Yr Wyddor: L

Newyddion a Digwyddiadau

Y diweddaraf gan Undeb Bedyddwyr Cymru

Lewis – David Wyre (1872-1966)

Bydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn cofio lluaws o weinidogion dylanwadol ac arwyddocaol eu cyfraniadau ar hyd ei hanes fel enwad, a bydd enw David Wyre Lewis yn un o’r enwau amlwg hynny.  Ganwyd ef ar aelwyd John a Jane Lewis y ‘Felinganol’, ym mhentref Llanrhystyd yn Sir Ceredigion…

Darllen mwy »

Leeke – Samuel James ( 1888 – 1966 )

Ganed Samuel James Leeke ar 28 Mawrth 1, 1888. Roedd yn fab i Samuel ac Anne Leeke, Talybont, Ceredigion, a hwythau wedi priodi ym Mryste 20 Tach. 1884.  Saer coed oedd y tad wrth ei alwedigaeth, a bu wrth ei waith  am ugain mlynedd. Cyn hynny bu yn ymarfer ei…

Darllen mwy »

Lloyd – Richard (1883-1961)

Ganed Richard Lloyd ym Mhontrhydfendigaid yn Chwefror 1883 y chweched plentyn allan o naw  i dyddynnwr o’r enw John Lloyd, a’i briod Catherine.  Enwau ei frodyr a’i chwiorydd oedd Margaret, David, Catherine, Mary, Eleanor, Martha, Annie a John. Nid oedd llawer o fywoliaeth ar y tyddyn, a  symudodd y tad…

Darllen mwy »

Lloyd – Griffith Richard Maethlu (1902-1995)

Hawdd dweud bod Griffith Richard Maethlu Lloyd yn un o blant Ynys Môn, o ran ei anian a’i acen.  Ganed ef yng Nghaergybi ar 25 Ionawr 1902, yr hynaf o ddau fab David Lloyd, gweinidog gyda’r Bedyddwyr, a’i briod, Elizabeth, merch Griffith Williams, Hensiop, Llanfaethlu. Fe’i codwyd yng nghwmni ei…

Darllen mwy »

Lewis – Bertie Hubert (1906-1967)

Ganed Hubert Lewis yn Ionawr 1906, yn blentyn cyntaf David a Mary Ann Lewis.  Bu’r ddau yn aelodau gydol oes ym Methesda, Ponthenri, ac yn 16 oed, bedyddiwyd Hubert fel ei rieni, a’i dderbyn yn aelod cyflawn o’r eglwys.  Am ddeng mlynedd, bu yn löwr fel ei dad, yn y…

Darllen mwy »