Sefydlu gwaith Cymraeg newydd yn Sir Benfro: Rhwyd y Brenin 

Mae sefyllfa’r dystiolaeth Gristnogol Gymraeg yn Sir Benfro wedi bod yn fater o gonsyrn i nifer dros y blynyddoedd diwethaf. Dros y flwyddyn a fu teimlodd Geraint Morse ac eraill yn alwad i sefydlu gwaith newydd iaith Gymraeg yn Hwlffordd, gyda’r weledigaeth o gyrraedd dysgwyr Cymraeg, teuluoedd a phobl ifanc yn ne’r Sir yn enwedig. Bwriad Geraint a’r criw oedd cynnal oedfa Gymraeg, gan ddechrau yn fisol yn Hwlffordd ar brynhawn Sul cyntaf y mis.  

Ar y 6ed o Hydref, dyma griw arweinwyr Rhwyd y Brenin yn cyfarfod i weddïo cyn croesawu’r ymwelwyr cyntaf i’r oedfa agoriadol. Daeth 30 i’r oedfa, 8 plentyn a 22 o oedolion. Cawsant oedfa hyfryd ar y thema “Diolchgarwch”. Medd Geraint: “Mae’n dyled yn fawr i staff Undeb Bedyddwyr Cymru am arweiniad a chefnogaeth, ac i Emmanuel, Merlins Bridge am bob cefnogaeth wrth agor drysau’r capel i’n croesawu. Byddwn yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth mewn gweddi i’r prosiect, ac os ydych yn rhydd ar brynhawn Sul cyntaf y mis, ac yn dymuno galw mewn, mae croeso mawr yn eich disgwyl!” 

Dyma fynd i holi Geraint ar ddechrau mis Rhagfyr am ddiweddariad ar y gwaith…

Beth sy’n digwydd mewn oedfa arferol erbyn hyn, Geraint?  

Er bod yr oedfa’n dechrau am 3 y.p. bydd y criw sy’n arwain yr oedfa’n ceisio bod yno tua 2 yp er mwyn gweddïo, paratoi a threfnu’r ystafell. Ar ôl gosod yr ystafell, y sain ayyb mae cael tîm croesawu’n bwysig, felly bydd o leiaf dau berson ar ddyletswydd, un wrth y drws allanol a’r llall wrth y drws mewnol.  

Bydd yr oedfa’n dechrau gyda thua deng munud o addoliad di-dor, yn gymysgedd o emynau traddodiadol a chyfoes. Yna daw neges i’r plant fydd yn dod i eistedd o flaen y llwyfan gyda chân yn dilyn. Bydd rhywun yn darllen o’r Beibl gyda neges yn dilyn. Canwn emyn i gloi’r cyfarfod a’r cyfan yn parhau am rywle rhwng 45 a 55 munud. Rhaid cael paned a sgwrs am o leia’ 30 munud cyn clirio’r ystafell! Does dim gweddi hir, dim ond dwy neu dair gweddi fer. Does dim casgliad, ond mae blwch yn y cefn i dderbyn arian os ydy pobl yn dymuno gwneud!  

Beth yw iaith y cyfarfodydd?  

Cynhelir y cyfarfodydd yn uniaith Gymraeg, ond byddwn yn darparu ar gyfer rhai nad ydynt yn deall llawer o Gymraeg o bosib. Bydd yr emynau’n ymddangos ar y sgrin yn ddwyieithog a’r mwyafrif llethol yn canu yn y Gymraeg. Bydd y darlleniad Beiblaidd yn ymddangos ar y sgrin a’r neges ar pwerbwynt. Rydym wedi buddsoddi mewn offer cyfieithu. Wrth gwrs, rhaid cael cyfieithydd hefyd, fydd yn gweld amlinelliad o’r neges o flaen llaw, fel arfer. Ond mae trafferthion technegol yn codi! Ein bwriad yw bod yn gyfeillgar i ddysgwyr y Gymraeg, felly mae pwyslais ar iaith syml a siarad ychydig yn fwy araf na’r arfer.  

Sut ydych yn hysbysebu ac o le mae pobl yn dod

Ar hyn o bryd mae’r mwyafrif o bobl wedi dod oherwydd gwahoddiadau personol a hysbysebion ar “Facebook”. Hyd yn hyn, mae’r mwyafrif o’r bobl sydd wedi ymddangos yn yr oedfaon eisoes yn mynychu oedfaon mewn capeli neu eglwysi eraill. O’r nifer yma, mae’r mwyafrif eisoes yn Gristnogion ond yn awyddus iawn i addoli yn yr iaith Gymraeg. Mae rhai wedi ymddangos heb gysylltiad presennol ag eglwys, ond wedi cael cysylltiad yn y gorffennol, efallai yn eu harddegau. Bydd rhai’n dod o gapeli traddodiadol Cymraeg er mwyn profi “oedfa wahanol”.  

Rhwyd y Brenin – the Net of the King

Dwi’n cofio clywed diffiniad da o beth yw efengylu – “Un cardotyn yn dweud wrth gardotyn arall ble i gael bara!” A dyna dwi’n gobeithio bydd yn digwydd. Rydym wedi ceisio cysylltu â’r ysgolion Cymraeg lleol, ond anodd ac araf yw’r siwrne i feithrin perthynas dda rhwng cymuned ffydd a’r ysgolion, yn enwedig wrth ddechrau prosiect cenhadol newydd.  

Beth yw eich gweledigaeth i’r dyfodol?  

Ein gweledigaeth yw rhannu’r newyddion da am Iesu Grist trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn ne Sir Benfro a gweddïo y bydd pobl yn dod i ffydd bersonol ynddo. Rhaid pwysleisio mai prosiect cenhadol yw gwaith Rhwyd y Brenin ac nid eglwys newydd. Pwy a ŵyr beth ddaw o hyn o dan fendith Duw. Rwy’n gweddïo y bydd rhywrai’n ymddangos yn ein plith gyda baich i weld y gwaith yn llwyddo o dan fendith Duw ac yn barod i dderbyn y baton ar gyfer y blynyddoedd nesaf.  

Sut allwn weddïo dros y gwaith?  

Mae cydweithio’n bwysig felly gweddïwch y bydd y criw o saith sydd wedi sefydlu’r gwaith yn cydweithio ac yn arddel a datblygu doniau o fewn y gwaith. Bydd angen doethineb ynglŷn â’r camau nesaf, e.e. sefydlu oedfa arall ar brynhawn Sul ac i gyfarfod ddwywaith y mis. Rydym eisoes wedi dechrau meddwl sut i gynnal rhywbeth wythnosol e.e. cyfarfod dros baned am sgwrs neu astudiaeth fer. Ac wrth gwrs, os ydy’r gwaith mynd i dyfu bydd angen cyllid, grantiau, rhoddion ayb. Yn bennaf oll, gweddïwch y bydd yr Ysbryd Glân yn symud yn rymus yn ein plith. Ac os ydych yn y cyffiniau ar brynhawn dydd Sul cyntaf y mis, dewch, ymunwch â ni ac ewch i ddweud wrth eraill ac i weddïo drosom. Y cyfeiriad yw “Emmanuel”, 87 Pembroke Road, Pont Faglen, Hwlffordd SA61 1LN.  

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau

Esgyn – trwy’r storm!

Mae sawl peth arbennig am Esgyn.  Pobl ifanc yn eu harddegau yn dod at eu gilydd i fwynhau ac addoli Iesu.   Arweinwyr ifanc brwdfrydig yn dangos i’r criw beth mae dilyn Iesu yn cynnig. Ac un peth arall sydd yn bwysig…

Darllen mwy »