Mae Undeb Bedyddwyr Cymru’n awyddus i benodi unigolyn(/ion)* i weithio gyda’r Undeb mewn dau faes allweddol: cenhadaeth a chyfathrebu digidol.
Pwrpas y Swydd: I weithio mewn dau faes allweddol sef cenhadaeth a chyfathrebu digidol, i gefnogi, datblygu a gweithredu rhaglen strategol o genhadaeth ymysg Eglwysi a Chymanfaoedd a bod yn gyfrifol am gyfathrebu effeithiol, a chynorthwyo’r Undeb ac Eglwysi i ymgysylltu â chenhadaeth Duw mewn oes dechnolegol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn Gristion sy’n ymarfer y ffydd ac yn llwyr gefnogol i amcanion elusennol Undeb Bedyddwyr Cymru. Oherwydd natur y swydd, mae hyn yn Ofyniad Galwedigaethol Penodol. Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
* Mae’n bosib ystyried yr hyblygrwydd o rannu swydd.
Lleoliad: Cynigir patrwm gwaith hyblyg gyda chyfleon gweithio o gartref a bydd yn ofynnol i weithio ar draws Cymru.
Ffurflen Gais:
Cyflog: £29,200 – £31,031
Dyddiad cau: 17eg Ebrill 2023
Dyddiad cyfweld: 26ain Ebrill 2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Parch Simeon Baker – Cyfarwyddwr Cenhadaeth
Ffôn: 0345 222 1514 neu ebost: simeon@ubc.cymru