Lewis – Bertie Hubert (1906-1967)

Ganed Hubert Lewis yn Ionawr 1906, yn blentyn cyntaf David a Mary Ann Lewis.  Bu’r ddau yn aelodau gydol oes ym Methesda, Ponthenri, ac yn 16 oed, bedyddiwyd Hubert fel ei rieni, a’i dderbyn yn aelod cyflawn o’r eglwys.  Am ddeng mlynedd, bu yn löwr fel ei dad, yn y pwll lleol ac yn weithgar ym mywyd yr eglwys.  Dechreuodd bregethu a phan roedd yn 24 oed, ceisiodd am le yng Ngholeg Myrddin, yng Nghaerfyrddin, ac yn y flwyddyn ddilynol, cafodd ei dderbyn yng Ngholeg y Presbyteriaid yn y dref.

Ar ôl ei gyfnod yn y coleg, derbyniodd wahoddiad Libanus, Eglwys y Bedyddwyr yng Nhrefforest gerllaw Pontypridd yn 1935,  a threulio pedair blynedd yno. Roedd cwm ei fagwraeth yn blethiad o’r amaethyddol a’r diwydiannol, gyda’r Gymaeg yn brif iaith yr ardal helaeth, ond yn Nwyrain Morgannwg, roedd Saesneg wedi dod yn fwyfwy amlwg.  Roedd y blaengarwch gwleidyddol yn amlycach yn y cymoedd, ac yn Nhrefforest y sefydlwyd yr Ysgol Löfaol i hyfforddi darpar reolwyr y pyllau glo.  Er mai cyfnod byr fu Hubert yn Nhrefforest, roedd yn siwr o ledu ei orwelion.

Ardal, nid anhebyg oedd Sciwen, ac yn 1939, treuliodd Hubert Lewis gyfnod o naw mlynedd yn bugeilio saint Calfaria.  Yn 1948, symudodd yn ôl i’r dwyrain a threulio tair blynedd yn Caersalem, Dowlais.  Prin bu’r amser iddo weld llawer o ddatblygiad ym mywyd yr eglwys, ac roedd hyn mewn cyfnod o weld yr iaith Gymraeg yn llai amlwg, ac amgylchiadau economaidd yr eglwys yn dioddef hefyd. Roedd rhagflaenwyr Mr Lewis wedi byw mewn tai cyngor, ond erbyn 1948, roedd llai o dai ar gael i’w rhentu, a mentrodd yr eglwys i brynu tŷ ar ei gyfer.  Oherwydd y dirywiad iethyddol, cefnogodd Caersalem yr alwad am sefydlu ysgol Gymraeg yn y gymuned, a defnyddiwyd festri eglwys Moreia i’r diben hwnnw.  Cam diddorol arall yn y cyfnod oedd bod eglwysi yn methu cynnal y weinidogaeth, fel gwnaed cyn yr Ail Ryfel Byd, a derbyniwyd bod angen ystyried gweinidogion rhan-amser.  Hefyd derbyniwyd y rheidrwydd o weld gwragedd gweinidogion yn cael swyddi yn y meysydd lle byddent wedi cael hyfforddiant. Gan fod gwraig Hubert Lewis yn nyrs hyfforddedig, hi oedd y cyntaf o wragedd gweinidogion Caersalem i gael swydd felly.

Yn 1951, teithiodd eto i bentref Pontarddulais, gan weithio fel gweinidog Eglwys y Babell am 11 mlynedd.  Dioddefodd afiechyd pellach a bu’n rhaid iddo ymddeol o’r weinidogaeth yn 1962, ac yntau ond yn 56 mlwydd oed.  Arhosodd i fyw yn y pentref a bu farw yn 1967.   Dywedodd John Rowland Jones amdano, yn Llawlyfr 1968 –

Roedd yn ŵr o argyhoeddiad cryf, a phregethai’n gwbl ddiofn, gan gyflwyno’r Efengyl yn ei llawnder.  Ni allodd afiechyd parhaus ei rwystro rhag cyflawni diwrnod llawn o waith ymhob un o’i feysydd”.

Gadawodd ei weddw a’i ferch i hiraethu ar ei ôl.

Cofnodydd: Denzil John.