Gellir dweud bod sir hanesyddol Trefaldwyn ymhlith rhanbarthau tawelaf a lleiaf poblog Cymru. Serch hynny, mae un o’r eglwysi yn ein plith sydd wedi profi twf sylweddol yn ddiweddar wedi ei lleoli yn yr union ranbarth dawel hon!
Cawsom sgwrs gyda’r Parch. Rob Saunders yn ddiweddar, a rannodd gyda ni dipyn am hanes Eglwys Bedyddwyr y Trallwng (Welshpool Baptist Church), a’r fendith a’r heriau y maen nhw wedi eu profi dros y blynyddoedd diwethaf…
Tra bod nifer ohonom mae’n siŵr yn dyheu am weld twf yn ein cymunedau eglwysig, yr hyn sydd yn gwneud hanes Eglwys Bedyddwyr y Trallwng yn drawiadol yw’r ffydd sydd wedi gorfod codi mewn ymateb i heriau twf yn yr eglwys!
“Yn debyg i nifer o eglwysi, gwelsom dwf yn nifer y mynychwyr ar ôl Covid-19,” meddai Rob, “ond mae’r twf hwn wedi parhau, ac wedi cynyddu yn enwedig dros y 2-3 blynedd ddiwethaf.” Mae Eglwys Bedyddwyr y Trallwng wedi gweld y nifer o fynychwyr yn dyblu – nawr dros uchafswm cyfforddus y capel o c.65.
Mae Eglwys Bedyddwyr y Trallwng wedi gweld y nifer o fynychwyr yn dyblu – nawr dros uchafswm cyfforddus y capel o c.65.
Pwysleisia Rob nad yw’r twf hwn wedi bod yn ffenomena sydyn, ond creda ei fod wedi dod o flynyddoedd o ymrwymiad gan yr eglwys i’r lle a’r bobl o’u cwmpas. Yn hytrach na throi at ddulliau cenhadol newydd (er bod Rob yn credu bod lle i’r rhain!), prif ffocws yr eglwys dros y blynyddoedd diwethaf bu cryfhau eu hunaniaeth fel eglwys, a deall pwy ydyn nhw fel dilynwyr Crist. Mae hyn hefyd wedi cynnwys deall yr alwad i estyn allan i’r gymuned o’u cwmpas – yn ogystal ag ymrwymiad cadarn at weddi.
Rhanna Rob, ymhell cyn iddo gyrraedd, “roedd gan yr eglwys draddodiad cryf o weddi – cyfarfodydd gweddi, gweddi mewn grwpiau cartref, ar y Sul… hyd yn oed 24 awr o weddi! Fe wnaethon nhw weddïo am bopeth, ac rydyn ni’n parhau i weddïo am bopeth!”. Mae Rob yn credu’n gryf bod y fendith maen nhw’n ei fwynhau ar hyn o bryd fel cymuned yn gyntaf ac yn bennaf felly yn deillio o’r Arglwydd – ac nid o’i waith ef ei hunan neu eu gwaith nhw fel eglwys.
“Fe wnaethon nhw weddïo am bopeth, ac rydyn ni’n parhau i weddïo am bopeth!”.
Mae rhai o’r atebion hyn i weddi wedi cynnwys gweld pobl newydd yn symud i’r ardal, yn cael eu denu i’w heglwys, ac yn dewis aros. Yn ogystal, maent wedi gweld sawl sydd wedi byw yn yr ardal ers amser maith a oedd unwaith efallai yn gysylltiedig gydag eglwys – ond am ba bynnag rheswm wedi pellhau oddi wrth ffydd – yn dychwelyd ac yn dewis gwneud Eglwys Bedyddwyr y Trallwng yn gartref iddynt.
Mae’r niferoedd ychwanegol hefyd wedi dod â heriau i’r eglwys – rhai y mae Rob yn cyfaddef nad yw llawer o weinidogion fel efe sy’n gweddïo am dwf o reidrwydd yn sylweddoli y gallant godi!
Her ymarferol iawn yw y gall y nifer reolaidd o fynychwyr ragori ar gapasiti cyfforddus adeilad capel Chelsea Lane. Mae hyn wedi golygu bod angen i’r eglwys fynd ar daith – a chwrdd mewn lleoliadau heblaw am adeilad y capel. Mae’r rhain wedi cynnwys: neuadd y dref, canolfannau cymunedol, adeiladau gwesty lleol – ymhlith eraill. Fodd bynnag, nid oes yr un o’r lleoliadau hyn wedi cyflwyno eu hunain yn ddelfrydol: gyda llawer yn cymryd archebion tymhorol sy’n cymryd blaenoriaeth dros yr eglwys.
Mae’r niferoedd ychwanegol hefyd wedi dod â heriau i’r eglwys – rhai y mae Rob yn cyfaddef nad yw llawer o weinidogion fel efe sy’n gweddïo am dwf o reidrwydd yn sylweddoli y gallant godi!
Mae Rob yn ansicr am eu camau nesaf fel eglwys: tra mai darganfod cartref newydd parhaol i’r eglwys yw eu gweddi, does dim opsiynau clir wedi cyflwyno eu hunain eto. Mae’r tymor hwn o ‘deithio’ fel eglwys wedi bod yn brawf ffydd, gydag angen weithiau i ‘ymgartrefu â’r anhrefn’! Mynega Rob, serch hynny, bod cymuned yr eglwys wedi gwneud argraff arbennig arno yn y ffordd y maent wedi cwrdd â heriau, ymgartrefu ag ansicrwydd, a chynnal bodlonrwydd i drïo pethau newydd.
Efallai nad yw’r eglwys mewn tymor “hawdd” fel y cyfryw – hyd yn oed ar ôl profi bendith twf – ond maent yn sicr wedi eu gosod mewn lle da ar gyfer taith ffydd wrth iddynt barhau i geisio’r Arglwydd am y camau nesaf, un y maent yn gweddïo fydd yn eu tyfu mewn ffydd a chymeriad, ac mewn nifer.
Gallwch ddarganfod mwy am Eglwys Bedyddwyr y Trallwng ar eu wefan, neu weld y diweddaraf ar Facebook.