyllfa, ffoniwch am gyngor – peidiwch byth ag anwybyddu’ch pryderon! Gweler canllaw cam wrth gam (i’r chwith)
Swyddog Diogelu’r Panel – Julie Edwards yw’r swyddog diogelu dynodedig ar gyfer Undeb Bedyddwyr Cymru a dylid cysylltu â hi a’i hysbysu am bryderon a digwyddiadau diogelu o fewn yr eglwys. Cysylltwch â swyddfa’r Panel i adrodd neu ddatgelu cam-driniaeth presennol neu hanesyddol neu bryder diogelu. Yn ystod oriau swyddfa, cysylltwch â 07957510346 / 01745817584. Y tu allan i oriau ffoniwch thirtyone eight helpline 0303 003 1111
Gallwch hefyd gysylltu â’r Panel am help neu gyngor ynghylch diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion bregus drwy ffonio 01745817584 neu e-bostio post@panel.cymru.
Am fwy o ffynonellau cymorth a chyngor ewch i panel.cymru/cy/cyngor-a-chefnogaeth neu panel.cymru/cy/rhifau-cyswllt-argyfwng
Recriwtio Mwy Diogel a Gwiriadau DBS
Mae’r Panel Diogelu Cydenwadol yn gyfrifol am brosesu gwiriadau DBS ar gyfer gweinidogion, gweithwyr a gwirfoddolwyr Undeb Bedyddwyr Cymru. Cysylltwch â sian@panel.cymru 01745 817584 am wybodaeth a chyngor am y broses DBS.
Mae gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un cam o’r broses recriwtio mwy diogel. Gweler Adran 2 o’r Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus am fwy o fanylion.
Sut i wneud cais am Wiriad DBS:
Llwybr 1. CAIS DBS PAPUR: Cysylltwch â swyddfa’r Panel a bydd ffurflen(ni) cais papur DBS yn cael ei hanfon i’ch cyfeiriad post neu at gydlynydd diogelu/ ysgrifennydd eich eglwys.
Llwybr 2. CAIS DBS AR-LEIN: Cwblhewch Ffurflen 1 jotform ar lein i ddechrau’r broses. Mae’r ffurflen hon yn rhoi’r wybodaeth i sicrhau bod eich rôl yn gymwys i gael DBS a pha lefel o wiriad y bydd ei hangen arnoch. Yna byddwch yn derbyn dolen a chyfrinair oddi wrth employmentcheck.org.uk i gwblhau eich ffurflen gais DBS ar-lein. Cwblhewch y cam hwn yn brydlon os gwelwch yn dda. Byddwch yn derbyn e-bost atgoffa bob 5 diwrnod nes bod y broses wedi’i chwblhau.
Mae GWIRIADAU HUNANIAETH WYNEB YN WYNEB yn rhan ofynnol o bob gwiriad DBS gan gynnwys ceisiadau ar-lein. Gall llawer o weinidogion a staff gyflawni’r rôl hon – gofynnwch yn eich eglwys leol yn gyntaf.
Byddwch yn derbyn TYSTYSGRIF DBS bapur gan y DBS ar ddiwedd y ddau lwybr. Bydd angen i’r rhai sy’n dilyn y llwybr papur bostio’r dystysgrif i swyddfa’r Panel.
Dylech adnewyddu eich gwiriad DBS bob 4 blynedd.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) (panel.cymru)
Ein Polisi a Gweithdrefnau Diogelu
Mae’r canllawiau a’r cyngor yn y Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus yn sail i bolisi mabwysiedig Undeb Bedyddwyr Cymru ar gyfer gweithio gyda grwpiau bregus. Mae’n cynnwys canllawiau arfer da ar weithio gyda phlant ac oedolion bregus ac yn amlinellu beth i’w wneud os oes gennych bryder am unigolyn neu sefyllfa.
I weld neu lawrlwytho copi o’r Llawlyfr Diogelu Grwpiau Bregus 2022 (gan gynnwys adrannau 1 a 2 wedi’u diweddaru ac atodiadau newydd) cliciwch ar y llun neu’r ddolen hon neu ewch yn uniongyrchol i’r adrannau unigol gan ddefnyddio’r dolenni isod.
I lawrlwytho datganiad polisi diogelu ar gyfer eich eglwys diynwch y ddolen yma
Mae’r llawlyfr yn eich cymryd gam wrth gam trwy:
Adran 1: Cyflwyniad a datganiad o fwriad a datganiad polisi’r eglwys unigol (adran newydd)
Adran 2: Recriwtio a dethol mwy diogel (gan gynnwys gwybodaeth gwiriadau DBS a siartiau llif (adran newydd)
Adran 3: Gweithio gyda phlant a phobl ifanc a sut i ymateb i bryderon
Adran 4: Gweithio gydag oedolion bregus a sut i ymateb i bryderon
Adran 5: Gofal Bugeiliol
Adran 6: Atodiadau a gwybodaeth i’ch cefnogi i weithredu’r polisi gydag atodiadau newydd: 1, 2a, 7, 8, 10)
Adran 7: Ffurflenni i’ch cefnogi i weithredu’r polisi a gwybodaeth am GDPR
Panel Diogelu Cydenwadol
Sefydlwyd y Panel Diogelu Cydenwadol yn 2001 a ddaeth yn gwmni cyfyngedig drwy warant ddim ddim er elw yn 2009. Mae’r Panel yn cefnogi a chynghori eglwysi o fewn Undeb Bedyddwyr Cymru mewn arferion diogelu yng nghyswllt eu gwaith gyda phlant, phobl ifanc ac oedolion bregus. Mae hyn yn cynnwys gwaith polisi, hyfforddiant, cyngor, gwaith achos, a gwiriadau DBS.
Mae’r Panel yn gorff cofrestredig Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) sy’n gyfrifol am brosesu’r gwiriadau DBS ar gyfer Undeb Bedyddwyr Cymru. Gwneir hyn o’r swyddfa yn Ninbych. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth neu i archebu ffurflenni.
Cysylltwch â swyddfa Panel neu ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth am bob agwedd o ddiogelu o fewn yr eglwys ac i drefnu sesiynau hyfforddiant.
Panel Diogelu Cydenwadol
Unit 1 Vale Parc, Ystâd Ddiwydiannol Colomendy
Dinbych LL16 5TA
Ffôn: 01745 817584