Gobaith y Cynhaeaf: ‘Dyddiau Digonedd’ BMS

Poen a her Newid Hinsawdd, straeon gobaith, ac ysbrydoliaeth ar gyfer Suliau Cynhaeaf o waith Duw trwy ein partneriaid, BMS World Mission…

Tanau gwyllt yng Nghanada a Hawaii, sychder yn Ne Ewrop… dyma’r math o benawdau torcalonnus a welwyd yn y newyddion yr haf hwn, a’r wir boen a chost sydd yn dod gyda Newid Hinsawdd mewn cymunedau ac ecosystemau ar draws y byd.

Mae ein partneriaid, BMS World Mission, yn ymateb mewn ffyrdd pwysig i rai o’r heriau a ddaw o Newid Hinsawdd mewn cymunedau yn Uganda, trwy eu hapêl, ‘Dyddiau Digonedd’. Maen nhw’n ein hannog ni i ymuno â nhw yr hydref hwn, fel unigolion ac fel eglwysi yn ein digwyddiadau cynhaeaf.

Mae BMS yn gweithio ar y cyd gyda chymunedau amaethyddol yn Uganda i ddod â gobaith a newid yng nghanol heriau enbyd. Maen nhw’n gweld gwir newid wrth iddyn nhw arfogi ffermwyr gyda hadau gwrth-sychder, hyfforddiant mewn technegau newydd, a chymorth bugeiliol ac ysbrydol i deuluoedd a effeithwyd yn ddwfn gan fwrn emosiynol yr heriau y maen nhw yn eu hwynebu.

Maen nhw hefyd yn pwyntio at obaith Iesu a geiriau Dyw yng nghanol y sialensau hyn:

“Rwyf wedi dweud hyn wrthych er mwyn i chi, ynof Fi, gael tangnefedd. Yn y byd hwn fe gewch orthrymder, ond codwch eich calon, rwyf fi wedi gorchfygu’r byd” Ioan 16:33

(geiriau gobaith ddewiswyd gan Benon Kayanja, Gweithiwr Cenhadol BMS)

Y cynhaeaf hwn, mae BMS yn ein gwahodd ni i glywed rhai o’r straeon a’r myfyrdodau o obaith sy’n codi o Uganda, ac i ystyried sut y gallwch ymuno â nhw yn y gwaith holl-bwysig hwn ymhlith rhai o’r cymunedau a effeithiwyd waethaf gan Newid Hinsawdd.

Pam lai cael golwg ar ddeunydd ‘Dyddiau Digonedd’ BMS isod, sydd yn cynnig ysbrydoliaeth ar gyfer Suliau cynhaeaf, ac yn ein hannog ni i weddio, ystyried ac ymateb yn ymarferol i rai o’r cwestiynau anodd a heriau yr ydyn ni’n eu hwynebu trwy Newid Hinsawdd.

Fideo a gwefan apêl: BMS Harvest 2023 | Days of Plenty (bmsworldmission.org)

Deunydd Cymraeg: Dyddiau Digonedd prif nodwedd – isdeitlau yn y Gymraeg – BMS World Mission

Anogwyd ni gan waith BMS wrth i ni hefyd lansio ein hapêl 2023-24 gyda Cymorth Cristnogol eleni i gefnogi gwaith tebyg ochr yn ochr â chymunedau yn Simbabwe effeithiwyd gan Newid Hinsawdd. Cadwch lygaid mas ar ein tudalen ‘Apeliadau’ a chyfryngau cymdeithasol yn ystod mis Medi ar gyfer mwy o wybodaeth a deunydd..

Chwilio

Newyddion a Digwyddiadau