Apêl Timothy Richard

Mission Icon

Yn 2019 roedd Undeb Bedyddwyr Cymru wedi nodi union ganmlwyddiant marwolaeth un o’n cenhadon mwyaf adnabyddus – Timothy Richard.

Mae Timothy Richard yn arwr Cymreig, er nad oes llawer yn gwybod ei enw. Mae ei arwriaeth yn deillio o’i wasanaeth i Iesu Grist a’i wasanaeth i’w gymdogion mewn gwlad dramor. Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, anfonodd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr ef i Tsieina ym 1869 ac fe’i hadwaenir fel un o genhadon mwyaf arloesol ei ddydd, a gwelir ei waddol yng ngwaith y Gymdeithas Genhadol – y BMS – hyd heddiw. Fe chwaraeodd ran bwysig yn ystod Newyn Mawr Tsieina 1876-1879, a sefydlu prifysgol Tsieineaidd-Gorllewinol a oedd yn teimlo’n angerddol ynghylch rôl addysg fel ffordd o leddfu ac atal dioddefaint. Fe’i parchwyd gymaint gan yr awdurdodau yn Tsieina – am ei angerdd, ei drugaredd a’i barch tuag at eu diwylliant – fel y’i gwobrwywyd â statws Urdd y Ddraig Ddwbwl.

Mae eglwysi Cymru angen arwyr Cymreig, Cristnogion sydd wedi gwneud gwahaniaeth, arloeswyr sy’n gallu ysbrydoli ein cynulleidfaoedd i wasanaethu Duw yn well a charu ein cymydog – ble bynnag y bônt.

Pa ffordd well o ddathlu cyfraniad Richard a’i waith cenhadol arloesol na thrwy gefnogi gwaith y BMS o drawsnewid bywydau plant ffoaduriaid o Syria yn Lebanon?

Mae’r hyn y gall eglwysi Cymru ei wneud yn syml:

  • Gwneud casgliad arbennig yn eich eglwys ar gyfer Apêl Timothy Richard 
  • Rhannu’r ffilm a’r cyflwyniad PowerPoint am Timothy Richard a gwaith y BMS ymysg plant ffoaduriaid Syriaidd yn eich gwasanaeth 
  • Defnyddio’r PowerPoint i gyflwyno’ch eglwys i’r plant y byddant yn eu helpu, a defnyddio syniadau “Sut i gymryd rhan” a’r ffilm i’w hysbrydoli 
  • Ewch i bmscymru.org i ddod o hyd i fwy o adnoddau

Wrth inni gofio gwaith Timothy Richard, byddwn yn gofyn i’r un eglwysi a’i cefnogodd dros ganrif yn ôl i ymateb i achos y credwn y byddai wedi bod yn agos iawn i’w galon: darparu addysg i blant mewn gwlad sydd wedi ei rhwygo gan drychineb.

Gallwch chi, yn bersonol, helpu plant fel Gabi a Maher – dau fachgen Syriaidd sy’n byw mewn pabell a heb weld eu cartref yn Syria ers blynyddoedd oherwydd y rhyfela yno. Maent yn byw yn Lebanon erbyn hyn – gwlad tua hanner maint Cymru – sydd wedi cymryd 1.5 miliwn o ffoaduriaid. Gallwch chi eu helpu nhw a phobl dros y byd, drwy annog eich eglwys i gefnogi Apêl Timothy Richard a gofyn i’ch cyd-aelodau i roi’n hael.

Mae’r gwaith y mae Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr – y BMS – eisoes yn ei wneud mewn canolfan addysg y tu allan i Beirut yn newid bywydau plant ac yn rhoi gobaith iddynt. Drwy gydweithio â’r Eglwys yn Lebanon, mae cariad Crist i’w weld ar waith yn ymarferol a’r rhodd o addysg yn cael ei roi i bobl yn enw Iesu. Mae’n achos y byddai Timothy Richard yn ei gymeradwyo gan iddo arwain yr apêl ddyngarol gyntaf gan Gristnogion o’n gwlad ni i gynorthwyo y sawl oedd yn dioddef yn ystod newyn mawr yn Tsieina.

Os daw eglwysi Cymru ynghyd mewn ffydd, credwn y bydd Duw yn gwneud pethau mawr gyda’n rhoddion. Gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fwy o blant fel Gabi a Maher, os gallwn godi £40,000 gyda’n gilydd. Rwy’n credu y gallwn wneud hynny! Ac fe ddylem hefyd.

Hyd yn oed yn ystod yr amseroedd ansicr yma, rydym yn credu yn Nuw gobaith. A wnewch chi ymuno ag eglwysi eraill o deulu’r Bedyddwyr i wneud Apêl Timothy Richard yn fwy llwyddiannus nag y gallwn ei ddychmygu? A wnewch chi ddylanwadu eraill a’u hysbrydoli i helpu’r plant?

Ymunwch â ni i ddathlu arwr Cymreig go iawn mewn ffordd Gristnogol. Helpwch ni i wneud gwahaniaeth.